– Senedd Cymru am 3:01 pm ar 17 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y fframwaith cyllidol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Cyn i’r Cynulliad hwn drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ym Mil Cymru yn hwyrach y prynhawn yma, hoffwn wneud datganiad ynghylch y fframwaith cyllidol a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fis diwethaf.
Wrth i Fil Cymru symud ymlaen drwy Senedd y DU, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir y byddai'n rhwystr sylweddol i gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Cymru pe na bai modd i ni ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar drefniant cyllido teg, hirdymor i Gymru. Rwy'n credu bod y fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynd i'r afael â’r pryder hwnnw. Mae'n cynnig cam ymlaen yn y ffordd yr ariennir Cymru, gan ystyried y pwerau treth newydd a fydd yn cael eu datganoli yn 2018, ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau treth incwm Cymru yn 2019. Byddaf yn nodi fy marn fy hun yn bendant ar ddechrau'r datganiad hwn, Lywydd: fy nghred i yw bod hwn yn fframwaith cyllidol sy'n deg i Gymru ac sy’n deg i weddill y Deyrnas Unedig. Mae'n golygu nad yw trefniadau cyllidol yn rhwystr i gefnogi Bil Cymru bellach, os mai dyna yw bwriad y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Cytunwyd ar y fframwaith yn dilyn cyfnod dwys o drafodaethau â Thrysorlys EM. Mae’r canlyniad yn becyn cymhleth o drefniadau rhyng-gysylltiedig. Wrth eu gwraidd y mae diwygio fformiwla Barnett, fel y'i cymhwysir i Gymru. Am y tro cyntaf, rydym wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar ddull ariannu a fydd yn adlewyrchu anghenion cymharol ein poblogaeth. Mae diwygio fformiwla Barnett yn benllanw blynyddoedd lawer o sylwadau gan Lywodraethau Cymru olynol. Rhoddaf deyrnged arbennig i waith fy rhagflaenydd, Jane Hutt, a gyflawnodd gam pwysig ymlaen o ran sicrhau’r cytundeb cyntaf erioed i gyllid gwaelodol i Gymru. Rwyf hefyd am gydnabod cefnogaeth pleidiau eraill yn y Siambr hon, sydd wedi dangos eu hymrwymiad i sicrhau bargen deg i Gymru ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y cytundeb trawsbleidiol cryf hwnnw wedi bod yn wirioneddol ddylanwadol wrth gyflawni'r setliad ariannu hwn.
Bydd y fframwaith yn gweld y cyllid gwaelodol a argymhellwyd gan gomisiwn Holtham yn cael ei roi ar waith ac mae'n cael ei osod o fewn amrediad Holtham ar 115 y cant o'r gwariant cymharol yn Lloegr. Er bod cyllid cymharol yng Nghymru yn parhau i fod uwchlaw'r lefel hon, bydd yr holl gyllid drwy fformiwla Barnett yn cael ei luosi â ffactor trosiannol o 105 y cant. Bydd hyn yn arafu cydgyfeirio Barnett ac yn darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu y bydd y cytundeb yn ei gyfanrwydd yn darparu hyd at £1 biliwn o refeniw ychwanegol i Gymru yn ystod ei 10 mlynedd gyntaf.
Mae'r fframwaith cyllidol yn nodi'r addasiad grant bloc ar gyfer trethi datganoledig. Bydd treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018. Cafodd y fframwaith ei drafod yn benodol i gytuno ar y trefniadau y byddai eu hangen pe byddai Bil Cymru yn cael ei basio, os mai dyna fydd ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU, gan gynnwys cael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm ar dreth incwm. Mae'r fframwaith fel y cytunwyd arno yn ystyried amgylchiadau Cymru, yn enwedig ein sylfaen treth incwm, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr. Bydd hyn yn gwarchod cyllideb Cymru rhag effaith newidiadau polisi sylweddol posibl gan Lywodraeth y DU.
Ar y sail honno, yr wyf i heddiw yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru o fis Ebrill 2019, yn amodol ar basio Bil Cymru. Bydd cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru, ynghyd â threth trafodiadau tir, treth gwarediadau tirlenwi a threthi sydd eisoes yn bodoli—ardrethi annomestig a threth gyngor—yn rhoi cyfres newydd o ysgogiadau treth i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwariant cyhoeddus ac i fod yn sail i lwyddiant economi Cymru.
Lywydd, o ran agweddau eraill ar y cytundeb, bydd mwy o ddatganoli trethi yn cynyddu ffynhonnell cyfalaf yn ogystal â gwariant refeniw i Gymru. Yn y fframwaith cyllidol, bydd ein terfyn benthyca cyfalaf yn dyblu o £500 miliwn i £1 biliwn. Bydd hyn yn rhoi'r gallu i ni reoli'r buddsoddiad seilwaith sydd ei angen i gefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn well. Bydd y terfyn benthyca uwch hwnnw yn cael ei gyflwyno pan fydd cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru yn cael eu rhoi ar waith.
Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni reoli ein hadnoddau mewn modd mwy effeithlon a thryloyw, mae’r fframwaith yn caniatáu i gronfa wrth gefn sengl newydd ar gyfer Cymru gael ei chyflwyno o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hon yn gweithredu fel rhyw fath o gyfrif cynilo, gan ein galluogi i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw ansefydlogrwydd yn y refeniw treth drwy gadw refeniw heb ei wario i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Bydd y gronfa wrth gefn hefyd yn ein galluogi i reoli'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn heb fod angen trafodaethau blynyddol â’r Trysorlys.
Lywydd, rydym ni hefyd wedi sicrhau goruchwyliaeth annibynnol yn rhan o'r fframwaith cyllidol. Am gyfnod rhy hir, mae'r Trysorlys wedi gallu gweithredu fel barnwr a rheithgor mewn trafodaethau cyllido. Gwnaeth comisiynau Holtham a Silk argymell swyddogaeth i gyrff annibynnol i oruchwylio materion ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae hyn wedi ei gytuno bellach yn y fframwaith cyllidol. Yn y dyfodol, bydd hyn yn berthnasol i weithrediad y fframwaith a bydd yn cynnwys swyddogaeth ar gyfer cyrff sy’n annibynnol ar y Llywodraeth i gyfrannu os bydd unrhyw anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch gweithrediad y fframwaith ei hun. Gyda'i gilydd, bydd y pecyn hwn o drefniadau yn cynnig trefn gyllido sy'n adlewyrchu anghenion cymharol Cymru, yn diogelu ein cyllideb rhag risgiau gormodol a allai ddilyn datganoli trethi, ac yn cryfhau gallu Llywodraeth Cymru i reoli ein hadnoddau ein hunain.
