Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am nodi ei grynodeb o'r sefyllfa yr ydym ynddi ac am ei argymhelliad ein bod yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw? Gadewch imi ddechrau â rhai materion syml o broses. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol ynglŷn â Bil Cymru ar 21 Tachwedd 2016. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes ef atom ni, a chyflwynwyd adroddiad gennym am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 13 Rhagfyr 2016. Fe’i gwnaethom yn glir bryd hynny y byddai'n annhebygol y byddem yn gallu ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol hwyr yn briodol tra bod y Bil yn dal i fod ar y gweill yn Senedd y DU, ac nid oedd y fframwaith cyllidol cysylltiedig yr ydym wedi ei drafod heddiw wedi ei ddatrys bryd hynny ychwaith. Er bod yr olaf yn wir wedi ei ddatrys, a byddaf yn dychwelyd at hynny, mae’r amserlen fer wedi golygu ein bod wir wedi methu fel pwyllgor ag ystyried yn llawn y memoranda cydsyniad atodol neu ddiwygiedig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 a 13 Ionawr.
Fodd bynnag, mae'n werth atgoffa'r Aelodau o'n hymateb i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol hwnnw, a hefyd o ganfyddiadau ein hadroddiad am Fil Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016. Yn yr olaf, roeddem yn mynegi pryder bod y lle y mae’r Bil yn ei ddarparu i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu yn anodd ei nodi’n glir, ac y gallai fod yn fwy cyfyngol nag y mae ar hyn o bryd. Nodwyd gennym y modd cymhleth y mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol wedi’i fynegi, gan gynnwys nifer a maint y materion a gedwir yn ôl a’r cyfyngiadau. Gwnaethom argymell newidiadau posibl i wella'r Bil yn seiliedig ar rai o'r rheini a awgrymwyd gan y Llywydd a'r Prif Weinidog, neu a ddatblygwyd gan y pwyllgor ei hun. Roedd ein hadroddiad cydsyniad memorandwm deddfwriaethol dilynol yn cydnabod, er bod newidiadau cadarnhaol wedi eu gwneud i'r Bil, a bod diwygiadau pellach wedi’u trefnu ar ôl yr adeg honno ar gyfer y Cyfnod Adrodd, nad oeddent yn newid y problemau sylfaenol gyda'r Bil. Gwnaethom nodi bod y problemau hyn yn debygol o achosi anawsterau i allu'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cyfraith resymegol, hygyrch ar gyfer dinasyddion Cymru, ac ailddatgan ein barn bod Bil Cymru yn parhau i fod yn gymhleth ac yn anhreiddiadwy ac na fyddai'n cyflawni’r setliad parhaol, cydnerth hwnnw y mae pawb yn dymuno ei weld.
Felly, er nad yw’r pwyllgor wedi gallu ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol diweddaraf yn llawn, rwy’n amau y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno bod ein pryderon cyfansoddiadol a deddfwriaethol mwyaf sylweddol yn parhau. Felly, nawr rwy’n mynd i fentro gwneud sylwadau yn bersonol am sylwedd newidiadau diweddar, a gwahodd Aelodau eraill i wneud yr un fath yn y ddadl hon a phleidleisio heddiw. Mae hon yn awr arwyddocaol ym mhroses datganoli, pa bynnag benderfyniad a wnawn heddiw. Nid yw’n ddiwedd y daith, fel y dywedodd y Prif Weinidog—nid o bell ffordd—ond mae'n garreg filltir bwysig, ac mae'n cael ei wneud yn fwy arwyddocaol gan y cyfnod ansicr yr ydym yn byw ynddo. Gyda chefndir Brexit, y newidiadau i wleidyddiaeth ac economeg ryngwladol a domestig a'r angen dybryd i sicrhau bod ein gwleidyddiaeth yma yn berthnasol i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, dylem wneud ein penderfyniad, fel Senedd etholedig, gyda phwysau hynny arnom.
