– Senedd Cymru am 6:09 pm ar 17 Ionawr 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl ar setliad llywodraeth leol, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddwyn y cynnig ger ein bron—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch o gyflwyno o flaen y Cynulliad i’w gymeradwyo setliad llywodraeth leol 2017-18 ar gyfer y 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Y flwyddyn nesaf, ar ôl cymryd popeth i ystyriaeth, bydd awdurdodau lleol Cymru yn derbyn dros £4.1 biliwn o gyllid refeniw cyffredinol. Mae hwn yn gynnydd o 0.2 y cant, o’i gymharu â’r flwyddyn 2016-17. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14.
Mae’r setliad yn adlewyrchu ein cytundeb gyda Phlaid Cymru i roi £25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol i’w helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn ogystal ag £1 filiwn ar gyfer cludiant i’r ysgol a £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot ar drefniadau parcio yng nghanol trefi. O gofio am y pwysau o bob cyfeiriad ar gyllideb Cymru, rwy’n credu bod hwn yn setliad teg i lywodraeth leol a’i fod cryn dipyn yn well na’r hyn y buasai’r rhan fwyaf o bobl o fewn llywodraeth leol yn ei ddisgwyl.
Dirprwy Lywydd, the Welsh Government has protected funding for local government in Wales in recent years, and this settlement is no different. Now, I recognise that, despite these efforts, gross revenue funding by Welsh authorities was 4 per cent lower in real terms over the period 2010-11 to 2015-16. Across our border in England, however, according to the National Audit Office, councils were having to deal with reductions in the real-terms spending power available to them of 25 per cent over the same period.
In preparing the settlement, careful consideration has been given to the advice of the distribution sub-group and finance sub-group around improvements to the local government funding formula. The distribution reflects the most up-to-date assessment of relative need, based on a wealth of information about the demographic, physical, economic and social characteristics of every authority in Wales. In the normal manner, a formal consultation has been carried out on the provisional settlement, and I am confident that the funding announced provides councils with a robust basis for their financial planning for the coming year.
In the final settlement, a further £6 million has been provided over and above the funding set out in the draft settlement for work to support the prevention of homelessness. Homelessness, or the threat of it, has a significant negative impact on people’s lives. Preventing it, therefore, contributes to our well-being goal of a healthier Wales and to achieving our well-being objective of improving access to secure and safe homes.
I said here in the Assembly in our first full draft budget debate that this was a budget for stability and ambition, and that ambition extends very directly to those commitments in ‘Taking Wales Forward’ to be discharged in partnership with local authorities. This settlement, therefore, provides £4.5 million to fund the commitment to increase the capital limit used by local authorities that charge for residential care. The limit will rise from £24,000 to £30,000 in the next financial year, and this is the first step in the delivery of our commitment to move towards a limit of £50,000. Secondly, the settlement provides £0.3 million to fund the commitment to introduce a full disregard of the war disablement pension in financial assessments for charging for social care. And thirdly, £1.6 of additional funding outside the settlement has been included to ensure that no authority sees a reduction of greater than 0.5 per cent in its budget, compared to its 2016-17 general revenue funding allocation.
Dirprwy Lywydd, it’s a shared ambition with local government that specific grants are used sparingly and strategically, and the settlement for 2017-18 contains £3.1 million of funding previously provided through specific grants. This includes £2.85 million of funding previously provided via the social services delivering transformation grant. In total, this means that annual funding of over £194 million has been transferred into the settlement since 2011-12, and, as finance Minister as well as local government Minister, that is a process that I intend to pursue further as this Assembly proceeds.
Dirprwy Lywydd, amendments to the budget happen in both directions. The change in arrangements for the registration of the education workforce has resulted in a transfer out of the settlement of £1 million formerly provided in respect of teacher registration fee subsidies. The bulk of changes, however, have been to add to the resources available to local government in Wales.
The final budget, approved by the National Assembly last week, provided for an additional £10 million in recognition of the particular financial challenges arising from the provision of social care, including workforce pressures. This is over and above the £25 million originally announced in recognition of the importance of strong, local social services to the long-term success of the health service in Wales and in recognition of the growing pressures that social services face.
As Members will know, through announcements made before Christmas, an additional £10 million for non-domestic rates relief in 2017-18 is to be provided alongside the £10 million already announced for the transitional relief scheme. The mechanism for deploying this additional funding has been agreed through discussion with Plaid Cymru. It will be delivered through local authorities and targeted at businesses on the high street and in the hospitality sector.
