Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Ionawr 2017.
Mae’r Cwnsler Cyffredinol, a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn wir, yn dweud yn gyson eu bod yn parchu barn pobl Cymru o ran pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin y llynedd. A fydd yn derbyn bod y defnydd honedig o’r uchelfraint frenhinol i sbarduno erthygl 50 yn yr achos hwn yn ansoddol wahanol i bob defnydd blaenorol o’r uchelfraint frenhinol gan fod hyn yn unol â phenderfyniad pobl Prydain yn y refferendwm hwnnw, ac felly, y byddai sbarduno erthygl 50 yn cyflawni dymuniad clir pobl Prydain yn hytrach na’i lesteirio, ac na ddylid cymeradwyo unrhyw ymgais gan Lywodraeth Cymru i sefyll yn ffordd barn pobl Cymru?