1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2017.
5. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar achos y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0021(CG)[W]
Rwy’n ymddiheuro—tybed a wnewch chi ofyn hynny i mi eto. [Chwerthin.]
Diolch. Nawr eich bod wedi’ch cysylltu, Gwnsler Cyffredinol.
5. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar achos y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0021(CG)[W]
Yr achos a gyflwynwyd gennym gerbron y Goruchaf Lys yn y gwrandawiad ar 8 Rhagfyr oedd bod angen Deddf Seneddol i awdurdodi Llywodraeth y DU i roi hysbysiad o dan erthygl 50. Y Senedd yn unig all wneud newid mor sylfaenol i’r setliad datganoli, a rhaid i newid o’r fath ystyried confensiwn Sewel. Fel y gŵyr yr Aelod yn ôl pob tebyg, disgwylir y dyfarniad cyn bo hir.
Diolch i’r cwnsler am ei ateb. Roeddwn i wedi hanner gobeithio y byddai’r dyfarniad wedi dod erbyn imi ofyn y cwestiwn yma, ond a gaf i groesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £84,000 i amddiffyn buddiannau’r Cynulliad hwn a democratiaeth yng Nghymru? Rydw i’n meddwl yr oedd pob ceiniog yn werth ei gwario, ac rwy’n cymharu’r gwariant yna â’r gwariant gan Lywodraeth San Steffan i herio deddfwriaeth gan y Cynulliad yn y gorffennol, ac yn benodol y Bil ynglŷn â thaliadau cyflogau amaeth—mae gwariant gan un Llywodraeth yn dderbyniol ond ddim gan Lywodraeth arall. Wel, i fi, mae’n dderbyniol iawn bod y cwnsler cyffredinol wedi awdurdodi’r gwariant yma. Heb y gwariant a heb yr achos yma, a heb fod yn rhan o’r achos yn y Goruchaf Lys, rwy’n tybied a fyddem ni wedi cael cystal geiriad yn natganiad ac araith y Prif Weinidog, Theresa May, ddoe, pan y’i gwnaeth hi’n glir bod angen ymgynghori â’r Senedd a Llywodraeth Cymru cyn symud ymlaen â’r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Felly, rydw i’n meddwl bod amddiffyniad wedi bod o’r Senedd hon yn yr achos yma.
Gan fwrw y bydd yna achos llys, a gan fwrw bod Llywodraeth San Steffan yn credu y bydd achos llys yn mynd yn eu herbyn nhw, beth fydd y camau ymarferol y mae’r cwnsler cyffredinol yn eu hystyried yn briodol i’r Senedd yma eu gwneud wrth symud ymlaen ac ymateb i ‘trigger-o’ erthygl 50?
Wel, yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Efallai fy mod yn anghytuno ag ef i raddau gan ei bod yn gwbl warthus ein bod wedi gorfod gwario £84,000 ar yr achos. Roedd yn hollol iawn ein bod yn y llys ar gyfer yr achos cyfansoddiadol pwysicaf ers 300 mlynedd, ond credaf ei bod yn gwbl anghywir fod Llywodraeth y DU, ar fater sefydlu uchelfraint frenhinol er mwyn mynd heibio i’r Senedd, wedi apelio yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys gan achosi nid yn unig y gost y bu’n rhaid i ni ei hysgwyddo, ond hefyd y gost y bu’n rhaid i Ogledd Iwerddon a’r Alban ei hysgwyddo wedyn. Ac wrth gwrs, nid yw’n syndod fod Llywodraeth y DU, chwe gwaith, wedi gwrthod datgelu’r swm sylweddol y mae hi hefyd wedi’i wario yn ôl pob tebyg. Ond o ran ein safbwynt, credaf ein bod yn hollol gywir: byddem wedi gwneud cam â phobl Cymru pe na baem wedi sicrhau llais i Gymru.
O ran pwysigrwydd yr hyn a allai ddigwydd, os yw’r dyfarniad yn cadarnhau penderfyniad yr Uchel Lys, sy’n galw am ddeddfwriaeth, yr hyn a wna hynny wedyn—mae’n darparu cyfle ar gyfer ymgysylltiad pellach drwy Sewel, ymgysylltiad â’r broses Seneddol, sef yr hyn y mae Sewel yn ei sefydlu, a gallwn edrych ar gyflawni’r nod, yn ein harferion gwaith, y bydd unrhyw ddeddfwriaeth sy’n cael ei chyflwyno er mwyn sbarduno erthygl 50 hefyd yn cynnwys dyletswydd i ymgysylltu ac ymgynghori â Llywodraethau datganoledig, a buaswn hyd yn oed yn dweud â Llywodraethau rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod llais y bobl yn cael ei gynrychioli’n briodol yn y cytundebau sy’n cael eu llunio a fydd yn effeithio ar swyddi a bywydau pobl, ac ar fuddsoddiad yn ein gwlad.
Mae’r Cwnsler Cyffredinol, a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn wir, yn dweud yn gyson eu bod yn parchu barn pobl Cymru o ran pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin y llynedd. A fydd yn derbyn bod y defnydd honedig o’r uchelfraint frenhinol i sbarduno erthygl 50 yn yr achos hwn yn ansoddol wahanol i bob defnydd blaenorol o’r uchelfraint frenhinol gan fod hyn yn unol â phenderfyniad pobl Prydain yn y refferendwm hwnnw, ac felly, y byddai sbarduno erthygl 50 yn cyflawni dymuniad clir pobl Prydain yn hytrach na’i lesteirio, ac na ddylid cymeradwyo unrhyw ymgais gan Lywodraeth Cymru i sefyll yn ffordd barn pobl Cymru?
Wel, y pwynt sylfaenol nad yw’r Aelod yn ei ddeall, waeth pa mor fanwl yr eglurwyd y peth yn y Goruchaf Lys, yw mai’r ddadl yw nad oes uchelfraint frenhinol i ddisodli cyfreithiau a thanseilio rôl y Senedd. Dyna oedd yr holl bwynt. Nid oes unrhyw uchelfraint frenhinol. Os yw wedi bodoli erioed, fe’i diddymwyd gan y ddeddf hawliau a chan gyfres o benderfyniadau yn y llysoedd. Dyna oedd y pwynt sylfaenol. Ni allai’r Llywodraeth ddibynnu ar uchelfraint nad oedd yn bodoli. Mae’r Senedd yn sofran. Rydym yn gweithredu o dan system o ddemocratiaeth seneddol sofran. Dyna oedd y pwynt sylfaenol. Yn anffodus, ymddengys bod yr Aelod yn dymuno bod yn esgeulus â rheolaeth y gyfraith. A lle y mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol mewn gwledydd eraill, mae wedi arwain at danseilio rheolaeth y gyfraith. Mae’n llwybr peryglus iawn i fynd ar hyd-ddo.