Alongside the settlement, I published the latest information on the Welsh Government grant schemes for 2017-18. The most up-to-date information on local authority capital funding has also been released. Overall for next year, there has once again been no reduction to general capital funding, which remains at £143 million.
As Members will be aware, while the unhypothecated settlement is the largest single source of funding available to authorities, it is not the only one. In setting their budgets and council tax levels for next year, I expect every authority to take account of all the available funding streams and to consider how to secure best value for Welsh taxpayers through effective and efficient service provision, deploying the latest advice from the Wales Audit Office in their particular circumstances.
We offer considerable flexibility to authorities in Wales, which is not available to their counterparts in England. That flexibility allows them to exercise autonomy and responsibility in managing their finances. In return, it is for them to shape their budgets in the round, combining resources made available nationally with revenues raised locally.
Dirpwy Lywydd, this is a fair settlement for local government in challenging times and enables authorities the opportunity to focus on the significant changes that will be required to manage the longer-term reductions in funding.
I’ll repeat the message that I’ve given to all public services in Wales and their partners since the overall draft budget was published in October: now is the time to plan ahead purposefully and unstintingly for those decisions that will be needed to make harder choices and face the tougher times that lie in the future. In the meantime, and as for next year, I ask Assembly Members to support the motion before them this afternoon.
Mae hi bron i saith mlynedd ers i’r Ceidwadwyr ffurfio Llywodraeth yn San Steffan—saith mlynedd ers iddyn nhw gyflwyno eu polisïau llymder dinistriol; saith mlynedd ers i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu torri i’r byw o ganlyniad. Siomedig oedd gweld Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi’r siartr llymder cyn etholiad cyffredinol 2015.
Mae’r crebachu ar y gwasanaethau cyhoeddus yn brathu go iawn yn ein cymunedau ni. Yn sgil yr holl sylw y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael ar hyn o bryd ac, yn bwysig, y ffordd cafodd yr Undeb Ewropeaidd ei feio am nifer o’r problemau yn ein cymdeithas sy’n codi o ganlyniad i lymder, mae perig inni anghofio mai ideoleg sy’n gyrru llymder. Ideoleg sy’n arwain at ddatgymalu’r gwasanaethau cyhoeddus—y rhwyd diogelwch sydd mor bwysig i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas—ideoleg rydw i a Phlaid Cymru yn ymwrthod â hi.
Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yng Nghymru—toriad o 1.4 y cant yn 2016-17 a 3.4 y cant yn 2015-16—fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y gyllideb yn ddiweddar, mae fy mhlaid i wedi sicrhau y bydd £25 miliwn ychwanegol ar gael i ariannu awdurdodau lleol. O ganlyniad i’r cytundeb yma, yn 2017-18, mi fydd rhai o awdurdodau lleol Cymru yn gweld y cynnydd ariannol cyntaf yn eu cyllideb ers rhai blynyddoedd. Ond, wrth gwrs, mewn termau real, ac yn dilyn ffactorau megis chwyddiant, pwysau anorfod sylweddol am fwy o wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, treth cyflogi ychwanegol a’r ardoll prentisiaeth, er gwaetha’r buddsoddiad ychwanegol, mae’r setliad yma yn doriad mewn termau real i rai awdurdodau lleol. Er bod y setliad, felly, yn well na setliadau’r blynyddoedd diwethaf, nid yw’n achos i ddathlu, yn arbennig o ystyried fod pob adran arall o’r Llywodraeth, heblaw gwasanaethau canolog, wedi derbyn cynnydd llawer uwch yn eu cyllidebau.
Un mater i dynnu sylw ato yw’r cais blynyddol i Lywodraeth Cymru ddatgan ffigurau dangosol am y blynyddoedd dilynol gyda’r setliad blynyddol. Mewn blwyddyn arferol ôl-etholiad mi fuasai awdurdodau lleol wedi disgwyl i’r Llywodraeth ddatgan eu bwriad ar gyfer 2018-19 a 2019-20 efo’r setliad ar gyfer 2017-18. Mae’r pwrs cyhoeddus yn crebachu, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol bod yna fwy o doriadau ar y ffordd. Ac er bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arbed dros £700 miliwn ers dechrau llymder, mae disgwyl y bydd diffyg cyllidebol o ryw £900 miliwn erbyn 2019-20.
