Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 17 Ionawr 2017.
Rwyf wrth fy modd i ddilyn yr hen ewythr David, oherwydd roedd yn hollol iawn i ddweud bod fy mhlaid i wedi bod ar daith, ac yn ôl pob tebyg mae’n dal i fod ar y daith honno. Roeddwn, fel yntau, yn gwrthwynebu’r setliad datganoli yn wreiddiol, ond rwyf wedi tyfu dros y blynyddoedd i werthfawrogi ei ddoethineb. Nid yw pawb yn fy mhlaid o’r un farn â mi, ac rwy’n gobeithio fy mod yn helpu i roi hwb iddo i’r un cyfeiriad ag yr hoffai’r rhan fwyaf ohonom yn y Cynulliad hwn fynd iddo. Felly, rwy’n meddwl bod arweinydd Plaid Cymru yn gwbl anghywir wrth ddweud, pan fyddwn yn pleidleisio gyda'n gilydd yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, ein bod yn gwneud hynny am resymau sydd yn gwbl groes i'w gilydd. Yr unig reswm pam yr ydym ni yn mynd i wrthwynebu hyn yw oherwydd y ddarpariaeth i gael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm i sbarduno pwerau codi treth incwm; rhywbeth yr ydym yn credu sy’n dangos diffyg ffydd ym mhobl Cymru. Mae wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth ac ni ddylid ei daflu i ffwrdd fel rhywbeth dibwys. Rwy'n credu bod hyn yn fater pwysig iawn o egwyddor.
Mae llawer o'r ddadl hon heddiw wedi bod yn seiliedig ar y ffaith bod llwyddiant y setliad datganoli wedi’i seilio ar gonsensws, ac rydym ni wedi symud yn ysbryd yr amseroedd, gyda phobl Cymru, nid yn eu herbyn. Rwy’n credu bod Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i gyfeirio yn ei araith at beidio â rhuthro o flaen y bobl. Ac rwy’n cofio ar ba sail yr aethom ni i mewn i'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, fel yr oedd bryd hynny, yn ôl yn 1973, pan ddywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Edward Heath, fod hynny’n rhywbeth na ddylid ei wneud heb ganiatâd twymgalon y ddwy Senedd a’u pobl. Ni chafodd y caniatâd twymgalon hwnnw erioed ei geisio mewn gwirionedd, heb sôn am ei gyflawni, a dyna un rheswm pam na chafodd y prosiect Undeb Ewropeaidd ei dderbyn yn llawn fel un cyfreithlon fel a ddigwyddodd mewn aelod-wladwriaethau eraill. Ac un rheswm pwysig pam yr wyf yn bersonol yn gwrthwynebu aelodaeth Prydain o'r UE yw ei bod mewn gwirionedd yn mynd â phwerau i fyny i lefel fwy anghysbell ac i ffwrdd oddi wrth y bobl, ac mae proses Brexit yn rhoi cyfle inni, nid yn unig i adfer pwerau deddfu i San Steffan a oedd yno o'r blaen, ond hefyd i drosglwyddo mwy o bwerau i Gaerdydd ac, yn wir, i Gaeredin, wrth gwrs, ac i Belfast, hefyd, mwy o bwerau y dylent fod gennym yma. Felly, i siarad drosof fy hun, rwy’n ystyried y Bil hwn, Bil Cymru, fel busnes heb ei orffen. Nid oes neb, am wn i, yn y Cynulliad hwn heddiw sy'n dychmygu mai dyma ddiwedd y stori mewn unrhyw fodd. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn gyfrwng amherffaith iawn ar gyfer cyflawni'r hyn y mae datganolwyr ei eisiau. Rwy'n credu bod y model cadw pwerau yn ddryslyd ac yn siŵr o arwain at frwydrau cyfreithiol yn y dyfodol, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ystod ei araith.
Rwy’n croesawu'r datganiad datganiadol yn y Bil bod y Cynulliad yn rhan barhaol o gyfansoddiad Prydain. Dim ond datganiadol ydyw, wrth gwrs; gall unrhyw Senedd ddadwneud yr hyn y mae ei rhagflaenwyr wedi'i wneud, ond nid wyf yn tybio bod unrhyw siawns bod hynny’n mynd i ddigwydd. Rwy'n credu bod y Cynulliad yn rhan barhaol erbyn hyn o strwythur cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ac rwyf i’n bersonol yn croesawu hynny â brwdfrydedd. Mae rhyw fath o gyfraith haearn i'r pethau hyn, lle, ar ôl eu creu—a gwelsom hyn yn yr Undeb Ewropeaidd, a wnaeth ymroi i fawrhau ei hun ac i gynyddu ei phwerau yn ddi-baid yn ystod holl amser ein haelodaeth—mae'n anochel , felly, bod datganoli pwerau i Gymru yn y blynyddoedd sydd i ddod yn mynd i gynyddu, nid dim ond o ran cwmpas, ond efallai hefyd o ran cyflymder, ond, rwy’n gobeithio, gan aros o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig.