Bydd rhai, yn ddiau, yn dadlau bod hwn yn Fil bach tila; y dylai hyn fod yn alwad seiren o rwystro uchelgeisiau datganoli ac yn alwad i'r gad. Nawr, bydd eraill, efallai rhai yn ystafelloedd Tŷ Gwydyr â’u carpedi dwfn, dim llai, yn dadlau bod hyn yn fuddugoliaeth. Y gwir, yn fy marn i, yw nad yw hwn yn achos i ddathlu nac yn achos i’n taflu ein hunain oddi ar Bulpud y Diafol ar fynydd Bwlch. Mae arnom angen asesiad sobr. Mae'n wir, yn ddi-os, bod hwn, ar adegau, wedi ymddangos fel Bil bach dihyder; mae wedi bod yn swil o'i gysgod ei hun. Mae wedi ceisio mor galed i fod yn ddidramgwydd, a phlesio pawb, nes ei fod, drwy wneud hynny, wedi achosi i lawer o bobl gael eu tramgwyddo gan ei union ddiffyg hyder. Mae’n rhaid bod y rheini a ddaeth ag ef i mewn i'r byd, yn wan ac yn gwegian, wedi eu syfrdanu o weld eu hepil yn cael ei ddifrïo mor greulon ar bob cyfle.
Eto i gyd, mae hanes hir datganoli wedi bod yn llawn pryderon ac mae wedi bod yn anodd sicrhau cynnydd. Mae llygad wedi bod ar y prif bleidiau gwleidyddol bob amser a beth y byddent yn cytuno ag ef ar unrhyw adeg benodol, wrth i ddatganoli gael ei roi ar waith; llygad ar Seneddau a Llywodraethau San Steffan a Chymru ar yr adeg benodol honno; a bob amser, bob amser, bob amser dealltwriaeth frwd o farn pobl Cymru am y mater hwn. Nid yw erioed wedi bod yn wirioneddol ddoeth rhuthro o flaen y bobl a gynrychiolwn heb eu perswadio ein bod ar y trywydd cywir.
Pe byddwn am fod yn hollol deg—ac rwy’n ystyried fy mod fel arfer—mae’n debyg mai dyma y mae'r ddau Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ceisio ei wneud gyda'r Bil Cymru hwn: maent wedi ceisio triongli a thrin a chyflwyno creadur o gyfaddawd. Oedd, roedd cyfaddawd yn anochel, ond mae'n well ac yn fwy tebygol o gael consensws os yw’n seiliedig ar gytundeb cynnar hanfodol ar bethau sylfaenol y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig a rhwng Senedd y DU a'r Seneddau datganoledig. Mae hynny’n llawer mwy tebygol o fod yn gydnerth. Roedd y cytundeb hwn yn canolbwyntio gormod ar Whitehall; rhy ychydig ar Gymru. Ac, ar y pwynt hwnnw, rwy’n tynnu sylw at yr ymchwiliad yr ydym wedi ei lansio: 'Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a'r sefydliadau datganoledig'.
Gadewch inni beidio ag esgus bod hwn wedi deillio o unrhyw gytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Nid oedd cytundeb â Llywodraeth Cymru, fel yr ydym wedi ei glywed, a wnaeth, mewn gwirionedd, wrthweithio Bil Cymru â’i gynnig clir, syml, beiddgar ei hun o Fil Cymru fel esiampl o setliad clir, parhaol a chydnerth. Ond wedi dweud hynny, mae'n rhaid inni ganmol gwaith Senedd y DU yn llwyr, ac yn enwedig y rheini, gan gynnwys cydweithwyr yma, a fu’n gweithio shifftiau dwbl, a fu’n llafurio yn yr ail Siambr yn y fan yna, yn enwedig y Farwnes Morgan, neu Eluned, fel yr ydym ni’n ei hadnabod. Mae cynnydd wedi’i wneud; nid yw wedi gweddnewid y Bil hwn i fod y Bil y dadleuodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o’i blaid, nid dyma’r Bil yr oedd Llywodraeth Cymru, yn ddelfrydol, yn awyddus i’w gael, nac, rwy’n amau, yr un yr oedd ar y Llywydd na'r mwyafrif o'r Aelodau yma heddiw ei eisiau, ond mae gwelliannau wedi’u gwneud.
Hefyd, mae'r cyd-destun wedi newid: pwerau newydd i'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys pwerau dros etholiadau a'r system etholiadol; hunanlywodraethu; cydsynio â phrosiectau ynni hyd at 350 MW; pysgodfeydd a chychod pysgota; mwy o bwerau dros ddŵr; tribiwnlysoedd yng Nghymru; ymgorffori confensiwn Sewel yng Nghymru; ac ymgorffori natur barhaol y Cynulliad yn ein cyfansoddiad. Er bod Llywodraeth y DU wedi methu â chydochri’r pwerau gweithredol yr oedd arnom eu heisiau, mae gennym yr addewid o drosglwyddo swyddogaethau, a drwy hynny bwerau, ar etholiadau, trafnidiaeth, tâl ac amodau athrawon a materion eraill. Rydym yn dal i fod ymhell yn brin o ofynion Llywodraeth Cymru a Silk o ran cyfiawnder, porthladdoedd ymddiriedolaeth, darlledu, rheilffyrdd, pwerau argyfwng, ymddygiad gwrthgymdeithasol a llawer mwy. Eto i gyd, nid yw'n hawdd diystyru’r pwerau newydd sydd ar gael.
