<p>Cau Llysoedd </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 1:42, 18 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, cafwyd ymgynghoriad, ond mae’r pwynt a wnewch yn hollol gywir, a’r un mater yn union a gafwyd yn fy etholaeth fy hun ym Mhontypridd, pan gaewyd y llys hwnnw. Pan gyflwynwyd sylwadau manwl, fel y gwnaed mewn perthynas â Chwmbrân a’r Fenni, i ddangos bod y sail ar gyfer gwneud y penderfyniadau, o ran mynediad at lysoedd, yn ddiffygiol o ran eu sylwedd—fod sicrhau mynediad at lysoedd eraill bron yn amhosibl mewn gwirionedd ar y sail a gâi ei hawgrymu. O’r hyn y gallaf ei weld, mae hynny wedi cael ei anwybyddu’n llwyr.