9. 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 6:33, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth. A diolch i’r rhai hynny sydd wedi dangos eu cefnogaeth i'r cynnig y prynhawn yma. Byddaf yn cymryd y pedwar cyfrannwr o’r tu ôl ymlaen, os gallaf.

Roedd Gareth Bennett yn hollol iawn i ddweud na all unrhyw awdurdod lleol yn y cyfnod anodd iawn hwn fforddio gwneud unrhyw beth ond yn y modd mwyaf effeithlon. Rydym yn gweithio'n galed gyda nhw i geisio sicrhau hynny, gan ddefnyddio'r cyngor a ddaw o'r swyddfa archwilio ac o fannau eraill. Yn y pen draw lle’r etholwyr yw gwneud yn siwr eu bod yn galw awdurdodau lleol i gyfrif am y ffordd y maen nhw yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

Amlinellodd Mike Hedges y niferoedd mawr o’r gwasanaethau hynny y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, sydd ond yn ymddangos yn y penawdau yn anaml iawn, ond sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i allu’r dinesydd i fyw ei fywyd fel y buasai’n dymuno gwneud. Yn fy nhrafodaethau am y gwasanaethau hyn gydag awdurdodau lleol dros yr haf ac wedi hynny, maen nhw eu hunain yn barod iawn i gyfeirio’r modd y gall trefniadau rhanbarthol gynorthwyo wrth rannu adnoddau, a rhannu staff prin, a gwneud yn siŵr bod arbenigedd ar gael. Gobeithio y gallaf ddweud rhagor am hynny wrth y Cynulliad Cenedlaethol fel y bydd y trafodaethau hynny ag awdurdodau yn dirwyn i ben. Mae Mike yn gywir, wrth gwrs, i dynnu sylw at y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol. Dyna pam mae £25 miliwn yn y setliad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam rydym wedi ychwanegu £10 miliwn arall at y setliad terfynol hwn, i gydnabod y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd y gronfa gofal canolraddol gwerth £60 miliwn yn cael ei chynnal i’r flwyddyn nesaf hefyd, i helpu i ddod â’r gwasanaethau hynny at ei gilydd.

Ymyrrodd Janet Finch-Saunders er mwyn tynnu sylw at ffigurau’r oedi wrth drosglwyddo gofal. Roedd yn ddewr iawn yn gwneud hynny, yn fy nhŷb i, o ystyried y penawdau yr ydym wedi eu darllen yn feunyddiol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf am chwalfa fawr gofal cymdeithasol yn Lloegr a'r effaith y mae hynny wedi ei chael ar wasanaethau cymdeithasol yno. Ac yma yng Nghymru, rydym yn darparu, yn y Llywodraeth hon, y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Nid ydym yn dyfeisio rhyw gynllun anwadal sy’n disgwyl i rai o’r awdurdodau lleol lleiaf medrus ddatrys y methiant eu hunain.  Datganiad yr hydref heb yr un ddimai goch ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr a dim i ddilyn hynny i ni yng Nghymru. Ond, gan weithio gyda Phlaid Cymru, roeddem yn gallu creu— [Toriad ar draws.] Wel, ie, gan weithio gyda Phlaid Cymru, roeddem yn gallu nodi rhai blaenoriaethau cyffredin, ac mae'r buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol yn adlewyrchu hynny.

Roeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am yr angen i wneud yn siŵr ein bod yn cael fformiwla ariannu sy'n addas i’r dyfodol. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyfarfod â'r is-grŵp cyllid sy'n cynnwys pobl o lywodraeth leol a thu hwnt, ac arbenigwyr annibynnol, er mwyn edrych ar ffyrdd o ddiwygio’r fformiwla hon yng Nghymru. Roedd hi'n gwbl anghywir pan awgrymodd nad yw'r wybodaeth yr ydym yn ei bwydo i'r fformiwla bresennol yn gyfredol. Mae’n cael ei diweddaru bob un flwyddyn er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y boblogaeth, er mwyn adlewyrchu nifer y plant yn ein hysgolion, ac eleni, am setliad y flwyddyn nesaf, i weithredu rhai newidiadau pwysig iawn mewn cysylltiad â phoblogaeth wasgaredig. Y ddau awdurdod lleol sy'n elwa fwyaf yn sgil y newidiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf yw Ceredigion, sy'n gweld ei gyllideb yn codi 0.9 y cant, a Gwynedd, sy'n gweld ei gyllideb yn codi 1.1 y cant. Nid wyf yn meddwl bod y naill neu'r llall yn cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur, fel yr awgrymodd Janet.

Gadewch i mi gyfeirio at y pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian wrth agor. Yn gwbl ddilys, tynnodd ein sylw at yr ymgyrch ideolegol sydd wrth wraidd y polisi ar gyni sy’n ddiffygiol, yn ffaeledig ac yn hunandrechol, a'r effaith wirioneddol ac uniongyrchol a gaiff hynny ar fywydau pobl ledled Cymru. Drwy ein hymdrechion ni a'r trafodaethau a gafwyd wrth lunio'r gyllideb, rydym wedi llwyddo i warchod awdurdodau lleol orau y gallwn y flwyddyn nesaf. Ond, fel y dywedodd Siân Gwenllian, er gwaethaf yr ymdrechion hynny, mae'r setliad yn dal i fod yn heriol iawn. Yr hyn a wyddom, yn anffodus, oherwydd y cyllidebau sydd o'n blaenau ni eto fel Cynulliad Cenedlaethol, yw bod effaith cyni ar y cyllidebau y gallwn eu darparu i awdurdodau lleol yn dal i fod yn heriol, ac yn fwy heriol eto, dros weddill tymor y Cynulliad hwn. Yn y cyfamser, Lywydd, credaf fod y setliad gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn dynodi canlyniad teg i lywodraeth leol. Mae'n eu galluogi i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol. Bydd yn rhaid iddyn nhw rymuso eu hymdrechion nawr wrth weithredu'r newidiadau angenrheidiol i allu cynnal y gwasanaethau hynny a sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ledled Cymru. Mae'r setliad sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma yn paratoi’r llwyfan ar gyfer gwneud hynny, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.