Nid yw llymder yn gweithio. Mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau yn gyson ers 2010 bod angen buddsoddi mewn seilwaith—ffyrdd, rheilffyrdd a band llydan—er mwyn sicrhau economi cryf a all arwain at wasanaethau cyhoeddus o safon, sef yr hyn mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Yn wir, rwy’n croesawu setliad llywodraeth leol terfynol Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer 2017-18, ac rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i leiafswm nawdd ar gyfer setliadau llywodraeth leol, fel yr amlinellwyd yn y rhaglen lywodraethu. Mae hyn, wrth gwrs, yn ategu lleiafswm nawdd fformwla Barnett a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at beth sefydlogrwydd ariannol yn y cyfnod hwy i’n hawdurdodau lleol. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad ers pedair blynedd. Ond, wrth gwrs, nid yw'n gwneud yn iawn o gwbl am y £299 miliwn a gymerwyd o gyllidebau llywodraeth leol ers 2013.
Yn wir, byddwn yn cytuno â'r Aelod Siân Gwenllian wrth iddi sôn am y gyllideb ddangosol. Gwn, pan fyddaf yn cwrdd ag arweinwyr cynghorau a phrif weithredwyr, y byddent yn hoffi gallu cynllunio’n ariannol yn y tymor hwy. Rwy'n credu, mewn unrhyw amgylchedd busnes, y byddech am gael rhywfaint o syniad am y setliad sydd i ddod. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod awdurdodau lleol, ers 2010, wedi wynebu gostyngiad mewn termau real o £761 miliwn yng nghrynswth y cyllid allanol, sy'n creu y rhan helaethaf o'i arian refeniw cyffredinol, gan gynnwys setliad eleni. Mae’r rhain yn doriadau o tua 7 y cant ers 2013-14. Fodd bynnag, ym Mhowys, rydym yn gweld toriadau o 10.88 y cant; ac yn Sir Fynwy, 9.98 y cant. Eto i gyd, mae'r wyth awdurdod lleol sydd wedi wynebu’r toriadau lleiaf i'w cyllidebau—er mawr ryfeddod—yn cael eu harwain gan Lafur i gyd. Gwelwyd toriadau mawr i’r gwariant ar wasanaethau rheoleiddio —cynllunio, iechyd amgylcheddol a diogelwch bwyd. Mae gan y rhain i gyd eu rhan yn niogelwch a llesiant ein trigolion lleol.
Ers blynyddoedd rydym wedi galw am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla ariannu. Mae'r uned asesu gwariant safonol ar gyfer disgybl ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-11 dros dair gwaith yn fwy nag ar gyfer pensiynwr 85 oed a throsodd, ac yn fwy na 6.7 gwaith yn fwy nag ar gyfer unigolyn sy’n dioddef o anabledd difrifol. Mewn cymdeithas sy'n heneiddio, a chyda cymaint o dystiolaeth yn pwyntio at yr angen am gynnydd enfawr mewn gwariant ar ofal cymdeithasol, mae'n siomedig nad yw hyn wedi ei ateb drwy gyfrwng y fformiwla, gan Lywodraeth Cymru, ar sail flynyddol mewn adolygiad sylfaenol. Mae'r ffigurau ar gyfer gwasgariad y boblogaeth, aneddiadau a throthwyon poblogaeth yn deillio o ddata sy’n dyddio o 1991. Ac mae'r grant amddifadedd yn dyddio o 2000—yn ystod y mileniwm. Nid yw seilio gwariant ein hawdurdodau lleol a'r gofynion sydd arnyn nhw ar ffigurau mor hynafol yn argoeli’n dda ar gyfer ein dinasyddion yng Nghymru.
Er fy mod yn croesawu'r £ 25 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, rhaid cofio bod arolwg diweddar gan y Sefydliad Iechyd ar ofal cymdeithasol wedi dangos y bydd y pwysau ar eu cyllidebau yn gofyn am ddyblu’r gyllideb dros y 14 mlynedd nesaf. At hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r dreth gyngor yng Nghymru wedi codi, ar gyfartaledd, 3.6 y cant yn 2016-17. Yn 2016, mae Ceredigion, Sir Benfro a Chonwy wedi cynyddu eu treth gyngor 5 y cant, ymhell dros chwyddiant—yn uwch na phob un ond tri chyngor yn Lloegr a'r Alban. Mae eiddo band D ar gyfartaledd bellach yn atebol am £1,374, ac eto ym 1997, pan ddaethoch chi i rym, roedd yn £495. Mae’r dreth gyngor yng Nghymru wedi codi 178 y cant dan Lafur Cymru. Deallaf, Weinidog, eich bod wedi crybwyll o'r blaen y buasech yn adolygu’r dreth gyngor yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i chi, o ddifrif, am amlinelliad o rai o'ch syniadau am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud, wrth symud ymlaen.
