Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 18 Ionawr 2017.
Yn dilyn sylwadau’r Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, fel cyn-ynad heddwch, gwn fod cau llys y Fenni, yn fy ardal i, yn ei gwneud bron yn amhosibl i ddiffynyddion fynychu’r ddau lys sydd ar ôl yng Nghwmbrân a Chasnewydd, o ystyried y bydd yn rhaid i lawer ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ôl yr hyn a wyddoch, a ystyriwyd y ffactorau hyn, ac a lwyddodd eich rhagflaenydd i ddylanwadu o gwbl ar y penderfyniadau hyn?