Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 17 Ionawr 2017.
Un maes newydd sy’n achosi problem yw’r defnydd o gardiau caffaeliad y Llywodraeth. Gwariwyd tua £92 miliwn ar y cardiau hyn gan gynghorau dros y pum mlynedd diwethaf, felly rydym yn sôn am symiau go fawr. Adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2012 fod y gweithdrefnau o ran ymdrin â’r cardiau hyn yn rhy llac, ac roedd diffyg arweiniad canolog ar ddefnydd priodol cerdyn o'r fath. Yn rhyfeddol iawn, cyngor Sir Benfro sydd wedi gwario fwyaf ar gardiau caffaeliad, cyfanswm o £26 miliwn ers 2011—bron £8 miliwn yn fwy nag unrhyw awdurdod lleol arall. O ystyried mai’r un cyngor hefyd oedd yn gysylltiedig â sgandal sy’n dal i rygnu ymlaen ynglŷn â chyflogau’r uwch swyddogion, efallai y dylai hyn fod yn rhybudd. Ac mae cyflog uwch swyddogion yn elfen arall y mae angen inni gadw golwg manwl iawn arno.
Mater pwysig arall yw’r dirywiad yng ngwasanaethau'r cynghorau. Mae llawer o awdurdodau lleol bellach yn darparu tipyn yn llai o wasanaethau nag o'r blaen, yn ôl tystiolaeth pethau fel cau swyddfeydd lleol ac agor canolfan alwadau yn eu lle, darparu cyfleusterau cymunedol gan gwmnïau allanol, a lleihad mewn gwasanaethau hanfodol fel casglu sbwriel.
Felly, er ei fod yn setliad rhesymol, mae’n rhaid i ni alw awdurdodau lleol i gyfrif yn drylwyr cyn belled ag y gallwn am y modd y maen nhw yn gwario eu harian.