Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 18 Ionawr 2017.
A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddatgan fy mod yn aelod balch o Unite, un o’r undebau a gynrychiolir yn y gwaith dur, wrth gwrs, ynghyd â Community a GMB? Rwy’n gobeithio erbyn hyn y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn ymwybodol o fy angerdd dros y diwydiant dur, fy nghred mewn dyfodol cryf, hyfyw, fy mharch tuag at y gweithwyr dur, a fy ymrwymiad llwyr iddynt hwy, eu teuluoedd a fy nghymunedau.
Roedd yr argyfwng dur yn gwbl glir dros 18 mis yn ôl pan gyhoeddodd SSI fod Redcar yn cau, a dechreuodd Llywodraeth y DU ddod ychydig yn fwy effro mewn gwirionedd i’r heriau sy’n wynebu un o’n diwydiannau sylfaenol. Gwta 12 mis yn ôl y cyhoeddwyd y byddai dros 1,000 o swyddi’n cael eu colli yn Tata Steel UK, a dechreuwyd gweld effaith yr argyfwng hwnnw yma yng Nghymru—wedi’i ddilyn ymhen ychydig fisoedd gan gyhoeddiad y byddai gwaith Tata Steel UK yn cael ei werthu. Ers hynny, mae gweithwyr dur a’u teuluoedd, yn enwedig y rhai yn fy nhref enedigol, wedi mynd drwy uffern heb wybod a fyddai gwaith dur ar ôl yn y dref mewn gwirionedd, a swydd i fynd iddi.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Llywodraeth Lafur hon a’r undebau dur wedi rhoi arweiniad cryf er mwyn diogelu cynhyrchiant dur yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn warthus nad yw Llywodraeth y DU wedi dangos yr un ymrwymiad i’n diwydiant dur. Yn wir, ers newid y Prif Weinidog, ers yr haf diwethaf, prin y clywsom unrhyw gyfeiriad mewn gwirionedd at gynnal diwydiant dur cryf a hyfyw gan unrhyw aelod o Lywodraeth Theresa May. Mae angen i hynny newid. Mae angen iddynt wneud y gefnogaeth honno’n fwy cyhoeddus.
Nid yw’r heriau sy’n wynebu ein diwydiant dur wedi diflannu. Do, mae’r gostyngiad yng ngwerth y bunt wedi helpu’r sector i wella ei sefyllfa ariannol, ond ni ellir seilio cynaliadwyedd hirdymor ar yr amrywiadau, sy’n gyfnewidiol, yn y cyfraddau cyfnewid. Yn yr UE a’r DU, cafwyd cynnydd o 0.8 y cant yng nghyfradd y twf yn y galw am ddur yn 2016 ac mae cynnydd o 1.4 y cant yn y rhagolygon ar gyfer 2017. Mae hynny’n dal i fod dros 20 y cant yn is na ffigurau’r galw ar gyfer 2007. Mewn gwirionedd, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn amcangyfrif y bydd gorgapasiti o 700 miliwn tunnell o ddur yn fyd-eang y flwyddyn nesaf—gyda 400 miliwn tunnell ohono’n ddur o Tsieina, gyda llaw—a bydd y gystadleuaeth fyd-eang honno’n parhau i fod yn heriol a dympio’n dal i fod yn fygythiad.
Pan ychwanegwn at hyn effaith debygol Brexit a’r cyhoeddiad ddoe y bydd y DU yn gadael y farchnad sengl—ac mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod Tata yn allforio tair gwaith cymaint i 27 gwlad yr UE ag y mae’n ei wneud i unrhyw wlad arall—mae’n amlwg fod yna ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau bod y diwydiant yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Rhaid i ni barhau i wneud yr hyn a allwn i gyflawni hynny.
Mae’r Llywodraeth Lafur eisoes wedi cytuno ar dros £16 miliwn o fuddsoddiad i Tata i gefnogi hyfforddiant sgiliau ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, ac ar gyfer gwaith ar ailddatblygu’r gwaith pŵer ym Mhort Talbot fel rhan o’r £16 miliwn a glustnodwyd fel cymorth ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru—arian sy’n amodol ar ymrwymiad gan Tata i barhau gyda dwy ffwrnais chwyth ym mhen trwm y gwaith ym Mhort Talbot—a buddsoddi yn y dyfodol. Mae hefyd wedi dangos uchelgais i sefydlu canolfan ymchwil dur ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, i geisio gwneud Cymru yn ganolfan ar gyfer cynhyrchu dur premiwm.
Mae’r undebau dur wedi gweithio’n ddiflino i ddod i gytundeb ar y cynllun trawsnewid, i herio Llywodraethau’r DU a’r UE ac i sicrhau buddsoddiad a diogelwch swyddi ar gyfer y gweithlu. Mae’r cynnig presennol sy’n cael ei ystyried gan y gweithwyr dur yn benllanw trafodaethau caled a maith gan yr undebau gyda’r nod hwnnw. Maent wedi bod yno ac fe fyddant yno ar gyfer eu haelodau, ac mae’n resyn fod unrhyw un yn honni eu bod yn gwneud cam a’u haelodau. Dylai unrhyw un sy’n gwneud sylwadau o’r fath eu tynnu’n ôl yn fy marn i, ac ymddiheuro i’r undebau.
Nawr yw’r amser i ddangos parch at weithwyr dur a chaniatáu iddynt chwilio am ffeithiau llawn y cytundeb sy’n cael ei gynnig. Rwy’n cytuno gyda fy nghyd-Aelod o Lanelli; nid yw’r cynigion hyn yn wych, nid ydynt yn ardderchog ac mae yna heriau difrifol. Fy marn bersonol yw hyn: pan godwyd materion yn ymwneud â’r sector cyhoeddus dan Lywodraeth y DU, roeddwn yn gyfan gwbl o blaid sicrhau bod unrhyw un a oedd mewn cynllun yn cael caniatâd i aros yn y cynllun hwnnw—roeddent wedi prynu i mewn iddo, dylent gael aros ynddo. Dyna yw fy marn o hyd. Nid wyf wedi newid fy meddwl. Ond yn yr achos hwn, nid wyf yn mynd i fynegi barn ynglŷn â pha ffordd y dylent bleidleisio ar hyn.
Mae’n bwysig ein bod yn eu galluogi i chwilio am y ffeithiau llawn o amryw o ffynonellau—ac fe grybwyllais hyn wrth Brif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK mewn gwirionedd: ‘Sicrhewch gyngor annibynnol ar gyfer eich gweithwyr a gwnewch yn siŵr ei fod yn annibynnol’—er mwyn iddynt bwyso a mesur y cynigion a’r canlyniadau posibl, felly pa ffordd bynnag y byddant yn pleidleisio, bydd yn seiliedig ar eu hystyriaethau personol ac nid ar sïon neu ystryw wleidyddol.
Lywydd, mae cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn y broses hon, i anwybyddu’r trafodaethau a chymryd lle’r undebau mewn unrhyw drafodaethau pellach gyda’r cwmni ar gytundeb ar gyfer y gweithwyr. Dyna y mae’n ei ddweud. Gobeithio nad yw Plaid Cymru yn awr yn dweud na ddylai’r undebau gael rôl mwyach yn y broses o lunio cytundebau gyda’r cwmni ac y dylai Llywodraethau roi cynigion i mewn i’r aelodau yn lle hynny.
Rydym i gyd yn deall bod y diwydiant dur yn fusnes cyfnewidiol a chylchol. Mae’n hynod o sensitif i amrywiadau’r economi fyd-eang.