Lywydd, dywedais ar y dechrau bod y cytundeb yn ddigonol i’w gwneud yn bosibl i Fil Cymru gael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Wrth i ni symud tuag at y ddadl cynnig cydsyniad deddfwriaethol, fodd bynnag, mae’n rhaid i mi hefyd, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, gadarnhau bod natur ryngberthynol y darpariaethau yn y fframwaith yn golygu, os na fydd Bil Cymru yn cael ei basio, na chaiff y fframwaith cyllidol ei weithredu fel yr wyf wedi ei amlinellu y prynhawn yma. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai'n rhaid i ni ail-drafod yr addasiad i’n grant bloc er mwyn caniatáu ar gyfer datganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Ni fyddai modd gwybod yn glir pa rai o'r mesurau eraill y gellid eu sicrhau ac ar ba gost hyd nes y byddai’r aildrafodiadau eu hunain wedi’u cynnal. Yn y cyfamser, Lywydd, rwy’n cymeradwyo'r fframwaith hwn, a gynlluniwyd i fodloni amgylchiadau unigryw Cymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diolch i’r Llywydd ac i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd am y cyfle i weld y trawsgrifiad o’r cyfarfod diweddar a gawsant. Mae yna lawer i’w groesawu yn y fframwaith newydd yma, ond, yn yr amser sydd gen i, rydw i am ffocysu ar dri pheth yn benodol, sef: gweithrediad fformiwla Barnett; y dull i addasu grant bloc Cymru yn unol â datganoli trethi newydd; a’r broses o ddelio gydag unrhyw anghydfod.
Nawr, fel sydd wedi cael ei ddweud, mae yna fecanwaith newydd yn y fframwaith—llawr Barnett o 115 y cant ar gyfer addasiadau i’r grant bloc. Tybed a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu sôn ychydig bach mwy—pam dewis y ffigwr yma? Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n cofio, yn adroddiad Gerry Holtham, roedd yna amrediad wedi cael ei gynnig o ran gweithio mas anghenion Cymru o 114 y cant i 117 y cant; mae’r ffigwr yma’n nes at waelod yr amrediad yna. Ac, o ystyried, wrth gwrs, ein bod ni’n sôn am fframwaith a fydd yn para am ddegawdau, a all sôn tamaid bach ynglŷn â’r broses o’i adolygu, os ydy sefyllfa Cymru, o ran ein hanghenion ni, yn newid? Wrth gwrs, roedd Gerry Holtham, wrth ddod i’r ffigwr yma, wedi gosod mas y gwahanol ffactorau. Mae’n bosibl—neu mae’n debyg—y bydd y sefyllfa yna’n newid dros amser, felly beth yw’r broses sy’n cael ei rhagweld ar gyfer adolygu, os oes rhaid?
O ran y sefyllfa gyda’r dull o addasu’r grant bloc, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi pwyntio mas yr effaith negyddol o ran y sefyllfa gydag SDLT, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth ynglŷn â’r lefel cymaroldeb isel iawn—25 y cant, os rwy’n cofio’n iawn. Mi oedd yna awgrym yn adroddiad y ganolfan llywodraethiant ynglŷn â sut i wella tegwch y sefyllfa yna drwy eithrio, wrth gwrs, y farchnad eiddo yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, sydd yn gwyro’r ffigurau yma. Pam nad oedd y Llywodraeth wedi mynnu bod yr awgrym hwnnw, neu awgrymiadau eraill i ddelio gyda’r math yma o ffactor, wedi’u cynnwys yn y cytundeb? Mi oedd y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus yn cael consesiynau eraill, felly pam agor ein hunain i bosibiliadau cyllidol negyddol yn sgil y methiant i wneud hynny?
Yn olaf, a allaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet sôn ychydig bach yn fwy am y broses o ddelio gydag unrhyw anghydfod? Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd yna rôl ar gyfer cyngor annibynnol trwy gorff annibynnol newydd ar yr ochr Gymreig. Fodd bynnag, o ddarllen y ddogfen, mae’n ymddangos i fi, er gwaethaf y ffaith y bydd yna dystiolaeth annibynnol ar gael, fe fydd hi i fyny i’r ddwy Lywodraeth, wedyn, i ddod ag unrhyw anghydfod i ben. A gaf i ofyn am un senario posib? Mae yna sôn yn y ddogfen am effeithiau ymddygiadol. Er enghraifft, pe bai’r gyfradd dreth ychwanegol yng Nghymru yn cael ei gostwng, fe fyddai’n golygu bod pobl yn croesi’r ffin. Byddai hynny, wedyn, â goblygiadau trethiannol i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’r adroddiad yn dweud, yn y sefyllfa yna o effeithiau ymddygiadol, os nad ydy’r ddwy Lywodraeth yn dod i gytundeb, ni fydd unrhyw beth yn digwydd, felly, os rwy’n darllen y ddogfen yn iawn, byddai modd torri’r gyfradd yna, ac, er gwaethaf y ffaith bod yna effaith ymddygiadol, os nad ydy Llywodraeth Cymru’n cytuno, ni fyddai unrhyw beth yn deillio, yn negyddol, i sefyllfa gyllidol Cymru yn sgil y newid hwnnw.
Diolch i Adam Price am y cwestiynau manwl hynny. A diolch am beth y dywedodd ar y dechrau am groesawu nifer o bethau yn y fframwaith. Rwy’n mynd i droi at y cwestiynau nawr.
As far as Barnett is concerned, the figure of 115 per cent is within the 114 to 117 per cent range of Holtham; it’s the figure that Holtham himself most often uses in describing the extent to which Welsh needs exceed those of our colleagues across the border. The most fundamental part of this agreement is not simply the figure itself, it is the recognition that those needs exist and it is making sure that they are fixed in the way the funding will flow between the Treasury and Wales into the future.
As to the block grant adjustment, it’s very important, Dirprwy Lywydd, to see the fiscal framework in the round. There are a number of complex and interlocking parts of it. We looked very carefully at whether or not it was possible to discover a mutually agreeable comparator for SDLT and it’s partly because there were some technical problems with that, which the Treasury felt they were unable to solve, that we’ve ended up with the Barnett multiplier of 105 per cent within the agreement. There are checks and balances within it. I think it’s important to say to Members that we shouldn’t automatically assume that receipts in Wales from land transaction tax will lag behind SDLT receipts in England. The Office for Budget Responsibility, in its November forecast for the autumn statement, assumes that SDLT receipts in Wales will more than double between 2015-16 and 2021-22, while estimating that, in the rest of the UK, the increase in receipts will be around 50 per cent. So, it’s by no means inevitable that the differences between Wales and the rest of the UK will be to our detriment. If they turn out to be to our detriment, then the Barnett multiplier is there to provide a corrective and to ensure that Wales is protected from any such adverse consequences.
There were a number of questions that the Member asked about the way in which disputes within the framework will be negotiated and the role of independent oversight in that. The framework sets out a step-up process in which, if there are issues that are identified by either side within the framework, the first step is for those to be worked on at official level, for information to be agreed between Wales and the UK Treasury, and to have those resolved by officials. If that is not possible, then it moves to the Joint Exchequer Committee, where the finance Minister for Wales would sit with the Chief Secretary to the Treasury, and those disputes are to be resolved there. If failure to resolve the issues happens at the Joint Exchequer Committee, then there is further recourse to those dispute resolution mechanisms set out in the devolution guidance notes. At all points in that process, there are independent rights for both Governments to deploy independent advice, which both Governments can independently secure. And that’s a very important breakthrough; we’ve never had that before. And in many ways, we were reliant on the grounds that the Scots had won in negotiating their fiscal framework, because they secured that in their agreement, we were able to point to that and say that we weren’t able to settle for anything less.