Nid yw’r Bil ei hun, mewn gwirionedd, yn mynd â ni, ac eithrio yn achos trethiant, yn llawer pellach i gyfeiriad datganoli. Pan edrychwch chi ar y cawdel o bwerau sydd wedi’u datganoli yn benodol inni—polisïau porthladdoedd, cyfyngiadau cyflymder, cofrestru bysiau, rheoleiddio tacsis, etholiadau llywodraeth leol, carthffosiaeth a phrosiectau cynhyrchu trydan bach, ac ati—does dim un o'r rhain ynddo ei hun yn hynod o gyffrous, ond mae symud i'r model cadw pwerau ynddo ei hun, er ei fod yn gyfansoddiadol amherffaith, yn fy marn i, ac yn gyfreithiol amherffaith, serch hynny yn cynnwys datganiad cyffredinol o egwyddor sy’n mynd â ni ymhellach ar hyd taith datganoli.
Rwyf yn credu bod datganoli pwerau treth yn newid sylweddol, ac er eu bod yn gyfyngedig ac yn siŵr o gael eu cynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod, mae hynny'n newid mawr o ran egwyddor gyfansoddiadol, sy’n creu ôl-effeithiau enfawr. Rwyf i, yn bersonol, yn eithaf hamddenol am ddatganoli pwerau treth incwm i'r Cynulliad hwn. Rwy'n credu mewn cystadleuaeth dreth rhwng awdurdodaethau. Gwnaethom gyfeirio at hyn yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan gyfeiriais at y manteision y mae Gweriniaeth Iwerddon wedi eu cael drwy allu gosod cyfraddau treth gorfforaeth is na'i chymdogion, a pha mor bwysig y bu hynny i helpu adfywiad economaidd rhan o’r Undeb Ewropeaidd a oedd yn gyntefig iawn ar y dechrau, yn y 1970au. Rwy’n credu, yn bersonol, y gallem ddefnyddio pwerau o'r fath yn ddeallus yng Nghymru i wneud iawn am rai o anfanteision daearyddiaeth a hanes sydd wedi cyfyngu ar ein gallu i gynyddu ein potensial economaidd, ac mae hyn yn rhywbeth, rwy’n gwybod, y mae Adam Price wedi cyfeirio ato yn aml mewn dadleuon ers inni fod yma, yn y chwe mis diwethaf, ac mae gennyf i lawer iawn o gydymdeimlad ag ef.
Mae dod â’r llywodraeth yn nes at y bobl yn egwyddor bwysig, yn fy marn i, ac, ar y cyfan, mae’r Cynulliad hwn, yn fy marn i, wedi llwyddo i gyflawni hynny. A fyddai'r bobl yn gyffredinol yn cytuno â fy asesiad, nid wyf yn gwybod, a phe byddai refferendwm heddiw ar ymestyn pwerau'r Cynulliad ymhellach, nid wyf yn gwybod beth fyddai'r canlyniad. Nid wyf yn gwybod beth yw barn pobl Cymru ohonom ni gyda’n gilydd, fel sefydliad, a'r ffordd yr ydym wedi cynnal materion yn y Cynulliad hwn. Ond, serch hynny, rwy’n credu, er bod egwyddorion bras y Bil yn deilwng o gefnogaeth, bod y ffordd y cafodd hyn ei drin wedi bod yn bell iawn o fod yn berffaith, ac, o ran dileu darpariaeth refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm, rwy’n credu bod hwnnw'n ddiffyg cyfansoddiadol na ddylem ei anwybyddu.
Felly, rwy’n cytuno, yn fras, â’r ymagwedd a gymerodd arweinydd Plaid Cymru yn ei haraith, sef y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw gydag ychydig o galon drom, oherwydd rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd hi am ddidwylledd pawb sydd wedi ymwneud â chyflwyno'r cyfrwng amherffaith hwn.