Rhwng 2011-12 a 2015-16, cafodd Llywodraeth Cymru dros £94 miliwn mewn nawdd canlyniadol yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu grantiau i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Ond mae eich Llywodraeth chi, yn anffodus, wedi gwrthod defnyddio'r arian hwn. Mae'n ffaith bod y rhai sy’n talu’r dreth gyngor yng Nghymru yn awr yn talu'r gyfran uchaf o dreth gyngor yn ynys Prydain—yn 2015—ac mae’r Cyngor ar Bopeth yn nodi mai’r dreth gyngor yw achos mwyaf y broblem gyda dyled yng Nghymru, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal yr adolygiad hwn, a byddwn yn wir yn eich annog i fwrw ymlaen.
Wrth gwrs, ar fesurau cyni Llywodraeth y DU y mae’r bai am bob dim bob amser. Wel, mae honno yn ddadl sydd wedi gweld ei dyddiau gorau erbyn hyn, o ystyried mai polisïau o orwario gan y Llywodraeth Lafur flaenorol oedd wedi arwain at weithredu mesurau o'r fath. Rhaid inni beidio ag anghofio: daw £15 biliwn i Gymru o’r Trysorlys ar gyfer poblogaeth o dair miliwn o bobl. Mae hon yn gyllideb sydd wedi ei datganoli. Y chi sy’n cael yr arian, y chi sy’n pennu’r blaenoriaethau. Eich blaenoriaethau chi yw’r rhain. Peidiwch â rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am y modd y byddwch chi yn penderfynu gwario eich arian. Diolch.
Cefais fy nhemtio yn arw i godi a dweud fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Siân Gwenllian a’m bod yn anghytuno â phopeth a ddywedodd Janet Finch-Saunders. Ond yn anffodus i bawb arall, ni fydd mor fyr â hynny yn hollol.
Mae hwn wedi bod yn setliad llawer gwell na’r disgwyl ar gyfer llywodraeth leol. Er bod croeso cyffredinol iddo gan gynghorau, mae'n dal i fod—gadewch i ni gael chwa o’r gwirionedd yma—yn doriad mewn termau real. Mae’r gyfran gymharol o wariant Llywodraeth Cymru ym maes iechyd a llywodraeth leol yn parhau i ffafrio iechyd fwyfwy. Bwriadaf wneud tri pheth. Yn gyntaf, rwyf yn bwriadu trafod y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol eto. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny, gan fy mod yn credu'n gryf bod gofal cymdeithasol dan fwy o bwysau nag unrhyw wasanaeth arall a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Yn ail, rwyf yn bwriadu cynyddu pwysigrwydd amrywiaeth o wasanaethau cyngor, ac yn olaf rwyf yn bwriadu cysylltu gwasanaethau'r cyngor ag iechyd a lles.
Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn rhagor o gyfyngder ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwyf yn cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw'n hirach—ac mae hynny yn destun balchder mawr i lawer ohonom ni—ond rydym yn gwybod hefyd, wrth i bobl fynd yn hŷn, mae angen mwy o ofal arnyn nhw. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl ar y cyfan yn profi eu problemau iechyd mwyaf, ac yn gorfod mynd i'r ysbyty, yn ystod 12 mis i ddwy flynedd olaf eu hoes.
Mewn eiliad.
Ond rydym yn gwybod y gall fod angen gofal cymdeithasol arnyn nhw am 40 neu 50 mlynedd. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Rwy’n gwerthfawrogi eich bod wedi derbyn ymyriad. Rydych chi wedi clywed am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol lawer gwaith. Wrth symud ymlaen, wedi’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, nid oes dim wedi newid. Mae’r adnoddau sy’n cael eu gwastraffu ar hyn o bryd, drwy flocio gwelyau ac oedi wrth drosglwyddo, yn gwbl anghredadwy. Buaswn yn gofyn i chi: pa un ohonoch chi, Weinidogion y Llywodraeth, sydd mewn difrif am gymryd cyfrifoldeb am hyn ac am yrru'r agenda honno yn ei blaen?
