Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 17 Ionawr 2017.
Rwy'n falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n falch iawn fod y Bil yr ydym yn ei drafod yn mynd i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad hwn, a bod y Bil yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol ar lefel y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol. Hoffwn dalu teyrnged iddynt am gadw at eu gair a chyflwyno Bil sydd yn mynd i roi pwerau ychwanegol i ni. Ac rwyf am ddweud hyn: nid yw'r Bil yn mynd mor bell ag yr hoffwn mewn rhai meysydd, ond rwy’n mynd i bleidleisio’n llawen dros y Bil heddiw, oherwydd y meysydd ychwanegol hynny y byddwn yn cael pwerau ynddynt fel y gallwn wneud rhywbeth cadarnhaol gyda’r pwerau hynny, a’u defnyddio yn effeithiol iawn. Rwyf am gyfyngu fy sylwadau heddiw i un rhan benodol o'r Bil yr wyf yn hapus iawn, trwy welliant, bod y pwerau ychwanegol hyn wedi eu hychwanegu, sef isadran 58 o Ran 2 y Bil, sy'n datganoli cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru i drwyddedu peiriannau hapchwarae lle mae uchafswm yr arian betio yn fwy na £10.
N awr, fel y bydd Aelodau'r Cynulliad hwn yn gwybod, dydw i erioed wedi cuddio fy nirmyg personol o derfynellau betio ods sefydlog a'u cysylltiad â phroblem hapchwarae yma yng Nghymru. Maent yn bla ar Gymru ac maent wedi achosi niwed personol a chymdeithasol sylweddol i unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau ar hyd a lled y wlad hon. Ac, wrth gwrs, canfu adroddiad annibynnol diweddar a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ym mis Rhagfyr fod hapchwarae problemus yn costio hyd at £1.2 biliwn i Lywodraethau Cymru, Lloegr a'r Alban bob blwyddyn. Ond mae'n rhaid i ni gofio mai’r weithred o hapchwarae a'r pwysau y mae'r diwydiant yn ei roi ar unigolion i hapchwarae yw’r meysydd sylfaenol i’w beio, nid o reidrwydd yr unigolion eu hunain, oherwydd rhaid inni gofio bod hwn yn salwch, yn ddibyniaeth y mae pobl yn gorfod ymdrin ag ef, un sydd yr un mor bwerus â chamddefnyddio sylweddau neu alcohol. Nawr, pan oeddwn yn gwisgo het portffolio blaenorol, dywedais, o ystyried pŵer dibyniaeth hapchwarae, y dylai, yn fy marn i, gael ei weld a'i drin fel mater iechyd cyhoeddus, oherwydd yr effaith y mae anhwylder o'r fath yn ei chael ar iechyd a lles yr unigolion yr effeithir arnynt, eu teuluoedd a'u hanwyliaid, ac mae'r effaith yn sylweddol.
Nawr, er nad yw hapchwarae yn ffenomen newydd yng Nghymru, gwyddom ei fod yn fater sy’n broblem arbennig o ddifrifol i Gymru. Er gwaethaf y ffaith mai ein gwlad ni oedd yr unig wlad gartref i beidio â chasglu ystadegau am hapchwarae problemus ac anhwylderau hapchwarae, mae'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd yn betio swm sy'n gyfwerth â £1.6 biliwn y flwyddyn o gynnyrch mewnwladol crynswth y genedl mewn terfynellau betio ods sefydlog yn unig. Fel cymhariaeth, mae hynny yn £675 am bob oedolyn yma yng Nghymru. Ar ben hynny, os ydych yn cynnwys y costau amrywiol cysylltiedig, megis y dirywiad mewn perfformiad yn y gwaith, diweithdra posibl, dyledion, problemau tai, ac yn y blaen, a achosir gan hapchwarae, mae'n dangos bod hapchwarae yn effeithio nid yn unig ar iechyd ein cenedl, ond hefyd ar economi ein cenedl.
Felly, rwyf wedi bod yn hynod falch o hyrwyddo’r mater hwn, ynghyd ag ACau eraill yma yn y Siambr hon, ac, yn wir, rai cydweithwyr seneddol ym mhen San Steffan. Rwyf wedi dod ag amrywiaeth o randdeiliaid at ei gilydd i geisio addysgu a dylanwadu ar bawb yn y Siambr, a gwneuthurwyr polisi yn ehangach, bod hwn yn rhywbeth sydd angen sylw brys. Nawr, er bod rhai elfennau o bolisi cyhoeddus y gallwn ni eu newid, mewn cydweithrediad â sefydliadau rhagorol yn y trydydd sector, fel Beat the Odds, sydd, wrth gwrs, yn sefydliad a gafodd ei ffurfio gan CAIS, sydd wedi’i leoli yn fy etholaeth i, a’r Ystafell Fyw, i lawr yma yng Nghaerdydd, nid wyf yn credu y gallwn fynd i'r afael o ddifrif â'r broblem hon fel cenedl oni bai fod gennym y cymhwysedd deddfwriaethol hwn. Dyna pam rwyf yn awyddus iawn, iawn i sicrhau bod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn heddiw yn cael ymateb cadarnhaol gan bawb ar draws y Siambr hon, gan ei fod yn ein galluogi ni i ymdrin â'r mater hwn a materion eraill mewn meysydd cymhwysedd a fydd yn dod atom ni. Roeddwn yn falch iawn o weld cyfraniadau Eluned Morgan yn Nhŷ'r Arglwyddi ar yr union fater hwn wrth i’r Bil wneud ei daith drwy'r Senedd, gan fy mod yn meddwl, yn bersonol, bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd eistedd o amgylch y bwrdd gyda'n gilydd i ymdrin ag ef unwaith ac am byth.
Felly, rwy’n annog pob Aelod yn y Siambr hon i feddwl yn ofalus iawn am y cyfleoedd y mae Bil Cymru yn eu cyflwyno i ni. Rwy’n sylweddoli nad yw'n mynd mor bell ag y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno. Ond mae'r rhain yn gamau pwysig, gyda phwerau pwysig yn cael eu rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol y byddwn yn gallu eu defnyddio i wella ansawdd bywyd pawb yng Nghymru, ac felly, byddaf yn ei gefnogi.