Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 17 Ionawr 2017.
Mae cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw yn cynrychioli'r cam diweddaraf ar daith ddatganoli astrus a chymhleth Cymru. Mae Plaid Cymru yn derbyn bod Bil Cymru yn rhoi ag un llaw ond yn cymryd i ffwrdd â’r llall. Rydym ni o'r farn bod union sail y Bil hwn yn ddiffygiol. Mae'n rhoi un cam ymlaen inni gan gyfyngu ar ein gallu i ddeddfu, sy’n gam sylweddol tuag at yn ôl yn ein barn ni. Rwy’n cydnabod y ffaith bod y mwyafrif o Aelodau'r Cynulliad yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ddidwyll, ac nid wyf i yma heddiw i feirniadu unrhyw un sy'n pleidleisio o’i blaid. Yn amlwg, San Steffan a Whitehall sydd ar fai am y diffygion yn y Bil hwn. Rydym yn croesawu’r agweddau hynny ar y Bil sy'n ein galluogi, yn y dyfodol, i ddatganoli treth incwm, rheoli ein hetholiadau ein hunain a'r darpariaethau sy’n ymwneud ag ynni a ffracio. Ond heb unrhyw amheuaeth, hoffem ni ym Mhlaid Cymru fynd yn llawer, llawer ymhellach na'r hyn sydd ar gael yma.
Hoffwn hefyd nodi bod ein rhesymau dros bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn gwbl groes i resymau'r bobl eraill yn y Siambr hon sy’n pleidleisio yn erbyn, y rheini nad ydynt eisiau i Gymru gael unrhyw bwerau ychwanegol o gwbl. Ni ddaeth Plaid Cymru at y broses o lunio’r Bil Cymru hwn gyda'r bwriad o wrthod beth bynnag a gâi ei gynnig. Rydym bob amser wedi bod yn barod i gefnogi cynnydd cynyddrannol tuag at Gymru fwy democrataidd a hunanlywodraethol. Ond mae’r Bil hwn wedi bod yn wers mewn sut i beidio ag ysgrifennu cyfansoddiad.
Fel arweinydd Plaid Cymru, rwyf wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu’r Bil hwn o'r cychwyn. Cymerais ran yn ddidwyll yn y broses Gŵyl Dewi, fel y gwnaeth fy Aelodau Seneddol. Roeddem yn awyddus i'r broses ddiweddu â Bil Cymru a allai ennyn cefnogaeth eang, rhoi terfyn ar ddryswch, ac roeddem eisiau iddo adeiladu ar ganlyniad refferendwm 2011. Ond roedd y broses yn fethiant. Mae wedi arwain at y darn mwyaf is-safonol o ddeddfwriaeth ers dyfodiad datganoli. Roedd yn broses a oedd yn amharchus i Gymru ac i ganlyniad refferendwm 2011; mae’r Bil hwn nawr yn tanseilio’r canlyniad hwnnw. Ni chawsom drafodaeth agored am ymreolaeth a democratiaeth, ond feto llinell wrth linell gan adrannau Whitehall. Roedd yn ddull nodweddion cyffredin.
Dywedwyd wrthym y byddai model cadw pwerau yn cael ei ddarparu, ac mae hyn wedi bod yn un o ofynion allweddol Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac eto daeth i’r amlwg yn gyflym y byddai'r rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl yn cynnwys mwy na 200 o faterion a gadwyd yn ôl, ac y gallai unrhyw beth sy'n ymwneud â'r rhestr honno fod yn waharddedig i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol. O'i gymharu â'r model rhoi pwerau, mae hynny’n gyfystyr â lleihau ein pwerau, ac yn ein barn ni byddai felly'n gyfystyr â throi’n ôl ar ganlyniad refferendwm 2011.
Mae gwleidyddiaeth hyn yn eglur imi. Ar ôl ei methiant yn y Goruchaf Lys ar y Bil cyflogau amaethyddol, roedd Llywodraeth y DU yn awyddus i ailfodelu cyfansoddiad Cymru i osgoi methiannau pellach. A wyf yn bod yn sgeptig i awgrymu bod yr elfennau da a chadarnhaol yn y Bil hwn yno i gynyddu'r siawns yr aiff y mesur amddiffynnol hwn drwodd? Nid wyf yn meddwl fy mod.
Nid yw'r wleidyddiaeth y tu ôl i’r Bil hwn yn ymwneud â haelioni na thegwch na beth sy'n iawn neu’n synhwyrol, ac mae’r ymagwedd anonest hon ar ran Llywodraeth y DU wedi achosi penbleth. Bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn pasio, ond rwy’n awyddus bod y rhai hynny ohonom sydd yn awyddus i amddiffyn sefyllfa ddeddfwriaethol Cymru yn gallu symud yn gyflym yn awr ag unrhyw Filiau y gellid eu rhoi ar waith cyn i'r model cadw pwerau newydd gychwyn. A byddai Plaid Cymru yn fodlon cefnogi unrhyw gamau o’r fath, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y cyfnod pwysig sydd o'n blaenau.
Mae gwaith craffu rhagorol wedi ei wneud, yma ac yn San Steffan, ac rwy’n cymeradwyo gwaith aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn arbennig, yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi craffu ar y Bil yn y ddwy siambr fel San Steffan. Canfu aelodau'r pwyllgor y byddai'r Bil yn cynyddu biwrocratiaeth a chymhlethdod, ac y byddai addewid o setliad datganoli mwy atebol a chlir mewn gwirionedd yn arwain at gyflwyno ansicrwydd newydd i mewn i'r system. Cefais hefyd fy nharo gan eiriau'r Arglwydd Elystan-Morgan, pan ddisgrifiodd y Bil fel un imperialaidd ac atchweliadol, ac fel un sy’n annheilwng o bobl Cymru.