Rwy’n credu y dylech ofyn hynny i un o Weinidogion y Llywodraeth. Ond diffyg adnoddau ydyw mewn difri. Fe weithiodd cyfuno gofal sylfaenol ac eilaidd mor anhygoel o dda, oni wnaeth?
Gall fod angen gofal cymdeithasol ar rywun am ddegawdau. Gwelsom effaith torri gwariant llywodraeth leol, ac felly wariant ar ofal cymdeithasol yn Lloegr. Rydym yn gwybod at beth y mae hyn yn arwain: gwelyau yn cael eu blocio gan y rhai sy'n barod i gael eu rhyddhau yn feddygol, ond lle nad oes pecyn gofal ar gael, ni all y claf gael ei ryddhau; angen mwy am ofal mewn ysbyty oherwydd diffyg cymorth yn y cartref. Rydym hefyd yn gwybod y gall aros mewn ysbyty arwain at leihau gallu pobl i ofalu amdanyn nhw eu hunain. Yn rhy aml, bydd rhai sy'n alluog i fyw ar eu pennau eu hunain, wedi arhosiad byr neu dymor canolig yn yr ysbyty, ag angen gofal preswyl arnyn nhw. Mae angen inni werthfawrogi'r gwasanaethau a ddarperir gan ofal cymdeithasol. Mae angen inni sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael digon o nawdd.
Hoffwn i siarad am amrywiaeth bwysig y gwasanaethau gan awdurdodau lleol. Gallwn restru’r gwasanaethau yn unig, ond dwy funud a hanner sydd gen i yn weddill ac ni fyddwn wedi mynd heibio i'r llythyren C. Felly, er mwyn tynnu sylw at ychydig o’r gwasanaethau nad oes cymaint o sôn amdanyn nhw: pwysigrwydd cadw goleuadau’r stryd ymlaen; safonau masnach yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu rhag masnachwyr twyllodrus; gwasanaethau archif; gwarchod y cyhoedd gyda diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys hebryngwyr croesfannau ysgol; sicrhau bod adeiladau yn ddiogel, yn iach ers blynyddoedd ac yn gynaliadwy, a mynediad i bob un sy’n eu defnyddio, bydded yn wasanaethau domestig, masnachol neu gyhoeddus; cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau; trwyddedu tacsis; orielau celf, amgueddfeydd a theatrau—dim ond rhai o'r pethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu yn eu cymunedau.
Ar wahân i ofal cymunedol, dim ond ychydig iawn o'r ffyrdd y mae’r cynghorau yn helpu i leihau'r galw ar y gwasanaeth iechyd yw’r rhain. Hwb o’r mwyaf i iechyd yw’r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ysmygu, ac mae’n rhaid cydnabod y gwaith a wneir gan Cymunedau yn Gyntaf yn hyrwyddo anghenion y rhai sy’n rhoi'r gorau i ysmygu. Annog pobl i fyw mewn ffordd fwy egnïol; lleihau gordewdra trwy gynyddu gweithgarwch corfforol drwy ddarparu cyfleusterau hamdden mwy fforddiadwy, fel neuaddau ffitrwydd fforddiadwy a meysydd chwaraeon fforddiadwy; sicrhau hylendid bwyd mewn safleoedd bwyd; hyrwyddo beicio; a chanolfannau cymunedol sy’n galluogi pobl, yn enwedig yr henoed, i gymysgu â'i gilydd—bydd y rhain i gyd yn gwella iechyd. Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw unigrwydd, a'r effaith a gaiff unigrwydd ar lawer o bobl oedrannus. Mae canolfannau cymunedol yn gyfle iddyn nhw gwrdd a chymysgu â’i gilydd. Ai fi yw’r unig un sy'n credu y bydd lleihau nifer y cyfleusterau chwaraeon, fel canolfannau hamdden, yn effeithio ar iechyd pobl?
Yn olaf, credaf ym mhwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddiolch i Lywodraeth Lafur Cymru am beidio â chydsynio â'r toriadau enfawr a wnaed i lywodraeth leol yn Lloegr, nid tocio’n llym ar lywodraeth leol fel y gwnaethon nhw yn Lloegr, a'r effaith a gafodd hynny ar ystod eang o wasanaethau. Mae llywodraeth leol yn rhywbeth pwysig yng ngolwg pawb ohonom. Mae angen inni ariannu llywodraeth leol yn ddigonol, neu byddwn i gyd yn colli'r gwasanaethau pwysig iawn y mae'n eu darparu ac yr ydym i gyd yn eu defnyddio.
