Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 17 Ionawr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu eich datganiad heddiw—ac nid dim ond dweud hynny ydw i; fel y gwyddoch, rwyf wir yn croesawu'r potensial y mae’r fframwaith hwn yn ei gynnig i Gymru ac, yn wir, y DU ar gyfer y dyfodol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gefnogol iawn o fframwaith cyllidol ers peth amser bellach, ac ers iddi ddod yn amlwg ein bod am gael trethi wedi’u datganoli, bod hynny’n mynd i ddigwydd, a bod dirfawr angen setliad ariannu newydd, neu o leiaf terfyn neu gyfyngiad ar y wasgfa Barnett blaenorol. Felly, mae'n newyddion da bod y Trysorlys wedi cytuno i ffactor yn seiliedig ar anghenion gael ei bennu ar 115 y cant; gwnaethoch sôn am y paramedrau y cyfeiriodd comisiwn Holtham ato yn eich ateb i Adam Price. Nid yw hwnnw hyd yn oed ar waelod y paramedrau hynny, mae o fewn iddynt, felly mae hwnnw wedi’i osod ar lefel dda. Hefyd, rwy’n cydnabod y ffactor trosiannol o 105 y cant, felly, ar yr olwg gyntaf o leiaf, mae’n ymddangos bod hwn yn fargen dda i Lywodraeth Cymru.
Rhywbeth sy’n allweddol i ddatganoli trethi, fel y dywedasoch chi, yw'r addasiad priodol i'r grant bloc fel nad yw Cymru yn cael ei chosbi yn ddiangen. Dyna ddiben y broses hon, wrth gwrs, a'r egwyddor y gwnaethoch chi a'ch rhagflaenydd, Jane Hutt, gadw ati, y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am y penderfyniadau ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ond dylai Llywodraeth y DU barhau i ysgwyddo ei chyfran hi o risg ar gyfer y penderfyniadau y mae'n eu gwneud—nid yw bob amser yn egwyddor hawdd ymlynu ati, ond mae’n rhywbeth sy'n gwbl hanfodol os ydym ni’n mynd i sicrhau setliad cyfiawn a theg ar gyfer Cymru yn y dyfodol, a system drethiant gyfiawn a theg.
Felly ychydig o gwestiynau: yn gyntaf, a wnewch chi gadarnhau unwaith eto bod hwn yn gytundeb parhaol ac nad yw'n destun mympwyon Llywodraeth yn y dyfodol a allai ystyried adfachu, neu o leiaf tynnu peth o'n cyllid ychwanegol yn ôl? Rwy’n meddwl y gwnaethoch grybwyll swm wedi’i amcangyfrifo o £1 biliwn yn ystod y ddegawd gyntaf. Beth yw natur y cytundeb hwnnw? Rydych chi wedi dweud o'r blaen ei fod yn fwy parhaol na'r trefniant blaenorol yn Senedd ddiwethaf y DU—pa mor barhaol ydyw? Mae hynny'n bwysig iawn. A allwch chi roi mwy o fanylion i ni am sut y mae’r fframwaith yn ystyried amgylchiadau Cymru, yn enwedig ein sylfaen treth incwm, sydd yn amlwg â chanran is o drethdalwyr cyfradd uwch na de-ddwyrain Lloegr, ac, rwy’n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud, nifer bach o drethdalwyr cyfradd uwch sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu cyfran fwy i'r gyfradd dreth uwch yng Nghymru nag sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr?
