Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolchaf i'r Ysgrifennydd Cyllid am ei ddatganiad. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o gam mawr ymlaen, a hoffwn longyfarch ef a'i ragflaenydd, Jane Hutt, am yr holl waith y maen nhw wedi'i wneud i gyflawni’r datganiad hwn heddiw. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi siarad am ddiwygio fformiwla Barnett ers blynyddoedd. Cyfeiriodd Simon Thomas at hanes y fformiwla pan siaradodd, ac rwy’n credu ei bod yn gyflawniad gwych i gael elfen sy’n seiliedig ar anghenion yn y fformiwla Barnett o’r diwedd, a'r ffaith, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, ei bod mewn gwirionedd yn cydnabod ei bod yn bodoli, ac mae'r 115 y cant, yn fy marn i, yn llwyddiant mawr.
Rwyf i hefyd yn croesawu dyblu’r pwerau benthyca cyfalaf, ond rwy’n croesawu'n arbennig gyflwyniad yr elfen annibynnol i unrhyw drafodaeth neu unrhyw fath o gyflafareddu, a chredaf fod hyn yn llwyddiant mawr, oherwydd gwn nad yw’r Trysorlys yn dymuno bod yn farnwr a rheithgor, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Bu cryn dipyn o gwestiynau manwl eisoes am sut y byddai’r elfen annibynnol hon yn gweithio. A yw'r Ysgrifennydd cyllid wedi edrych ar enghreifftiau o wledydd eraill lle mae wedi dod yn arfer arferol i gael elfen annibynnol ar waith, ac a oes unrhyw beth y credai y gallem ei ddysgu o unrhyw un o’r gwledydd eraill hynny? O'r hyn y mae wedi’i ddweud, credaf ei fod wedi cyfeirio at ddefnyddio, o bosibl, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oes unrhyw gyrff eraill y byddai’n eu hystyried a allai gyflawni'r swyddogaeth hon, ac a oes meddwl agored ganddo o hyd ynghylch creu unrhyw fath o gorff?