Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ganmol pawb a fu’n ymwneud ag ennyn cefnogaeth ar gyfer y Bil hwn a'i wneud yn Fil gwell? Rydym wedi clywed ei bod wedi bod yn broses hir. Rwy’n arbennig o awyddus i sôn am yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yr Arglwydd Bourne yn Nhŷ'r Arglwyddi, a'r Prif Weinidog am, rwy’n credu, ei grefft llywodraeth wirioneddol i wneud dyfarniad y byddwch yn ei dderbyn yn ei gyfanrwydd oherwydd ei ddarnau gorau, ond yn dal i fod ag amheuon gwirioneddol ynghylch rhai agweddau ar y Bil. A gaf i hefyd eich canmol chi, Lywydd, am y gwaith yr ydych wedi'i wneud i dynnu sylw at yr angen i edrych ar ein trefniadau a’n materion etholiadol ein hunain a ddylai wir gael eu datrys yng Nghymru? Rwy'n credu bod hyn wedi creu corff pwerus o gefnogaeth ar draws traddodiadau i’r Bil hwn.
Mae'n ddrwg gennyf na fydd y consensws yn ymestyn i Blaid Cymru ac i UKIP, ond hoffwn gofnodi bod yr araith yr ydym newydd ei chlywed gan arweinydd Plaid Cymru yn un bwyllog a manwl, ac, yn fy marn i, yn fwy pwerus oherwydd hynny. Rwy'n fodlon derbyn eich gair o ran datblygiad cyfansoddiadol a bwrw ymlaen â rhannau o'r hyn sy'n debygol yn awr o ddigwydd o ran Deddf a ddaw i'r amlwg, a sicrhau bod y sefydliad y mae gennym i gyd y fraint o fod yn rhan ohono yn cryfhau. Yn yr un modd, gydag UKIP, maent hwythau, eu hunain, wedi bod ar daith, ac maen nhw erbyn hyn, rwy’n credu, o blaid datganoli ar y cyfan, a gellir gwneud dadl—nid wyf yn cytuno â hi, ond mae dadl bod rhai pobl o’r farn bod angen refferendwm cyn inni gael y pwerau codi trethi.
Dywedodd y Prif Weinidog fod hon wedi bod yn daith hir, ac rwy’n credu bod naw ohonom—neu 10 ohonom, efallai—wedi bod yma o'r dechrau. Nid dyma’r amser i roi araith hen ewythr. [Chwerthin.] Nid dyna yr ydych yn mynd i’w gael. Ond mae'n briodol, rwy’n meddwl, edrych ar y datblygiad cyfan mewn persbectif. Roedd y Prif Weinidog yn hollol iawn: pan ddechreuon ni, nid oedd gennym hyd yn oed bwerau wedi’u gwahanu yn y sefydliad hwn. Corff corfforaethol oeddem ni. Roedd hynny ynddo'i hun yn arwain at bob math o gymhlethdodau. Nid oedd gennym unrhyw gyfrifoldeb am godi refeniw ac, a dweud y gwir, dim ond—ac rwy’n meddwl bod hyn yn bwysig—pwerau eilaidd dros is-ddeddfwriaeth.
Felly, ni wnaethom ddechrau yn union yr un mor gadarn ag y gwnaethant yn yr Alban, na hyd yn oed yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n credu bod y cynnydd yr ydym wedi ei wneud, a dweud y gwir, wedi bod yn seiliedig ar lefel rhyfeddol o gonsensws. Mae pob plaid, a dweud y gwir, wedi cyfrannu at ein datblygiad cyfansoddiadol. Nawr, heddiw, rydym, yn anochel, yn y ddadl hon yn mynd i ganolbwyntio ar rai o'r gwahaniaethau. Ond rwyf yn awyddus i gofnodi’r gwerthfawrogiad sydd gennyf, fel Ceidwadwr Cymreig, ein bod wedi bod yn rhan, pan oedd y rhan fwyaf ohonom a dweud y gwir yn gwrthwynebu egwyddor datganoli yn ôl yn yr 1990au, ond rydym wedi gweithio'n galed i greu setliad mwy cadarn.
Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn paratoi’r llwybr at bwerau deddfu sylfaenol, ac roedd llawer o’r diolch am hynny i athrylith cyn Lywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Wrth gwrs, yna, cafodd y pwerau hynny, y gallem eu cael fesul tipyn gyda chydsyniad San Steffan, eu gwyrdroi yn gyfan gwbl ar ôl refferendwm 2011. Roedd yn ffordd gynnil iawn, rwy’n meddwl, o hyrwyddo’r setliad cyfansoddiadol ar y pryd ac, wrth gwrs, fe wnaeth wahanu pwerau deddfwriaethol a gweithredol, sef craidd, a dweud y gwir, y ffordd yr ydym yn gwneud gwleidyddiaeth yn y model San Steffan.
Hoffwn ddweud gair o blaid proses Dydd Gŵyl Dewi gan fy mod yn credu ei bod wedi rhoi sylw i’r holl ddadl. Rwy’n sylweddoli nad yw popeth wedi cael ei gyflwyno er boddhad pawb, hyd yn oed y rhai sydd o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma, ond rwy’n credu ei bod yn ffordd dda o weithio. Rhwng cyhoeddi'r Bil drafft ac nawr y Bil sy'n mynd ymlaen ac yn debygol o ddod yn Ddeddf, bu llawer o symudiad. Unwaith eto, rwy’n canmol pawb sydd wedi gweithio i gyflawni’r cynnydd hwnnw.