Hwn yw'r setliad llywodraeth leol cyntaf ers pedair blynedd i ddangos cynnydd cyffredinol yn y nawdd, ac mae hyn i’w groesawu, a bydd UKIP yn cefnogi'r setliad. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud y defnydd gorau o'r arian hwn, ac mae hyn yn golygu gwahardd gwariant gwastraffus gan y cynghorau.
Un maes newydd sy’n achosi problem yw’r defnydd o gardiau caffaeliad y Llywodraeth. Gwariwyd tua £92 miliwn ar y cardiau hyn gan gynghorau dros y pum mlynedd diwethaf, felly rydym yn sôn am symiau go fawr. Adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2012 fod y gweithdrefnau o ran ymdrin â’r cardiau hyn yn rhy llac, ac roedd diffyg arweiniad canolog ar ddefnydd priodol cerdyn o'r fath. Yn rhyfeddol iawn, cyngor Sir Benfro sydd wedi gwario fwyaf ar gardiau caffaeliad, cyfanswm o £26 miliwn ers 2011—bron £8 miliwn yn fwy nag unrhyw awdurdod lleol arall. O ystyried mai’r un cyngor hefyd oedd yn gysylltiedig â sgandal sy’n dal i rygnu ymlaen ynglŷn â chyflogau’r uwch swyddogion, efallai y dylai hyn fod yn rhybudd. Ac mae cyflog uwch swyddogion yn elfen arall y mae angen inni gadw golwg manwl iawn arno.
Mater pwysig arall yw’r dirywiad yng ngwasanaethau'r cynghorau. Mae llawer o awdurdodau lleol bellach yn darparu tipyn yn llai o wasanaethau nag o'r blaen, yn ôl tystiolaeth pethau fel cau swyddfeydd lleol ac agor canolfan alwadau yn eu lle, darparu cyfleusterau cymunedol gan gwmnïau allanol, a lleihad mewn gwasanaethau hanfodol fel casglu sbwriel.
Felly, er ei fod yn setliad rhesymol, mae’n rhaid i ni alw awdurdodau lleol i gyfrif yn drylwyr cyn belled ag y gallwn am y modd y maen nhw yn gwario eu harian.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth. A diolch i’r rhai hynny sydd wedi dangos eu cefnogaeth i'r cynnig y prynhawn yma. Byddaf yn cymryd y pedwar cyfrannwr o’r tu ôl ymlaen, os gallaf.
Roedd Gareth Bennett yn hollol iawn i ddweud na all unrhyw awdurdod lleol yn y cyfnod anodd iawn hwn fforddio gwneud unrhyw beth ond yn y modd mwyaf effeithlon. Rydym yn gweithio'n galed gyda nhw i geisio sicrhau hynny, gan ddefnyddio'r cyngor a ddaw o'r swyddfa archwilio ac o fannau eraill. Yn y pen draw lle’r etholwyr yw gwneud yn siwr eu bod yn galw awdurdodau lleol i gyfrif am y ffordd y maen nhw yn cyflawni eu cyfrifoldebau.
Amlinellodd Mike Hedges y niferoedd mawr o’r gwasanaethau hynny y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, sydd ond yn ymddangos yn y penawdau yn anaml iawn, ond sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i allu’r dinesydd i fyw ei fywyd fel y buasai’n dymuno gwneud. Yn fy nhrafodaethau am y gwasanaethau hyn gydag awdurdodau lleol dros yr haf ac wedi hynny, maen nhw eu hunain yn barod iawn i gyfeirio’r modd y gall trefniadau rhanbarthol gynorthwyo wrth rannu adnoddau, a rhannu staff prin, a gwneud yn siŵr bod arbenigedd ar gael. Gobeithio y gallaf ddweud rhagor am hynny wrth y Cynulliad Cenedlaethol fel y bydd y trafodaethau hynny ag awdurdodau yn dirwyn i ben. Mae Mike yn gywir, wrth gwrs, i dynnu sylw at y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol. Dyna pam mae £25 miliwn yn y setliad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam rydym wedi ychwanegu £10 miliwn arall at y setliad terfynol hwn, i gydnabod y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd y gronfa gofal canolraddol gwerth £60 miliwn yn cael ei chynnal i’r flwyddyn nesaf hefyd, i helpu i ddod â’r gwasanaethau hynny at ei gilydd.