If, in the end, there is no agreement between the two Governments, then the status quo prevails. Now, you may say that that could mean that there will be adverse circumstances for Wales, where we could not persuade the Treasury, but from my point of view, more importantly, in a set-up where power is not equally distributed on both sides of the table, that means that the Treasury is no longer able, by its own unilateral decisions, to impose anything on Wales. And so it is a power that cuts both ways, but I think it will be more significant in our hands than it would be in the Treasury’s.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu eich datganiad heddiw—ac nid dim ond dweud hynny ydw i; fel y gwyddoch, rwyf wir yn croesawu'r potensial y mae’r fframwaith hwn yn ei gynnig i Gymru ac, yn wir, y DU ar gyfer y dyfodol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gefnogol iawn o fframwaith cyllidol ers peth amser bellach, ac ers iddi ddod yn amlwg ein bod am gael trethi wedi’u datganoli, bod hynny’n mynd i ddigwydd, a bod dirfawr angen setliad ariannu newydd, neu o leiaf terfyn neu gyfyngiad ar y wasgfa Barnett blaenorol. Felly, mae'n newyddion da bod y Trysorlys wedi cytuno i ffactor yn seiliedig ar anghenion gael ei bennu ar 115 y cant; gwnaethoch sôn am y paramedrau y cyfeiriodd comisiwn Holtham ato yn eich ateb i Adam Price. Nid yw hwnnw hyd yn oed ar waelod y paramedrau hynny, mae o fewn iddynt, felly mae hwnnw wedi’i osod ar lefel dda. Hefyd, rwy’n cydnabod y ffactor trosiannol o 105 y cant, felly, ar yr olwg gyntaf o leiaf, mae’n ymddangos bod hwn yn fargen dda i Lywodraeth Cymru.
Rhywbeth sy’n allweddol i ddatganoli trethi, fel y dywedasoch chi, yw'r addasiad priodol i'r grant bloc fel nad yw Cymru yn cael ei chosbi yn ddiangen. Dyna ddiben y broses hon, wrth gwrs, a'r egwyddor y gwnaethoch chi a'ch rhagflaenydd, Jane Hutt, gadw ati, y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am y penderfyniadau ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ond dylai Llywodraeth y DU barhau i ysgwyddo ei chyfran hi o risg ar gyfer y penderfyniadau y mae'n eu gwneud—nid yw bob amser yn egwyddor hawdd ymlynu ati, ond mae’n rhywbeth sy'n gwbl hanfodol os ydym ni’n mynd i sicrhau setliad cyfiawn a theg ar gyfer Cymru yn y dyfodol, a system drethiant gyfiawn a theg.
Felly ychydig o gwestiynau: yn gyntaf, a wnewch chi gadarnhau unwaith eto bod hwn yn gytundeb parhaol ac nad yw'n destun mympwyon Llywodraeth yn y dyfodol a allai ystyried adfachu, neu o leiaf tynnu peth o'n cyllid ychwanegol yn ôl? Rwy’n meddwl y gwnaethoch grybwyll swm wedi’i amcangyfrifo o £1 biliwn yn ystod y ddegawd gyntaf. Beth yw natur y cytundeb hwnnw? Rydych chi wedi dweud o'r blaen ei fod yn fwy parhaol na'r trefniant blaenorol yn Senedd ddiwethaf y DU—pa mor barhaol ydyw? Mae hynny'n bwysig iawn. A allwch chi roi mwy o fanylion i ni am sut y mae’r fframwaith yn ystyried amgylchiadau Cymru, yn enwedig ein sylfaen treth incwm, sydd yn amlwg â chanran is o drethdalwyr cyfradd uwch na de-ddwyrain Lloegr, ac, rwy’n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud, nifer bach o drethdalwyr cyfradd uwch sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu cyfran fwy i'r gyfradd dreth uwch yng Nghymru nag sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr?
Gwnaethoch sôn am eich bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru o fis Ebrill 2019; yn amlwg, rhan bwysig iawn o'ch datganiad heddiw. A gaf i ofyn i chi, a yw'n fwriad gennych i gadw’r cyfraddau cychwynnol yn debyg i’r rhai hynny yn Lloegr, o leiaf yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf? Gwn yn achos trethi eraill—y dreth stamp, y dreth tirlenwi—bod Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr egwyddor, o leiaf yn y cyfnod trosiannol, y dylai pethau gael eu cadw yr un peth yr ochr hon i'r ffin ag ar draws y ffin er mwyn caniatáu ar gyfer cysondeb, ac i bobl addasu i'r drefn newydd. Nid wyf yn disgwyl ichi ddweud wrthym ni beth fydd y cyfraddau newydd—rydych chi’n gwenu, oherwydd yn amlwg ni fyddech yn gwneud hynny, ni fyddai unrhyw Weinidog Cyllid yn gwneud hynny—nid wyf yn gofyn i chi beth fyddai'r cyfraddau. Rwyf yn gofyn i weld a ydych chi’n mynd i ddefnyddio egwyddor debyg gyda threth incwm â’r trethi eraill, neu os—[Torri ar draws.] Wel, efallai eich bod yn ystyried cyfraddau is neu gyfraddau uwch. Nid wyf i’n gofyn hynny, rwy'n gofyn: a ydych chi’n ystyried—mewn ffordd anuniongyrchol—dull gwahanol o ddefnyddio’r trethi hynny? Ond rwy'n credu eich bod am osgoi fy nghwestiwn, felly ni fyddaf yn ôl pob tebyg yn cael ateb i hynny, ond hoffwn ei glywed ar ryw adeg.
Mae newid yn y boblogaeth wedi’i grybwyll yn y ddogfen. Rydym yn gwybod y bu hwnnw'n fater allweddol; yn arbennig, roedd yn fater yn nhrafodaethau’r Alban â'r Trysorlys. Caiff Cymru ei heffeithio mewn ffordd wahanol. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am sut y caiff newid yn y boblogaeth ei gynnwys yn yr hafaliad fel nad yw newidiadau yn nhwf y boblogaeth yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf, beth bynnag y byddant, yn effeithio'n andwyol ar ein cyllidebau ni?
Gan droi at gronfa wrth gefn sengl newydd Cymru, ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn swnio fel gwelliant enfawr—llawer rhwyddach, llawer mwy syml. Sut bydd y gronfa wrth gefn honno yn gweithio'n ymarferol? A fydd cap ar y gronfa wrth gefn, terfyn amser, neu a fydd yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf i Lywodraeth Cymru, a fydd, yn amlwg, ynghyd â'r pwerau benthyca newydd, rwy’n dychmygu, yn dod yn arf hynod o bwysig wrth reoli gwariant amlflwydd a chynllunio ariannol?
