Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 18 Ionawr 2017.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma. Rydw i’n credu y dylem ni fod yn cael dadl ar y pwynt yma, i adrodd yn ôl ar un o’r pwyntiau a grybwyllwyd eisoes. Mae pob peth yn fater gwleidyddol p’un a ydym yn ei licio fe ai peidio. Rydw i’n credu buasai pawb yn cytuno yn y Siambr yma ein bod ni eisiau gweld diwydiant dur yma yng Nghymru sy’n llwyddo, ac, yn wir, yn ffynnu, am ddegawdau i ddod. Rydym ni wedi gweld y penawdau, ac nid ydw i yn mynd i ailadrodd y dadleuon bendigedig sydd wedi cael eu gosod gerbron gan Adam Price a Bethan Jenkins eisoes. Wrth gwrs, mae yna nifer o atebion hefyd wedi cael eu gwyntyllu dros y misoedd diwethaf a thrafod rôl y Llywodraeth yma yng Nghymru a beth yn union gallwn ni ei wneud ynglŷn â phroblem Tata ym Mhort Talbot. Rydym ni wedi bod yn cael y dadleuon ynglŷn â chyfraddau busnes a’r angen sylfaenol i fuddsoddi mewn sgiliau, ac, wrth gwrs, yr holl fusnes o chaffael cyhoeddus.
Mae’n rhaid i ni gael strategaeth fwy eang, a fy mwriad i yn yr ychydig yma o’r ddadl ydy edrych yn fwy eang, efallai, ar sut y gallwn ni gael cynllun sy’n mynd i wthio’r ffordd ymlaen. Achos mae’n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, gyda phob parch, allu dylanwadu ar y marchnadoedd byd eang, ond rydw i’n credu y gall Llywodraeth Cymru weithredu i greu marchnad fwy iach i ddur yma yng Nghymru drwy greu strategaeth ddiwydiannol—strategaeth ddiwydiannol gydag elfennau creiddiol yn canolbwyntio ar sgiliau a’r angen i fagu rhagor o sgiliau, ac sy’n mynd i’r afael â’r holl fusnes o gaffael cyhoeddus a sut yr ydym ni’n gwneud hynny, ac, wrth gwrs, yn wirioneddol mynd i’r afael â’r holl fusnes o isadeiledd a’r angen i fynd ar ôl isadeiledd, fel ffordd o’n cael ni allan o’r picl economaidd yr ydym ni ynddo fo yma ar hyn o bryd.
Rydym ni wedi cael sawl dadl eisoes ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru, y NICW bondigrybwyll. Ac, wrth gwrs, mae trafodaethau yn mynd ymlaen ac rydym ni’n wedi eu chael ac yn gobeithio dwyn perswâd, er mae’n dal yn wir ar hyn o bryd nad yw ein NICW ni ym Mhlaid Cymru yn ymdebygu i’ch NICW chi yn y Llywodraeth. Ond mae yna arwyddion bod pethau yn gallu newid hefyd, ac, wrth gwrs, mae angen i bethau newid. Mae yna £40 biliwn gwerth yr arian enfawr yna o isadeiledd sydd yn aros i’w adeiladu. Mae’n rhaid i ni ryddhau’r potensial yna yn ariannol, gan, wrth gwrs, ddefnyddio adnoddau megis dur yn lleol i’n helpu ni gyflawni’r gwaith sydd angen ei wneud.
Cawsom ni newyddion cyffrous ynglŷn â’r morlyn môr llanw bae Abertawe wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae yna faterion ariannol eto i’w cytuno ar ochr arall yr M4, ond mae yna gyffro mawr, ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r isadeiledd a sgiliau a deunydd crai ddod o rywle, a dyna pam fo angen datblygu strategaeth gynhwysol ddiwydiannol yma yng Nghymru, gyda dur yn rhan hanfodol ohono fo. Felly, mae’r ddadl yma y prynhawn yma yn hynod bwysig. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cael y ddadl. Nid ydw i’n credu bod yna achos lle dylem ni byth fod ddim yn cynnal dadl pan fo gyda ni bobl yn ein hetholaethau sydd yn cael eu peryglu yn uniongyrchol gan beth sy’n mynd ymlaen ynglŷn â dyfodol eu swyddi nhw a’u pensiynau. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gynnal y ddadl, ac nid oes yna ddim ffrwyno ar yr awydd i ni allu gwyntyllu ein profiadau a beth rydym ni’n poeni amdano fo ar sail profiad y sawl sydd yn byw yn ein hetholaethau ni. Ond hefyd mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn ehangach a gweithio yn rhagweithiol a chreu strategaeth ddiwydiannol i Gymru gyda dur yn ei chanol. Diolch yn fawr.