Mae Plaid Cymru wedi gwneud pob ymdrech bosibl i wella’r Bil hwn drwy gyflwyno gwelliannau yn y ddwy siambr yn San Steffan. Pan fu'n bosibl, buom yn cydweithio â phleidiau eraill ar y gwelliannau hynny, ond mae'n ffaith anffodus nad oedd y cymorth hwnnw bob amser ar gael gan ASau Llafur, hyd yn oed pan oeddem yn hybu safbwynt a oedd yn bolisi Llafur. Ond roedd yna rai gwelliannau a gafodd eu cefnogi gan y ddwy blaid.
Drwy gydol y broses seneddol, gellid bod wedi ennill ein cefnogaeth. Gellid bod wedi symud ar gomisiwn cyfiawnder statudol, er enghraifft, gellid bod wedi symud ar dreth teithwyr awyr, addawyd cynnydd ar ddŵr ac ar leihau’n sylweddol cyfanswm nifer y materion a gadwyd yn ôl. Ond yn y diwedd, nid oedd Llywodraeth y DU yn fodlon symud ar gyfiawnder, nac ar y pwyntiau eraill hynny, ac nid oeddem yn gallu gwella’r Bil yn ddigonol iddo ennill ein cefnogaeth.
O ran y fframwaith cyllidol a chael gwared ar yr angen am refferendwm treth incwm, rydym ni ym Mhlaid Cymru o blaid yr hyn a drafodwyd. Pan ddaw’r cyfle i sbarduno datganoli’r pwerau treth incwm hynny, bydd Plaid Cymru yn cynnig ein cefnogaeth. Ond nid oedd yn rhaid i Lywodraeth y DU glymu'r fframwaith cyllidol â Bil a fyddai'n cyfyngu ar ein gallu i wneud deddfau. Ni ddylai cyllid cyhoeddus Cymru fod yn amodol ar dderbyn fframwaith deddfwriaethol gwaeth. Byddem hefyd yn croesawu rheolaeth gyffredinol dros ein trefniadau etholiadol ac ar faint y Cynulliad, a fydd yn cael eu datganoli gan y Bil hwn. Gellir gwneud cynnydd sylweddol os caiff y pwerau hynny eu trosglwyddo, a byddai Plaid Cymru yn mynd at y cyfrifoldebau newydd hynny gyda golwg ar wella gallu'r Cynulliad hwn i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ond ni allwn bleidleisio dros gynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n caniatáu i ni gynyddu ein capasiti, ond sy’n creu risg o gyfyngu ar ein gallu.
Nawr, Lywydd, mae rhai yn y Siambr hon a fyddai'n pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am resymau sydd y gwrthwyneb i resymau Plaid Cymru. Pan fo Plaid Cymru yn dweud nad ydym eisiau derbyn briwsion o fwrdd San Steffan, rydym yn gwybod y byddai un o'r pleidiau gwleidyddol yma yn hapus i roi pwerau yn ôl i San Steffan pe byddent yn cael y cyfle, a byddai hynny'n gam yn ôl yn ein barn ni. Yn hytrach nag edrych yn ôl, mae angen inni edrych tua'r dyfodol. Dadleuodd yr Athro Glyn Watkin, wrth siarad â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, na wnaiff y setliad hwn—os gallwn hyd yn oed ddefnyddio'r gair hwnnw—bara dim mwy na phedair neu bum mlynedd. Gellid dadlau ei fod eisoes yn hen, bod angen Bil Cymru newydd eisoes. Gan ddibynnu ar sut y bydd y broses ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu, mae’n bosibl iawn y cawn gyfleoedd i gyflymu cyflymder y newid yn y fan yma. Mae’n rhaid i'r camau nesaf gynnwys datganoli cyfiawnder, a dylem fod yn gwthio am hynny ar unwaith. Mae angen inni hefyd wthio am ddatganoli lles a chymryd y cyfleoedd hynny sydd eisoes ar gael i'r Alban.
Cyn unrhyw ddeddfwriaeth bellach, hoffwn gymeradwyo llinell o adroddiad CLAC ar y Bil. Wrth sôn am y broses o ran sut y cafodd y Bil hwn ei ddatblygu, dywed yr adroddiad:
Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd eto ar Fil o bwys cyfansoddiadol o'r fath.
Mae'n rhaid cyfleu’r neges honno i San Steffan heddiw. Nid dyma’r ffordd i ddeddfu, ac ni ddylid byth ei ailadrodd.
Felly, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, a byddwn yn gwneud hynny gyda chalon drom. Nid ydym byth eisiau gweld Cymru'n cael ei gwthio i gornel fel hyn byth, byth eto. Ar gyfer y dyfodol, byddwn ni ym Mhlaid Cymru nawr yn cynyddu ein hymdrechion i sicrhau ymreolaeth gadarnhaol i Gymru, a’r bobl yn y fan yma ddylai benderfynu ar ein camau nesaf, nid gwleidyddion yn San Steffan. Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae newidiadau ar y gweill ledled yr ynysoedd hyn, ac ni all, ac ni chaiff, y Bil hwn, wrth iddo fynd yn ei flaen, fod y bennod olaf yn natblygiad democratiaeth Cymru, a bydd Plaid Cymru yn gwneud yn siŵr o hynny.