Yn olaf, gofynnais i chi yr wythnos diwethaf am ddatrys anghydfod rhwng y Llywodraethau yn y dyfodol. Mae Adam Price wedi gofyn i chi yn fanwl am hynny, felly ni fyddaf yn diflasu’r Siambr drwy barhau â'r broses o gyfryngu, ac eithrio i ofyn: soniasoch yn eich sylwadau i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf eich bod yn meddwl y byddai'n bwysig bod proses adolygu ar waith, ac rwy’n meddwl y gall Llywodraeth Cymru alw un adolygiad mewn cyfnod o flwyddyn, a gall Llywodraeth y DU wneud hynny hefyd. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am sut y byddai'r broses honno’n gweithio a beth sy’n digwydd os oes digwyddiad annisgwyl yn dod i ran y ddwy Lywodraeth, a bod angen adolygiad brys rhwng yr amserau penodol hynny sydd wedi’u pennu i adolygiad gael ei gynnal.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd—Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni’n croesawu'r datganiad hwn, rydym yn croesawu’r fframwaith newydd. Efallai nad yw’n berffaith—ychydig iawn o bethau sy’n berffaith mewn bywyd—ond mae ben ac ysgwydd yn well na’r hyn a oedd gennym o'r blaen ac mae'n gosod fframwaith newydd ar gyfer y dyfodol, a chredaf y bydd hynny’n cael ei groesawu yn eang. Mae hon, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi eu gwahaniaethau o'r neilltu ac yn gweithio tuag at yr hyn sydd, yn y pen draw, er budd gorau Cymru.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau. Rwyf wedi dweud yn rheolaidd yn y Siambr hon, yn ystod y cyfnod yr oeddem yn trafod y fframwaith cyllidol, a byddai Mr Ramsay yn gofyn cwestiynau wrthyf amdano yn y fan hon, y byddwn yn cyfeirio at ei ddiddordeb ef a diddordeb yr Aelodau eraill yn ystod fy nhrafodaethau â'r Prif Ysgrifennydd. Ac mae bob amser wedi bod yn offeryn defnyddiol i mi fod y Prif Ysgrifennydd yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cadw llygad gofalus iawn ar y ffordd yr oedd y trafodaethau hynny yn cael eu cynnal.
Fe drof at ei gwestiynau penodol. Gallaf, gallaf gadarnhau bod hwn yn gytundeb parhaol. Roedd y trefniant newydd y gwnaeth Jane Hutt ei sicrhau, sef cael y cytundeb â'r egwyddor o arian gwaelodol, i barhau am gyfnod o un adolygiad o wariant. Mae hon bellach yn nodwedd barhaol o'r trefniant. Mae ein sylfaen treth incwm, fel y dywedodd Nick Ramsay—un o'r rhannau pwysig iawn o'r fframwaith yw nad ydym ond yn agored i’r elfen o dreth incwm sydd wedi ei datganoli mewn gwirionedd. 10c o’r cyfraddau uwch ac ychwanegol sylfaenol yw hynny. Mae hynny’n ystyried cryfder cymharol sylfaen y dreth yng Nghymru ym mhob band—mae gennym fwy o drethdalwyr yn y band sylfaenol; mae gennym lai, yn gymharol, yn y bandiau cyfraddau uwch ac ychwanegol—ac mae hyn yn golygu bod ein cyllideb yn agored i lai o risg o dwf gwahaniaethol ar frig y dosbarthiad incwm. Mae’r gallu hwnnw i drafod cymharydd gwirioneddol, ond sy’n cyd-fynd â natur talwyr treth incwm yng Nghymru, yn rhan bwysig iawn o'r fframwaith hwn.
Bydd y cyfraddau treth incwm yn wir yn dod i Gymru o fis Ebrill 2019. Ni fyddaf yn gallu dweud unrhyw beth arwyddocaol amdanynt tan yn nes o lawer at yr amser. Rydym wedi arddel yr ymagwedd ar gyfer y dreth trafodiadau tir a gwrthweithio osgoi a’r dreth gwarediadau tirlenwi ei bod yn bwysig yn y cyfnodau cynharaf iawn i wneud yn siŵr bod y system sydd gennym yn gweithio'n dda a’i bod yn adnabyddus i’r bobl hynny sy'n gyfrifol am wneud iddi weithredu. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y dadleuon hynny yn ddylanwadol erbyn mis Ebrill 2019 hefyd.
Tynnodd Nick Ramsay sylw at y mater o newid yn y boblogaeth. Mae poblogaeth yn elfen bwysig iawn yn y fframwaith cyllidol. Yn fersiwn yr Alban, mae'r risgiau o ran poblogaeth yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU. Yn ein fframwaith ni, mae’r risgiau’n cael eu cymryd gennym ni yng Nghymru. Mae hynny'n rhannol oherwydd ein bod mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn. Roedd poblogaeth yr Alban ar droad y ganrif hon 3 y cant yn is nag yr oedd 30 mlynedd ynghynt, ond roedd poblogaeth Cymru a Lloegr 6 y cant yn uwch. Dros y ddegawd ddiwethaf, mae'r boblogaeth wedi cynyddu yng Nghymru ac yn yr Alban, ond mae poblogaeth Cymru wedi tyfu'n gyflymach na phoblogaeth yr Alban, ac mae'r rhesymau am y twf yn wahanol. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ymfudo rhyngwladol net fu’n gyfrifol am dros 50 y cant o’r twf ym mhoblogaeth Lloegr; dros 60 y cant o’r twf ym mhoblogaeth yr Alban; ond llai na 40 y cant yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod yn llawer llai agored i arafu mewn mudo rhyngwladol yn y cyfnod ôl-Brexit.
Gofynnodd Nick Ramsay am y gronfa wrth gefn sengl i Gymru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r pecyn yn ei gyfanrwydd. A oes cap arni? Oes, mae yna—sef £500 miliwn—ac mae cap ar yr arian y ceir ei dynnu ohoni hefyd. Byddwn yn gallu codi, mewn unrhyw flwyddyn unigol, gwerth £125 miliwn o refeniw, ac mae hynny o’i gymharu â £75 miliwn o refeniw yr ydym yn gallu ei gario ymlaen o dan y trefniadau presennol, a byddwn yn gallu tynnu gwerth £50 miliwn o gyfalaf ohoni, o'i gymharu â £20 miliwn o dan y trefniadau presennol. Rwyf wedi gorfod cydnabod, yn fy nhrafodaethau â’r Prif Ysgrifennydd, fod ganddo gyfrifoldeb i reoli cyllideb y DU yn gyffredinol, a bod yn rhaid iddo fod â rhai paramedrau y gall ddibynnu arnynt wrth wneud hynny. Credaf fod cronfa wrth gefn Cymru ar lefel a fydd yn gweithio i Gymru, ac y bydd yr arian a gaiff ei dynnu ohoni’n flynyddol yn ddigon i ddiwallu ein hanghenion.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, sôn am y broses adolygu. Mae'r broses adolygu yn caniatáu i’r ddwy Lywodraeth, yn annibynnol, alw am adolygiad llawn o’r trefniadau, unwaith, yn achos Llywodraeth Cymru, yn ystod tymor Cynulliad, ac unwaith, yn achos Llywodraeth y DU, mewn tymor seneddol, ond nid yw hynny'n atal cytundeb ar adolygiadau eraill o fewn yr amserlen honno, pe byddai rhywbeth annisgwyl yn dod i'r amlwg a bod hynny’n angenrheidiol. Ond mae'r gallu cyfartal, a’r gallu annibynnol, i'w gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad yn agwedd bwysig iawn ar y fframwaith ac mae’n well nag unrhyw beth sydd gennym ar hyn o bryd.
Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu eglurder datganiad Ysgrifennydd y Cabinet? A gaf i groesawu yn fawr iawn y corff annibynnol ar gyfer ymdrin ag anghytuno? Fel y mae pobl wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y fan hon, rwy’n credu ein bod wedi cael bargen wael iawn o Gemau Olympaidd Llundain. Rwy’n credu y dylem, yn ôl pob tebyg, fod wedi cael yn nes at 20 gwaith cymaint ag y cawsom, a gobeithio, y bydd hyn yn mynd i’r afael â’r mathau hynny o broblemau.
A sôn am ymddygiad, ni fu unrhyw newid ymddygiad oherwydd y gwahaniaethau enfawr yn y dreth gyngor rhwng awdurdodau lleol. Ni fu rhuthr o'r Fenni i Allt yr Ynn ac ni fu rhuthro ar draws ffin Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro oherwydd bod y trethi cyngor yn sylweddol llai.
Mae gennyf dri chwestiwn. Yn gyntaf, mae’r ddwy dreth o bwys sy’n cael eu datganoli yn drethi hynod gylchol. Ac rydym yn gwybod bod y gallu i amrywio cyfraddau treth incwm wedi’i ddatganoli i'r Alban ers 1999. Gwyddom hefyd nad yw wedi cael ei ddefnyddio. Mae amrywio'r cyfraddau trethi yn anhygoel o anodd. Os byddwch yn ei chynyddu o’i gymharu â Lloegr: bydd y cyhoedd yn digio. Os byddwch yn ei lleihau: bydd gostyngiad mewn refeniw a thoriadau i wasanaethau. Nid yw’n syndod o gwbl nad yw’r Alban wedi amrywio eu cyfradd i fod yn anghyson â gweddill y Deyrnas Unedig, ac wrth i weddill y Deyrnas Unedig amrywio’r cyfraddau, mae’r Alban wedi dilyn.
Bydd anhawster mawr hefyd wrth nodi trethdalwyr Cymru, yn hytrach na threthdalwyr Lloegr. A chafwyd problem yn yr Alban, sydd â ffin llawer llai agored, lle ceir llawer llai o symud dros y ffin na’r hyn a geir rhwng Cymru a Lloegr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y mesurau diogelwch sydd ar waith o ran edrych ar bob band yn unigol, a gwarchod cyllideb Cymru yn gyffredinol fel canran o gyllideb Lloegr, yn rhoi digon o amddiffyniad?
Dyma’r ail gwestiwn: gwnaethom bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, felly, a yw hynny'n golygu y gall yr ardoll gyfanredol bellach gael ei datganoli i Gymru pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac y gall trethi eraill sydd wedi'u heithrio gan reolau’r Undeb Ewropeaidd bellach gael eu hystyried i fod wedi’u datganoli? O ran terfynau cyfalaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet, fel fi, o’r farn bod y terfyn yn fympwyol? Ac a yw'n rhannu fy mhryderon y bydd y terfyn yn cael ei ystyried yn darged, yn hytrach nag yn derfyn, ac na fydd y ddadl a ddylai fod yn digwydd am fforddiadwyedd a chanlyniadau refeniw gwariant cyfalaf, yn digwydd yn yr un modd, os, yn hytrach na chael terfyn mympwyol a bennwyd gan y Trysorlys, bod yn rhaid i ni ymgymryd â benthyca darbodus a bod yn rhaid i ni mewn gwirionedd gyflwyno achos dros y benthyca hwnnw a dangos y gallu ariannol yn y dyfodol i ymwneud â’r benthyca hwnnw, yn hytrach na chael targed a cheisio ei gyrraedd?
Wel, rwy’n cofio'r trafodaethau â'r Trysorlys am y Gemau Olympaidd. Ac mae'n enghraifft berffaith o adeg, yn yr achos hwnnw, pan oedd y Trysorlys yn farnwr ac yn rheithgor ac yn orfodwr o’r canlyniad, ac ni waeth pa mor gryf oedd y dadleuon ar yr ochr arall, nid oedd yn barod i’w hystyried o gwbl. Mae'r cytundeb hwn yn golygu na fyddai’r sefyllfa honno yn codi yn y dyfodol.
Gofynnodd Mike Hedges am newidiadau ymddygiadol, a, Ddirprwy Lywydd, efallai y dylwn i, am eiliad—oherwydd credaf fod nifer o Aelodau wedi gofyn hyn—esbonio agwedd eithaf technegol ar y cytundeb, sef sut yr ydym yn ymdrin â’r hyn a elwir yn gorlifo polisi. Felly, ymdrinnir â thri gwahanol fath o orlifo polisi yn y fframwaith. Pan fo effeithiau uniongyrchol, felly os byddai Llywodraeth y DU yn newid lwfansau treth incwm, yna rhoddir ystyriaeth uniongyrchol i’r effeithiau hynny yn y fframwaith. Os oes effeithiau ymddygiadol, pe byddem yn newid cyfraddau treth trafodiadau tir yng Nghymru a bod hynny’n arwain at bobl yn dod i fyw yng Nghymru, a phe bai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r dreth a gymerir ar y naill ochr i'r ffin neu’r llall, yna bydd y fframwaith yn caniatáu i’r effeithiau ymddygiadol hynny, yn eithriadol, gael ystyriaeth pan fyddan nhw’n faterol ac yn amlwg. Felly, mae yna effeithiau ymddygiadol y gellir rhoi ystyriaeth iddyn nhw, ond rwy’n credu y bydden nhw’n brin iawn ac rwy’n credu y gosodwyd rhwystr addas.
Cyn belled ag y bo effeithiau eilaidd yn y cwestiwn, pan allai camau gweithredu, er enghraifft, a gymerwn fel Cynulliad Cenedlaethol arwain at economi Cymru fwy bywiog ac y byddai hynny’n arwain at fwy o gyfraniadau yswiriant gwladol gan drethdalwyr Cymru yn llifo i’r Trysorlys, rydym ni wedi cytuno bod y rheini’n rhy gymhleth i’w holrhain, ac y byddai bron yn amhosibl i ddangos achos ac effaith. Nid yw effeithiau eilaidd hynny, felly, wedi eu cynnwys yn y fframwaith.