Gwnaethoch sôn am eich bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru o fis Ebrill 2019; yn amlwg, rhan bwysig iawn o'ch datganiad heddiw. A gaf i ofyn i chi, a yw'n fwriad gennych i gadw’r cyfraddau cychwynnol yn debyg i’r rhai hynny yn Lloegr, o leiaf yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf? Gwn yn achos trethi eraill—y dreth stamp, y dreth tirlenwi—bod Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr egwyddor, o leiaf yn y cyfnod trosiannol, y dylai pethau gael eu cadw yr un peth yr ochr hon i'r ffin ag ar draws y ffin er mwyn caniatáu ar gyfer cysondeb, ac i bobl addasu i'r drefn newydd. Nid wyf yn disgwyl ichi ddweud wrthym ni beth fydd y cyfraddau newydd—rydych chi’n gwenu, oherwydd yn amlwg ni fyddech yn gwneud hynny, ni fyddai unrhyw Weinidog Cyllid yn gwneud hynny—nid wyf yn gofyn i chi beth fyddai'r cyfraddau. Rwyf yn gofyn i weld a ydych chi’n mynd i ddefnyddio egwyddor debyg gyda threth incwm â’r trethi eraill, neu os—[Torri ar draws.] Wel, efallai eich bod yn ystyried cyfraddau is neu gyfraddau uwch. Nid wyf i’n gofyn hynny, rwy'n gofyn: a ydych chi’n ystyried—mewn ffordd anuniongyrchol—dull gwahanol o ddefnyddio’r trethi hynny? Ond rwy'n credu eich bod am osgoi fy nghwestiwn, felly ni fyddaf yn ôl pob tebyg yn cael ateb i hynny, ond hoffwn ei glywed ar ryw adeg.
Mae newid yn y boblogaeth wedi’i grybwyll yn y ddogfen. Rydym yn gwybod y bu hwnnw'n fater allweddol; yn arbennig, roedd yn fater yn nhrafodaethau’r Alban â'r Trysorlys. Caiff Cymru ei heffeithio mewn ffordd wahanol. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am sut y caiff newid yn y boblogaeth ei gynnwys yn yr hafaliad fel nad yw newidiadau yn nhwf y boblogaeth yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf, beth bynnag y byddant, yn effeithio'n andwyol ar ein cyllidebau ni?
Gan droi at gronfa wrth gefn sengl newydd Cymru, ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn swnio fel gwelliant enfawr—llawer rhwyddach, llawer mwy syml. Sut bydd y gronfa wrth gefn honno yn gweithio'n ymarferol? A fydd cap ar y gronfa wrth gefn, terfyn amser, neu a fydd yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf i Lywodraeth Cymru, a fydd, yn amlwg, ynghyd â'r pwerau benthyca newydd, rwy’n dychmygu, yn dod yn arf hynod o bwysig wrth reoli gwariant amlflwydd a chynllunio ariannol?
Yn olaf, gofynnais i chi yr wythnos diwethaf am ddatrys anghydfod rhwng y Llywodraethau yn y dyfodol. Mae Adam Price wedi gofyn i chi yn fanwl am hynny, felly ni fyddaf yn diflasu’r Siambr drwy barhau â'r broses o gyfryngu, ac eithrio i ofyn: soniasoch yn eich sylwadau i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf eich bod yn meddwl y byddai'n bwysig bod proses adolygu ar waith, ac rwy’n meddwl y gall Llywodraeth Cymru alw un adolygiad mewn cyfnod o flwyddyn, a gall Llywodraeth y DU wneud hynny hefyd. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am sut y byddai'r broses honno’n gweithio a beth sy’n digwydd os oes digwyddiad annisgwyl yn dod i ran y ddwy Lywodraeth, a bod angen adolygiad brys rhwng yr amserau penodol hynny sydd wedi’u pennu i adolygiad gael ei gynnal.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd—Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni’n croesawu'r datganiad hwn, rydym yn croesawu’r fframwaith newydd. Efallai nad yw’n berffaith—ychydig iawn o bethau sy’n berffaith mewn bywyd—ond mae ben ac ysgwydd yn well na’r hyn a oedd gennym o'r blaen ac mae'n gosod fframwaith newydd ar gyfer y dyfodol, a chredaf y bydd hynny’n cael ei groesawu yn eang. Mae hon, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi eu gwahaniaethau o'r neilltu ac yn gweithio tuag at yr hyn sydd, yn y pen draw, er budd gorau Cymru.