Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 17 Ionawr 2017.
Mae’r dadleuon yma ynglŷn â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn rhan hanfodol o’n cyfansoddiad ni ac yn deillio o’r arfer—hefyd yn yr Alban o dan y confensiwn yn enw’r Arglwydd Sewel, fel y clywsom ni’n gynharach—o sicrhau bod modd i San Steffan ddeddfu ar faterion lle mae’r materion hynny wedi cael eu datganoli.
Mae’r achos yn wahanol, wrth gwrs, yn yr achos yma, sef ein bod ni’n rhoi caniatâd i San Steffan ddeddfu ar ein pwerau ni’n hunain, gan gynnwys yn y rheini y materion sy’n cael eu heffeithio gan y modd y mae’r Bil yma wedi cael ei ddrafftio. Gyda llaw, a gaf i jest ddweud hyn wrth basio? ‘Bil’ ydy hwn yn Gymraeg; ‘Mesur’ ydy rhywbeth arall a oedd yn ddeddfwriaeth yn y lle yma o’r blaen, ac nid wyf i eisiau gweld Mesurau yn dod yn eu holau.
Nid wyf yn mynd i ddweud llawer heddiw, oherwydd rydw i wedi bod yn siarad am y mater yma, fel y gwyddoch chi, ddau ben i’r rheilffordd, ers tua deugain mlynedd. Rydw i’n gobeithio gwneud hynny eto yfory pan fyddwn ni’n cwblhau’r trydydd darlleniad ar y Bil yma yn yr ail Dŷ. Nid wyf yn gweld datblygiad datganoli yn yr un modd ag y mae Aelodau fy nghyn-blaid, mae arnaf ofn, oherwydd rydw i wedi ceisio, ar hyd yr amser, manteisio ar bob cyfle i gynyddu datganoli, ffordd bynnag yr oedd e’n dod. Ar y llwybr yna, rydw i wedi cwrdd â llawer o gyfeillion. Rwy’n ddiolchgar iawn i David am ei sylwadau caredig yn gynharach. Rydw i’n gweld Kirsty yn fanna; gwnaethom ni gyfarfod gyntaf ar noswaith y refferendwm a buom ni mas gyda’n gilydd drwy’r nos, ond, fel maen nhw’n ei ddweud mewn llefydd eraill, ni ddigwyddodd dim byd, oherwydd nid oedd amser—roeddem ni’n rhy brysur. Ond, roedd y cyfarfyddiad yna yn gyfarfyddiad pwysig i mi, oherwydd pan ddaethom ni yma i’r Cynulliad hwn, roedden ni’n adnabod ein gilydd. Mae fy mherthynas i â Jane Hutt yn mynd yn ôl llawer iawn o flaen hynny—lle rydym ni wedi cael cyfle i gydweithio mewn pleidiau gwahanol, ac wedi dod â ni i fan o gonsensws.
A dyma ni heddiw mewn man rhyfeddol iawn, lle mae fy nghyn-blaid a phlaid na fyddaf i byth yn aelod ohoni yn pleidleisio gyda’i gilydd yn erbyn y cam nesaf ar lwybr datganoli. Beth bynnag ydy’r rhesymau sydd wedi cael eu dyfeisio o ochr y ddwy blaid yma y prynhawn yma, nid ydyn nhw’n fy argyhoeddi i, ac yn sicr, ni fyddan nhw’n argyhoeddi pobl Cymru. Oherwydd beth mae pobl Cymru eisiau ei weld ydy gwleidyddion yn cydweithio gyda’i gilydd yn adeiladol er mwyn creu newid. Mae’r newid sy’n cael ei greu yn newid sydd yn digwydd oherwydd ymateb deddfwrfa yma yng Nghaerdydd a deddfwrfa San Steffan, a’r Llywodraeth yn y ddau le, i’r hyn mae’r drafodaeth wleidyddol yn ei gynhyrchu.
Mae yna un pwynt arall sydd yn allweddol yn y sefyllfa yma. Fe fentrais i ddweud, yn San Steffan, pan roeddem ni’n diweddu’r Cyfnod Adrodd ar hyn, fy mod yn teimlo ein bod wedi dod i ddiwedd pennod yn y ffordd yr oeddem ni’n delio â materion datganoledig, sef bod yn rhaid inni sicrhau, bellach, nad ydym yn cael San Steffan yn gosod pwerau i lawr i ni, ond bod y Cynulliad hwn yn ddeddfwrfa gyfartal o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, y ple sydd gennyf i fan hyn eto ydy ein bod ni’n fodlon chwarae ein rhan mewn cyd-ddeddfu o hyn ymlaen, a’r ffordd i sicrhau cyd-ddeddfu ydy pasio’r Bil yma.