Gofynnodd Mike Hedges am sut y nodir trethdalwyr, ac mae'n hollol wir bod Cyllid a Thollau EM wedi ei chael hi’n anodd i nodi’r trethdalwyr a oedd yn byw yn yr Alban. Rydym o’r farn eu bod wedi dysgu llawer o’r profiad hwnnw, ac mae’n rhan o’r prosiect trethi datganoledig sydd gennym ar y cyd â CThEM i ddysgu’r gwersi o brofiad yr Alban ac i wneud yn siŵr y gellir nodi trethdalwyr Cymru mewn ffordd effeithiol.
A oes digon o ddiogelwch yn y cytundeb yr ydym wedi’i gyrraedd? Wel, dywedais yn fy natganiad ein bod ni o’r farn, o ystyried sefyllfaoedd canolog o ran y boblogaeth, twf gwariant cyhoeddus a phatrymau derbyniadau treth yn y gorffennol, fod y cytundeb hwn yn cyflawni gwerth £1 biliwn o refeniw ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru dros y 10 mlynedd nesaf. Os ydych yn cymryd na fydd twf mewn gwariant cyhoeddus o gwbl, ei fod yn parhau wedi’i rewi ar y lefel bresennol am y 10 mlynedd nesaf, byddem yn dal i fod ar ein hennill o £500 miliwn. Felly, credaf fod y diogelwch yn ddigonol.
Ynghylch yr ardoll agregau, wel, yn anffodus nid ydym wedi gallu datrys hyn eto. Mae'n parhau i fod yn destun anghydfodau cyfreithiol, a gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd, pan fydd hynny’n digwydd, fod yn ffordd o'u datrys, ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.
Yn olaf, mae terfynau cyfalaf yn anochel yn fympwyol mewn un ffordd neu'r llall. Rydym wedi cytuno ar derfyn sy'n gymesur â'r terfyn a fyddai gan yr Alban pan oedd ganddi lefel debyg o ddatganoli cyllidol. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges: mae’r benthyca cyfalaf yno i’w ddefnyddio yn ôl yr angen. Nid targed i’w gyrraedd mohono, ac mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ddefnyddio adnoddau cyfalaf, a bydd craffu manwl ar ein gallu i gyllido arian a fenthycwyd trwy refeniw mewn cyfnod pan fydd y cyni ariannol yn parhau i leihau faint o refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Holais Ysgrifennydd y Cabinet yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher diwethaf, ac mae trawsgrifiad o’r sesiwn honno wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau, felly nid wyf yn bwriadu ymdrin eto â’r cyfan a drafodais bryd hynny ynghylch rhai o’r agweddau mwy technegol ar y fframwaith cyllidol, er fy mod wedi fy modloni ar y cyfan â’r ymatebion a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet.
Hoffwn godi dau faes. O fewn y telerau cyfyng y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u gosod o ran diogelu refeniw Llywodraeth Cymru, efallai ei fod yn meddwl ei fod yn gwneud gwaith eithaf da o fewn y fframwaith cyllidol. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn amod angenrheidiol ond nid amod digonol ar gyfer amddiffyn buddion trethdalwyr Cymru. Hoffwn ofyn a yw’n rhannu fy mhryder ynghylch anghymesuredd posibl o ran sut y bydd pwerau treth incwm datganoledig yn gweithio, a'r potensial i newid cyfraddau treth incwm Cymru o fewn band o 10 y cant. Deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y maniffesto Llafur na fyddai'r cyfraddau hyn yn cael eu newid yn ystod y Cynulliad hwn. Ond pe bai ei Lywodraeth ef neu Lywodraeth arall yn ceisio cynyddu cyfradd treth incwm Cymru yn y dyfodol, byddai hynny’n arwain at ddwy effaith. Un, byddai yna gyfradd uwch a byddai’r gyfradd uwch, ei hun, yn cynyddu refeniw, ond byddai hefyd o bosibl yn cael effaith ar y sylfaen treth incwm, a gellid gosod o leiaf peth o'r cynnydd refeniw hwnnw yn erbyn yr hyn a ddisgrifiodd yn effeithiau ymddygiadol. Yn y drefn arfaethedig, byddai’r holl fudd o'r incwm uwch hwnnw yn mynd i Lywodraeth Cymru, a byddai'r rhan fwyaf o gost unrhyw effaith ymddygiadol yn mynd i Lywodraeth y DU. O ystyried mai gan Lywodraeth Cymru y mae’r pŵer i newid y gyfradd honno, onid yw hynny’n creu anghymesuredd, lle ceir cymhelliant i godi trethi oherwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr holl fudd refeniw o hynny, ond y bydd y rhan fwyaf o gost refeniw y newidiadau ymddygiadol yn cael ei hysgwyddo gan Lywodraeth y DU nad yw'n gwneud y penderfyniad hwnnw?
Hoffwn i hefyd ofyn pryd y gwnaed penderfyniadau yn y maes hwn. Buom yn trafod o'r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn ymddangos bod gennych bwerau rhagweld rhyfedd. Roeddech chi wedi dweud wrthym, o leiaf, y byddai Aelodau Llafur y Cynulliad yn pwyso a mesur hyn yn ofalus dros y penwythnos ac yn gwneud penderfyniad neithiwr, rwy’n credu—nos Lun neu bryd bynnag—yn eich cyfarfod. Fodd bynnag, mae paragraff 14 o'r fframwaith cyllidol yn datgan yn glir y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn dod yn y pen draw o ddwy ffrwd ariannu ar wahân, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru. Felly, trwy arwyddo hynny, gwnaethoch chi a David Gauke dybio y byddai’r datganoli cyfraddau treth incwm yn digwydd. Gwnaethoch chi ateb ac awgrymu fod hynny efallai yn gamgymeriad neu na ddylwn i roi gormod o bwyslais ar hynny, ac mewn gwirionedd nad oedd wedi’i benderfynu ac y bydd pawb yn ei ystyried yn ofalus cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Wedyn cyfeiriais at faniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn gynharach eleni, a nodi ei bod yn datgan ynddo:
‘Gwarant i beidio â chynyddu Treth Incwm yn ystod tymor nesaf y Cynulliad pan fydd y pwerau hyn wedi eu datganoli i Senedd Cymru’.
Pam, os bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud na wnaed unrhyw benderfyniad, bod y cyfan yn dibynnu ar y fframwaith cyllidol ac Aelodau Cynulliad Llafur yn pwyso a mesur pethau, pam y gwnaeth maniffesto Llafur nodi’n bendant pa bryd? H.y. mae’r penderfyniad wedi’i wneud. Ar ba bwynt rhwng maniffesto 2015 y Ceidwadwyr ar lefel y DU, pan addawyd y byddai refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm, a maniffesto 2016 Llafur, pan gymerwyd hynny yn ganiataol, y newidiwyd y penderfyniad? Pa drafodaethau a gafodd Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru â Gweinidogion yn Llywodraeth y DU, boed yn ffurfiol neu'n anffurfiol, i gytuno ar fargen i ddatganoli pwerau codi trethi, ar ôl addo yn flaenorol y byddent yn dibynnu ar refferendwm? A pham na fydd Llywodraeth Cymru, ac yn wir Llywodraeth y DU, ar y cyd, yn parchu'r hyn a nododd ar bapur pleidleisio’r refferendwm hwnnw yn 2011: na fyddai datganoli pwerau codi trethi yn dilyn pleidlais ‘ie’? Pam maen nhw wedi torri eu haddewid? [Torri ar draws.]
