Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 17 Ionawr 2017.
Heddiw, fel y nodwyd eisoes, bydd grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol am y rhesymau a nodwyd yn glir gan Leanne Wood, a rhesymau yr wyf yn cofio Dafydd Elis-Thomas yn eu nodi mewn cyfarfod grŵp Plaid Cymru hefyd. Byddaf yn pleidleisio gyda fy ngrŵp, gan fy mod yn parchu'r penderfyniad hwnnw a'r broses a'r drafodaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyrraedd y penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, mae achos Plaid Cymru a chenedlaetholgar cryf dros bleidleisio am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy’n dymuno nodi hynny, os mai dim ond ar gyfer myfyrwyr gwleidyddol y dyfodol fydd hynny.
Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod y Bil Cymru hwn eisoes yn grair o'r gorffennol. Fel setliad parhaol, mae mor ddiangen â’r goeden Nadolig yr es â hi i’w hailgylchu yr wythnos ddiwethaf. Tegan llachar a sgleiniog San Steffan ydyw, yn demtasiwn, yn simsan, ond yn wag yn y pen draw. Mae'r Bil mewn gwirionedd yn dioddef o glefyd yr wyf yn meddwl y dylem yn awr ei alw yn 'Westminsterism', am ei fod yn gyflwr sy'n effeithio ar yr holl bleidiau unoliaethol ac nid yw'n cael ei gyfyngu i'r Ceidwadwyr yn unig. Yn anffodus nid yw Llafur Cymru wedi gwella eto o’r cyflwr hwn, fel y clywsom am y gwelliannau ym mholisi eu plaid eu hunain a wrthodwyd ganddynt yn San Steffan, er ei bod yn galonogol gweld nifer ohonynt ymhell ar y ffordd i gael eu hadfer yn y grŵp Llafur Cymru presennol yn y Cynulliad hwn. Ond am gyfnod rhy hir, mae San Steffan wedi rhagdybio’r sofraniaeth yn y sefydliad hwnnw, ac nid gyda'r bobl. Felly, yn hytrach na setliad parhaol, mae San Steffan a Whitehall wedi bod yn ddarbodus ac wedi naddu’r model cadw pwerau, gan ganiatáu’r setliad lleiaf posibl i ni bob amser er mwyn deddfu a sicrhau rhagoriaeth barhaus San Steffan. Mae pwerau wedi dod a phwerau wedi mynd, maent wedi eu hysgwyd gyda’i gilydd ac mae gêm o giamocs cyfansoddiadol wedi ei chwarae gyda dyfodol Cymru.
Ond yn yr un flwyddyn â chymryd dull gothig braidd o edrych ar ein dyfodol, mae San Steffan ei hun wedi rhyddhau o'i wirfodd y grymoedd tywyll a fydd yn y pen draw yn dinistrio'r wladwriaeth Brydeinig unedol. Mae'r ysbryd wedi dianc o’r botel, ac ni fydd unrhyw siarad ofer heddiw am werthoedd cenedlaethol, gwerthoedd Prydeinig, yn dod at ei gilydd i arbed y Deyrnas Unedig bresennol.
Mae llawer o sôn wedi bod mai hwn yw’r cyfle olaf i sicrhau datganoli pellach am ddegawd o leiaf. Gall hynny fod yn wir, ond nid yw'r un fath â dweud y bydd San Steffan yn parhau’n ddigyfnewid am ddegawd. Bydd Brexit caled, sef yr hyn yr ydym yn debygol o’i gael, yn arwain at ddiiddymu’r wladwriaeth Brydeinig. Bydd yr Alban yn ceisio annibyniaeth, bydd ynys Iwerddon yn dod ynghyd, a byddwn ni yng Nghymru yn wynebu dewis anodd iawn: bod yn atodiad o endid gwleidyddol crebachlyd Saesnig neu geisio ein llwybr annibynnol ein hunain. Felly, mewn sawl ffordd, ac yn y tymor hir, mae’r Bil hwn yn amherthnasol. Yr anadl olaf o San Steffan yn esgus ei fod yn penderfynu ar ddyfodol cenedl Cymru, ac nid pobl Cymru yn penderfynu ar ein dyfodol.
Rwy'n credu, fodd bynnag, y gellir rhoi tri rheswm dros symud ymlaen gyda'r Bil er mwyn rhoi pwerau i ni i’n harwain yn y pump i 10 mlynedd cythryblus nesaf. Yn gyntaf, bydd y Bil yn helpu i atal San Steffan rhag cipio tir ymhellach, drwy sicrhau Sewel mewn statud, a thrwy sicrhau bod y model cadw pwerau yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn cipio rhagor o dir—er bod y Bil ei hun yn enghraifft o gipio tir—ar ôl y bleidlais Brexit . Yn ail, wrth ddatganoli i'r Cynulliad y pŵer i benderfynu ar y trefniadau yn y dyfodol, mae'r Bil yn ein galluogi ni i ddyfnhau a chryfhau ein democratiaeth. Dyma ein cyfle ni i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed, er mwyn cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy i etholiadau lleol ac yna genedlaethol yng Nghymru, ac i ennill cydnabyddiaeth o'r Cynulliad fel Senedd sofran Cymru. Ac yn olaf, drwy hwyluso datganoli cyllidol a rhywfaint o reolaeth ar ein hadnoddau naturiol, bydd y Bil yn gwneud unrhyw Lywodraeth Cymru yn fwy ymatebol ac atebol i bobl Cymru.
Heb y pwerau treth y mae’r Bil hwn yn eu caniatáu, ni fyddwn yn aeddfedu fel democratiaeth, ac ni fyddwn yn paratoi ein hunain yn llawn am yr heriau o adael yr Undeb Ewropeaidd. Tra bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn perthynas blentynnaidd â San Steffan, mam y seneddau fel y'i gelwir, heb eto ddiddyfnu oddi ar Whitehall, yn beio cyllid annigonol am eu methiannau, yn taflu’r baich gwleidyddol ar eraill ar bob cyfle, ni fyddwn byth yn barod i gymryd cyfrifoldeb dros ein dyfodol ein hunain. Felly, gan yr ymddengys bod y Bil hwn heddiw yn mynd i fod yn Ddeddf, dylem ddefnyddio'r pwerau cyfyngedig y mae'n eu rhoi i ni yn y tri maes hyn i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol gwirioneddol ein cenedl, tuag at adeg pan fyddwn unwaith eto yn rhannu cyfrifoldeb ac ymdrech ar y cyd â’n partneriaid yn Ewrop, ond y tro hwn fel gwladwriaeth annibynnol.