9. 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 6:31, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Hwn yw'r setliad llywodraeth leol cyntaf ers pedair blynedd i ddangos cynnydd cyffredinol yn y nawdd, ac mae hyn i’w groesawu, a bydd UKIP yn cefnogi'r setliad. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud y defnydd gorau o'r arian hwn, ac mae hyn yn golygu gwahardd gwariant gwastraffus gan y cynghorau.