Ymyrrodd Janet Finch-Saunders er mwyn tynnu sylw at ffigurau’r oedi wrth drosglwyddo gofal. Roedd yn ddewr iawn yn gwneud hynny, yn fy nhŷb i, o ystyried y penawdau yr ydym wedi eu darllen yn feunyddiol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf am chwalfa fawr gofal cymdeithasol yn Lloegr a'r effaith y mae hynny wedi ei chael ar wasanaethau cymdeithasol yno. Ac yma yng Nghymru, rydym yn darparu, yn y Llywodraeth hon, y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Nid ydym yn dyfeisio rhyw gynllun anwadal sy’n disgwyl i rai o’r awdurdodau lleol lleiaf medrus ddatrys y methiant eu hunain. Datganiad yr hydref heb yr un ddimai goch ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr a dim i ddilyn hynny i ni yng Nghymru. Ond, gan weithio gyda Phlaid Cymru, roeddem yn gallu creu— [Toriad ar draws.] Wel, ie, gan weithio gyda Phlaid Cymru, roeddem yn gallu nodi rhai blaenoriaethau cyffredin, ac mae'r buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol yn adlewyrchu hynny.
Roeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am yr angen i wneud yn siŵr ein bod yn cael fformiwla ariannu sy'n addas i’r dyfodol. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyfarfod â'r is-grŵp cyllid sy'n cynnwys pobl o lywodraeth leol a thu hwnt, ac arbenigwyr annibynnol, er mwyn edrych ar ffyrdd o ddiwygio’r fformiwla hon yng Nghymru. Roedd hi'n gwbl anghywir pan awgrymodd nad yw'r wybodaeth yr ydym yn ei bwydo i'r fformiwla bresennol yn gyfredol. Mae’n cael ei diweddaru bob un flwyddyn er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y boblogaeth, er mwyn adlewyrchu nifer y plant yn ein hysgolion, ac eleni, am setliad y flwyddyn nesaf, i weithredu rhai newidiadau pwysig iawn mewn cysylltiad â phoblogaeth wasgaredig. Y ddau awdurdod lleol sy'n elwa fwyaf yn sgil y newidiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf yw Ceredigion, sy'n gweld ei gyllideb yn codi 0.9 y cant, a Gwynedd, sy'n gweld ei gyllideb yn codi 1.1 y cant. Nid wyf yn meddwl bod y naill neu'r llall yn cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur, fel yr awgrymodd Janet.
Gadewch i mi gyfeirio at y pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian wrth agor. Yn gwbl ddilys, tynnodd ein sylw at yr ymgyrch ideolegol sydd wrth wraidd y polisi ar gyni sy’n ddiffygiol, yn ffaeledig ac yn hunandrechol, a'r effaith wirioneddol ac uniongyrchol a gaiff hynny ar fywydau pobl ledled Cymru. Drwy ein hymdrechion ni a'r trafodaethau a gafwyd wrth lunio'r gyllideb, rydym wedi llwyddo i warchod awdurdodau lleol orau y gallwn y flwyddyn nesaf. Ond, fel y dywedodd Siân Gwenllian, er gwaethaf yr ymdrechion hynny, mae'r setliad yn dal i fod yn heriol iawn. Yr hyn a wyddom, yn anffodus, oherwydd y cyllidebau sydd o'n blaenau ni eto fel Cynulliad Cenedlaethol, yw bod effaith cyni ar y cyllidebau y gallwn eu darparu i awdurdodau lleol yn dal i fod yn heriol, ac yn fwy heriol eto, dros weddill tymor y Cynulliad hwn. Yn y cyfamser, Lywydd, credaf fod y setliad gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn dynodi canlyniad teg i lywodraeth leol. Mae'n eu galluogi i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol. Bydd yn rhaid iddyn nhw rymuso eu hymdrechion nawr wrth weithredu'r newidiadau angenrheidiol i allu cynnal y gwasanaethau hynny a sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ledled Cymru. Mae'r setliad sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma yn paratoi’r llwyfan ar gyfer gwneud hynny, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio. A oes tri Aelod yn cefnogi—? Ocê, roedd hynny’n dri. Fe wnaf i gymryd hynny fel tri, ac felly fe genir y gloch.