Mae nifer y materion a gadwyd yn ôl yn dal i fod yn rhy fawr, ac mae’r gostyngiad o 217 i 193—llawer o hynny drwy gael gwared ar ailadrodd yn hytrach na newidiadau sylweddol—yn bitw, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod cwmpas rhai o'r materion hyn wedi’i gulhau a bod eithriadau wedi’u hychwanegu at rai. Fel y cyfryw, gan gydnabod y cynnydd y gweithiwyd yn galed i’w sicrhau, nid yw pryderon gwreiddiol y pwyllgor bod nifer y materion a gadwyd yn ôl a'r prawf 'ymwneud â' yn peryglu manteision symud i fodel cadw pwerau—er gwaethaf sicrwydd gweinidogol a roddwyd ar y cofnod yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddar, a materion sylfaenol eraill—wedi eu tawelu yn y pen draw.
Fel y clywsom gan y Prif Weinidog, hefyd, ar gyfiawnder ac awdurdodaeth, ni ildiwyd unrhyw dir. Felly, mae hyn, wedi’i gydbwyso yn erbyn y cynnydd, i gyd yn golygu ei bod yn anodd penderfynu ar ba un a ddylid cefnogi hyn ai peidio. Ond yna rydym yn ychwanegu’r ffactorau ychwanegol: y fframwaith cyllidol a drafodwyd yn gelfydd iawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac sy'n ymddangos, mewn gwirionedd, i fod yn amodol ar basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a'r bygythiad o fod yn agored, drwy'r model rhoi pwerau presennol ac absenoldeb ymgorffori confensiwn Sewel ar hyn o bryd, i Brexit a materion eraill lle gallai pwerau lithro oddi wrth Gymru neu gael eu rhwygo i ffwrdd. Felly, ar y cyfan, byddwn yn dadlau bod yn rhaid inni ddal manteision y Bil hwn yn awr, tra ei fod ger ein bron a gan wybod nad dyma’r bennod olaf o bell ffordd.
Mae'r setliad datganoli yn newid yn y Deyrnas Unedig, nid dim ond yma yng Nghymru, ond yn yr Alban, wrth gwrs, ac yn Lloegr. Mae hyn yn seiliedig ar ofynion cynyddol gan wledydd a rhanbarthau'r DU am ddatganoli pŵer a mwy o ymreolaeth leol o fewn economi wleidyddol ailddosbarthol yn y DU. Ar adeg dyngedfennol arall mewn datganoli, gallem anfon y Bil hwn i’w heglu hi’n ôl i San Steffan â’i gynffon rhwng ei goesau. Ond pe byddem yn gwneud hynny, mae'n bosibl na fyddem yn gweld Bil Cymru arall yn y pum mlynedd nesaf, efallai 10, neu hyd yn oed hirach na hynny. Pe byddem yn gwneud hynny, byddem yn troi ein cefnau ar lawer o bethau. Mae pobl ddoethach na fi wedi awgrymu na fydd y Bil hwn yn rhoi’r setliad cydnerth, unwaith mewn cenhedlaeth a addawyd gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, a bod y cymhlethdod a’r amodoldeb sydd ynddo yn golygu y byddwn o bosibl yn ildio rhywfaint o dir. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y byddwn yn sefyll ar dir mwy cadarn a mwy sicr o ganlyniad i symud at Fil cadw pwerau. Mae'n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni wynebu cyfnod pontio at Brexit a ffactorau sioc allanol eraill. Mae hynny, a'r fframwaith cyllidol ochr yn ochr ag ef, yn ddigon i ddweud y dylem gymryd yr enillion yn y Bil hwn, cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan wybod yn iawn y bydd yn rhaid inni ddychwelyd at hyn, gan nad yw’n setliad parhaol, cydnerth. Nid dyma’r gyfraith resymegol, hygyrch y mae pobl Cymru yn dymuno ei chael. Ond byddaf yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw oherwydd, ar y cyfan, rwy’n credu bod hynny er budd y Senedd hon ac er budd pobl Cymru.