Ddirprwy Lywydd, gadewch i mi yn gyntaf ymdrin â'r cwestiwn cyntaf—[Torri ar draws.]
A gawn ni wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet?
[Anghlywadwy.]—y mae’n ei wneud ynghylch yr anghymesuredd posibl i effaith cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru, mae hwn yn bwynt a wnaed eisoes gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond bydd unrhyw Lywodraeth Cymru sy’n gwneud penderfyniadau o'r fath rywbryd yn y dyfodol yn dymuno pwyso a mesur yr effaith yn ei chyfanrwydd. Bydd yn ceisio ystyried pa effaith y byddai newid cyfraddau treth incwm Cymru yn ei chael yn yr amgylchiadau anodd a amlinellwyd yn glir iawn gan Mike Hedges yn gynharach, nid yn unig ar drethdalwyr unigol ac ar refeniw Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar economi Cymru. Felly, bydd yn benderfyniad llawer mwy cymhleth nag un a ddehonglwyd dim ond ar y telerau cyfyng hynny y nododd Mark Reckless.
Gerbron y Pwyllgor Cyllid, Ddirprwy Lywydd, gofynnodd Mr Reckless gyfres o gwestiynau technegol perthnasol iawn i mi am y fframwaith cyllidol, ac roeddwn i’n falch iawn o geisio’u hateb, yna gwyrodd i’r math o wleidyddiaeth damcaniaeth gynllwyn y mae wedi’i chynnig i ni y prynhawn yma. Nid wnaed unrhyw gytundeb. Roedd sail y trafodaethau â’r Prif Ysgrifennydd hwnnw a nodwyd yn fy natganiad, pan ddywedais ein bod wedi cychwyn, wrth drafod y fframwaith, yn benodol ar y sail ein bod yn chwilio am y trefniadau y byddai eu hangen pe bai Bil Cymru yn cael ei basio. Nid oedd oherwydd bod Bil Cymru yn sicr o gael ei basio, ond roeddem yn ceisio sicrhau, erbyn i unrhyw bleidleisiau ar Fil Cymru gael eu cymryd, yn enwedig yn y man hwn, y byddwn i’n gallu dweud wrth Aelodau naill ai, ‘Mae gennym fframwaith cyllidol sy'n eich galluogi i bwyso a mesur Bil Cymru yn ei rinweddau ei hun’, neu ‘Mae’r fframwaith cyllidol wedi dod yn rhwystr i allu Llywodraeth Cymru i argymell Bil Cymru i chi’. Cymerwyd y penderfyniad a gymerodd fy ngrŵp neithiwr mewn trafodaeth drylwyr iawn, manwl iawn a fforensig iawn ynghylch Bil Cymru, lle’r oedd y fframwaith cyllidol, fel yr wyf wedi’i ddweud heddiw—ac y mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn flaenorol—bellach yn elfen niwtral. Nid oedd bellach yn rhwystr i benderfynu cefnogi Bil Cymru. Nid oedd cystal fel bod gwerth pleidleisio dros Fil Cymru na ellid ei gefnogi yn ei rinweddau ei hun. Ac mae'r trafodaethau i gyd wedi eu cynnal ar y telerau syml iawn a di-gynllwyn hynny.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad a dweud fy mod i’n gytûn ag e fod y fframwaith cyllidol, fel y mae wedi cael ei gytuno, yn rhoi digon o seilwaith i dderbyn trosglwyddo pwerau trethiannol, nid yn unig y rhai dros dreth incwm, ond hefyd y ddwy dreth arall sydd ar hyn o bryd yn mynd gerbron y Cynulliad drwy’r Pwyllgor Cyllid. Mae yna benderfyniad gwleidyddol arall i’w wneud ynglŷn â Bil Cymru, ond, o safbwynt y fframwaith cyllidol, byddem ni’n hoffi diolch i’r Llywodraeth am y gwaith maen nhw wedi’i wneud, achos rydw i’n meddwl bod hyn yn gymorth mawr i’r Cynulliad wneud y penderfyniadau.
Dau beth sydd gyda fi i’w codi. Yn gyntaf oll, un o’r pethau efallai sy’n cael eu colli yn hyn i gyd, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdano fe, yw’r ffaith bod adolygiad eithaf sylfaenol fan hyn o Barnett, a bod hynny’n rhywbeth rŷm ni wedi bod yn pwyso amdano am rai blynyddoedd. Dechreuodd y broses yma, wrth gwrs, gyda sefydlu Llywodraeth Cymru’n Un a’r penderfyniad i sefydlu, rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, gomisiwn ar y cyd i edrych i mewn i fformiwla Barnett ac anghenion Cymru, wedi’i gadeirio’n gelfydd iawn gan Gerry Holtham. Mae’r adroddiad hwnnw wedi bod yn gynsail i’r gwaith, ac mae’n tanlinellu i fi bwysigrwydd cyngor annibynnol a ffynhonnell annibynnol y wybodaeth er mwyn dadlau yn erbyn y Trysorlys ac yn erbyn Llywodraeth San Steffan. Felly, rydw i yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n gweld ac yn olrhain y broses yma yn ôl i ddyddiau Holtham—mae wedi cymryd bron ddegawd i gyrraedd y pwynt yma.
Ac, ar y cyd-destun yna ynglŷn â phroses annibynnol, mae yna gydnabyddiaeth yn y fframwaith ynglŷn â’r ffaith bod y Llywodraeth yn gallu sefydlu a dibynnu a throi at ffynhonnell annibynnol ar gyfer adolygu ac ar gyfer gwybodaeth. Roedd y Pwyllgor Cyllid yn y gorffennol wedi argymell y dylid sefydlu comisiwn cyllidol i wneud y gwaith yna—dyna beth sydd gyda chi yn yr Alban. Efallai nad oes digon o waith ar gyfer comisiwn llawn ar hyn o bryd, ond beth nad ydych chi eisiau ei wneud yw gorfod troi at ffynhonnell un flwyddyn a ffynhonnell arall y flwyddyn arall, a chyngor annibynnol gan rywun arall rywdro arall. Mae angen adeiladu rhyw fath o ‘corporate memory’, fel petai, dros gyllido a thros ddatganoli cyllidol yng Nghymru.