A gaf i ddweud rhywbeth am y model San Steffan? Mae'n bwysig iawn. Mae'n rhyfeddol, rwy’n credu, mewn llawer o ffyrdd, bod y setliad datganoli mwy radical byth yn yr Alban yn dal i ddefnyddio’r model San Steffan. Mae'r ffordd y mae'r Senedd honno wedi'i chyfansoddi yn sicr yn rhan o'r traddodiad hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn adnodd gwych, ac mae wedi rhoi bywyd a dygnwch gwirioneddol i wleidyddiaeth mewn sawl rhan o'r byd. Fy siom erioed, pe byddai datganoli yn digwydd, oedd nad oedd gennym ffordd fwy cadarn o sefydlu Cynulliad yn unol â model o fath San Steffan. Dyna pam yr wyf wedi meddwl erioed bod angen pwerau deddfu sylfaenol. Roeddwn yn meddwl hynny ers fy niwrnod cyntaf o fod yn Aelod Cynulliad, er fy mod wedi gwrthwynebu datganoli i ddechrau. Dyna pam hefyd yr wyf yn credu bod yn rhaid inni dderbyn y cyfrifoldeb i godi rhywfaint o'n refeniw ein hunain. Mae'n ymddangos i mi ei fod yn mynd gyda'r swyddogaeth ddeddfwriaethol ac, yn wir, gyda'r swyddogaeth weithredol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eithaf pwerus erioed. Roeddwn i bob amser yn meddwl ei bod yn rhyfedd nad oedd rhai Ceidwadwyr yn gweld hynny: ein bod wedi rhoi pŵer i'r Llywodraeth, ond heb roi llawer iawn o bŵer i graffu ar y Llywodraeth honno, nac ar y ddeddfwriaeth y byddai ei angen arni, wrth gwrs, i ni gael cymaint â phosibl o reolaeth. Felly, rwy’n credu y dylid croesawu’r trywydd yr ydym arno, tuag at ffurf lwyrach o fodel San Steffan.
Mae meysydd lle nad oedd consensws yn bosibl. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn wir: bod hyn wedi cael ei achosi yn bennaf gan awydd ar ran Llywodraeth y DU i gadw un awdurdodaeth gyfreithiol unedig. Ond byddwn yn dweud yma, er gwaethaf fy safbwyntiau preifat fy hun—nid wyf am eu hailadrodd oherwydd eu bod yn ddigon hysbys—nid oes llawer o dystiolaeth ymhlith y cyhoedd eu bod am inni symud ymlaen yn y maes hwn i ffurfio awdurdodaeth ar wahân. Ac mae fy mhlaid i ac, mae'n rhaid dweud, y Blaid Lafur—os ydych chi’n edrych ar y Blaid Lafur yma ac yn San Steffan—eu hunain wedi'u rhannu rywfaint. Yn syml, nid ydym wedi cael consensws i ddadlau'r achos o blaid awdurdodaeth ar wahân ac, yn arbennig, datganoli pwerau plismona a phwerau dros bolisi dedfrydu a materion o'r fath. Fodd bynnag, os edrychwch chi yn ôl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pwnc hwn o ddeddfwriaeth ar wahân neu wahanol a gyhoeddwyd yn y pedwerydd Cynulliad, mae'n ddigon amlwg bod yr hyn a wnawn wrth ddeddfu yn creu corff o gyfraith ac, ar ryw bwynt, bydd sylwedd, neu faint y ddeddfwriaeth honno, yn ddigon i olygu y bydd cydnabyddiaeth ffurfiol yn debygol. Mae cydnabyddiaeth eisoes yng ngweinyddiad y gyfraith, a does ond angen ichi siarad ag uwch farnwr am ba mor sylweddol y mae eu gweithdrefnau hwy eu hunain wedi newid i sicrhau bod y farnwriaeth yn deall y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru ac yn gallu dehongli cyfraith Cymru yn briodol.
Canlyniad uniongyrchol y ffaith nad oes gennym awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yw bod nifer y pwerau a gadwyd yn ôl o fewn model cadw pwerau wedi bod yn llawer uwch nag y byddai wedi bod fel arall, a does ond angen ichi gymharu ein setliad ni â’r un yn yr Alban. A bydd hyn, yn fy marn i, yn golygu bod angen i’r ddwy Lywodraeth—Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—weithio'n galed i sicrhau nad yw'r setliad sydd gennym nawr yn cyfyngu ar ein gallu i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, oherwydd byddai hynny wir yn ganlyniad gwael. Ond rwyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn ddiffuant o ran nad ydynt eisiau lleihau pwerau, ac rwyf i, o'r holl wres a chega a gawn o bryd i'w gilydd, yn credu bod perthynas eithaf da rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar faterion sy’n amlwg er budd i Gymru, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau.
A gaf i ddweud bod Bil Cymru yn hael mewn mannau, ym marn pob un ohonom? Ac roeddwn yn ddiolchgar bod Leanne Wood wedi sôn am rai o'r meysydd, fel y gwnaeth y Prif Weinidog, o ran y trefniadau etholiadol, ynni, trafnidiaeth a rhai materion eraill hefyd. Rwy’n credu bod y rhain yn wobr a’u bod yn werth eu cael, oherwydd mae’n rhoi llawer mwy o’r setliad cyfansoddiadol o fewn ein rheolaeth. Gallem edrych ar fater y fasnachfraint a pha un a ddylid ei hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, gallem benderfynu ar faint y Cynulliad a'r trefniadau etholiadol, yn amodol, wrth gwrs, ar uwchfwyafrif. Mae'r rhain yn ddatblygiadau pwysig iawn, iawn. I gloi, Lywydd, rwy’n credu y gallwn nawr symud ymlaen â setliad datganoli cryfach, a fydd yn rhoi'r cyfle i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ymdopi â'r heriau gwleidyddol a ddaw, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.