Felly, byddwn i’n hoffi clywed mwy gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â sut nawr y mae’n mynd i chwilio am y cyngor annibynnol yna, a beth mae’n disgwyl ei sefydlu, o ran corff neu o ran proses, er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a’r dystiolaeth annibynnol i’w gael i Lywodraeth Cymru.
Wel, diolch yn fawr i Simon Thomas am beth a ddywedodd e am y fframwaith ac am y cytundeb. Wrth gwrs fy mod yn cytuno; gwaith Gerry Holtham oedd rhan o’r cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn y trydydd Cynulliad—gwaith yr oeddem ni’n gallu mynd yn ôl ato dro ar ôl tro, ac nid oedd y Trysorlys yn gallu dweud dim byd yn erbyn y gwaith y tu mewn i’r adroddiad. Mae wedi cymryd degawd, fel y dywedodd Simon Thomas, ond roeddem ni’n gallu cyfeirio at waith Gerry Holtham bob tro yn y trafodaethau gyda’r Trysorlys. Nid ydw i’n meddwl fy mod i’n dweud dim byd o’i le wrth ddweud, yn y cyfarfod cyntaf, nad oedd y Trysorlys yn rhy agored i drafod Barnett o gwbl. Roedd hwnnw jest ar ffin y trafodaethau. Ond, ar ôl mynd drwy’r broses, a gyda’r adroddiad a’r waith Gerry Holtham a’r bobl sydd wedi adeiladu ar ei waith e ar ôl yr adroddiad, roedd hwnnw’n hollol bwysig yng ngwaith y trafodaethau gyda’r Trysorlys.
Cododd Simon Thomas y cwestiwn o ble yr ydym ni’n mynd i gael y barnau annibynnol yn y dyfodol. Wel, mae mwy nag un ffordd o gael gwybodaeth fel yna. Rydym ni’n gallu mynd at yr OBR, fel y dywedais i o flaen y Pwyllgor Cyllid. Rydym yn gallu gwneud beth yr oedden nhw wedi ei wneud yn barod yn yr Alban, neu yr ŷm ni’n gallu cael rhywbeth arall sy’n addas i ni yng Nghymru—rydw i’n dal i fod yn agored i drafod y posibiliadau. Rwy’n mynd i’r Alban ddiwedd yr wythnos yma, ac mae cyfle gyda fi yna i drafod gyda’r Gweinidog dros gyllid yn yr Alban a’r bobl sy’n eu cynghori nhw yn y sefyllfa newydd yna. Rydw i yn cytuno gyda Simon Thomas—beth bynnag yr ydym ni’n mynd i wneud yn y dyfodol, bydd yn bwysig i ni allu cael gwybodaeth a chyngor sy’n bwrw o’r un flwyddyn i’r nesaf, ac nid jest i gael rhywun i’w wneud yn flwyddyn 1, a rhywun arall yn flwyddyn 2. So, pwy bynnag sy’n mynd i’w wneud e, rydw i’n cytuno â beth a ddywedodd ef am y pwysigrwydd o gael cyngor sy’n rhedeg o’r un flwyddyn i’r llall.
Diolch. Yn olaf, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolchaf i'r Ysgrifennydd Cyllid am ei ddatganiad. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o gam mawr ymlaen, a hoffwn longyfarch ef a'i ragflaenydd, Jane Hutt, am yr holl waith y maen nhw wedi'i wneud i gyflawni’r datganiad hwn heddiw. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi siarad am ddiwygio fformiwla Barnett ers blynyddoedd. Cyfeiriodd Simon Thomas at hanes y fformiwla pan siaradodd, ac rwy’n credu ei bod yn gyflawniad gwych i gael elfen sy’n seiliedig ar anghenion yn y fformiwla Barnett o’r diwedd, a'r ffaith, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, ei bod mewn gwirionedd yn cydnabod ei bod yn bodoli, ac mae'r 115 y cant, yn fy marn i, yn llwyddiant mawr.
Rwyf i hefyd yn croesawu dyblu’r pwerau benthyca cyfalaf, ond rwy’n croesawu'n arbennig gyflwyniad yr elfen annibynnol i unrhyw drafodaeth neu unrhyw fath o gyflafareddu, a chredaf fod hyn yn llwyddiant mawr, oherwydd gwn nad yw’r Trysorlys yn dymuno bod yn farnwr a rheithgor, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Bu cryn dipyn o gwestiynau manwl eisoes am sut y byddai’r elfen annibynnol hon yn gweithio. A yw'r Ysgrifennydd cyllid wedi edrych ar enghreifftiau o wledydd eraill lle mae wedi dod yn arfer arferol i gael elfen annibynnol ar waith, ac a oes unrhyw beth y credai y gallem ei ddysgu o unrhyw un o’r gwledydd eraill hynny? O'r hyn y mae wedi’i ddweud, credaf ei fod wedi cyfeirio at ddefnyddio, o bosibl, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oes unrhyw gyrff eraill y byddai’n eu hystyried a allai gyflawni'r swyddogaeth hon, ac a oes meddwl agored ganddo o hyd ynghylch creu unrhyw fath o gorff?
Diolchaf i Julie Morgan am yr hyn a ddywedodd ac am dynnu sylw at yr agweddau pwysig hynny ar y fframwaith. Rydym wedi edrych i weld sut mae systemau yn gweithio mewn mannau eraill lle mae cyngor annibynnol yn cyfrannu at wneud penderfyniadau. Rydym wedi edrych yn benodol ar yr Alban, oherwydd, fel y dywedais, mae'n deg cydnabod ein bod yn dilyn yn ôl eu traed i sicrhau’r lefel honno o gyfraniad annibynnol i'r fframwaith. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond mae wedi’i lleoli yn Llundain, a gallech ddadlau ei bod yn gweld y byd ychydig trwy delesgop y Trysorlys. Edrychaf ymlaen at drafod yn yr Alban sut y mae eu comisiwn ariannol yn gweithredu. Fel y dywedodd Simon Thomas, mae gennyf rai amheuon ynghylch a yw comisiwn ariannol llawn yn ymateb cymesur i lefel y datganoli cyllidol sydd gennym yng Nghymru, ond rydym wedi elwa’n aruthrol, er enghraifft, ar waith Canolfan Llywodraethiant Cymru a gwaith y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Felly, mae yna gyrff sy’n bodoli eisoes sy'n darparu cyngor annibynnol a chadarn. Bydd eraill hefyd. Ar hyn o bryd rwy'n agored i nifer o wahanol bosibiliadau. Mae gennym gyfnod o amser. Mae'r fframwaith cyllidol yn caniatáu ar y dechrau i Lywodraeth Cymru weithredu o fewn ei gallu rhagweld ei hun, felly nid oes angen i ni ei ruthro mewn mater o ddyddiau. Rwy’n dymuno dod o hyd i'r cyngor gorau a chymesur sy'n annibynnol arnom ni ac sy’n ein galluogi i’w ddefnyddio, ac rwy'n hapus iawn i barhau i drafod rhinweddau cymharol gwahanol ddulliau gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid ac eraill wrth i ni eu harchwilio yn fanylach.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.