Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r testun ar gyfer y ddadl heddiw ac i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n deall fy mod wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, o gofio fy rôl statudol o dan gyfundrefnau cynllunio gwlad a thref a thrwyddedau morol.
Y mis diwethaf yn y Siambr hon, nodais fy mlaenoriaethau ynni yn fy natganiad ynni, ac rwy’n meddwl fy mod wedi dweud yn berffaith glir fy mod am symud oddi wrth ‘hen ynni’, fel y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ato. Bellach, rwy’n sicrhau bod ein blaenoriaethau’n cael eu rhannu â Llywodraeth y DU, Ofgem, y Grid Cenedlaethol ac eraill wrth wneud ein seilwaith grid yn addas at y diben. Cyfrifoldeb Ysgrifennydd Gwladol y DU yw rhoi caniatâd i waith seilwaith grid foltedd uchel newydd, ond wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn barti statudol i’r broses ganiatáu, ac mae gennym ddiddordeb mawr yn y gwaith o reoli a datblygu’r seilwaith, o ystyried ei effaith ehangach ar ein cymunedau a’n heconomi ehangach.
Fel gwlad, mae angen grid cadarn, addas at y diben arnom sy’n ein galluogi i gyflawni ein hamcanion ynni carbon isel. Fodd bynnag, mae angen ei gyflwyno mewn ffordd na fydd ar draul yr amgylchedd o’i gwmpas. Yn benodol, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd ein parciau cenedlaethol a’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Mae ganddynt statws cyfartal o ran tirwedd a harddwch golygfaol. Mae’n rhaid i’r ddau gael y lefel uchaf o warchodaeth rhag datblygiadau anaddas, ac mae ein polisi cynllunio cenedlaethol yn ailadrodd amcanion i warchod a gwella harddwch naturiol yr ardaloedd hyn. Gan adlewyrchu hyn, mae ein polisi cenedlaethol ar gyfer prosiectau ynni gwynt adnewyddadwy ar raddfa fawr, fel y nodir yn TAN 8, yn ceisio cyfyngu ffermydd gwynt mawr newydd ar y tir i’r saith ardal chwilio strategol, gan osgoi parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn fwriadol. Rydym yn disgwyl i’r Grid Cenedlaethol fabwysiadu ymagwedd debyg wrth nodi llwybrau ar gyfer llinellau pŵer uwchben newydd i osgoi’r ardaloedd hyn, ac i liniaru effaith cysylltiadau grid newydd ar yr ardaloedd hyn yn briodol os ceir bwriad i’w gosod yn y cyffiniau.
Y safbwynt a ffafrir gennym ar seilwaith grid newydd yn fwy cyffredinol yw gosod ceblau o dan y ddaear; dyna’n bendant yw’r safbwynt rydym yn dechrau ohono. Heb beryglu’r safbwynt hwn, rydym yn parhau â’n hymwneud â’r Grid Cenedlaethol i leddfu effaith weledol unrhyw linellau trosglwyddo newydd posibl, a sicrhau bod y dechnoleg fwyaf priodol yn cael ei defnyddio ar gyfer yr amgylchedd a chymunedau lle y caiff ei defnyddio. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid cael barn gytbwys ar gostau a allai wneud prosiectau, a fyddai fel arall yn dda, yn anymarferol yn ariannol. Rwy’n meddwl mai Sian Gwenllian a grybwyllodd—ac rwy’n ymddiheuro os gwnes i’n bersonol ei gyfieithu’n anghywir—mai 2 y cant yn unig yn fwy oedd cost gosod ceblau o dan y ddaear ar brosiect gogledd Cymru, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’n llawer mwy na hynny. Ond wrth gwrs, rhaid ystyried nifer o ffactorau pan fyddwch yn edrych ar y gost o osod ceblau o dan y ddaear. Mae’n dibynnu ar ddaeareg y fan, faint o ynni sy’n rhaid iddo’i drosglwyddo, hyd y ceblau, a’r dull o osod.
Yn ddiweddar, cyfarfu’r Prif Weinidog â phrif weithredwr y Grid Cenedlaethol, ac ailbwysleisiodd yr angen am ymagwedd gytbwys a sensitif tuag at ddatblygiadau grid mawr. O ran prosiect cysylltu gogledd Cymru ar draws Ynys Môn, fel rhan o broses y gorchymyn caniatâd datblygu, daeth ymgynghoriad cyn ymgeisio y Grid Cenedlaethol i ben ar 16 Rhagfyr 2016. Darparodd Llywodraeth Cymru ymateb ffurfiol i’r Grid Cenedlaethol, lle y nodwyd ein dull a ffafrir ar gyfer gosod ceblau o dan y ddaear, a chroesawyd ymrwymiad y Grid Cenedlaethol yn y dogfennau ymgynghori cyn ymgeisio i gadw’r opsiwn o ddefnyddio’r trydydd croesiad dan arolwg wrth i’r cynigion fynd rhagddynt. Mewn perthynas â chanolbarth Cymru, mae prosiect canolbarth Cymru y Grid Cenedlaethol o dan arolwg yn awr oherwydd penderfyniadau Llywodraeth y DU yn ymwneud â phrosiectau gwynt ar y tir y bwriadwyd eu cysylltu â’r grid.
Rwy’n derbyn nad yw datblygiad y Grid Cenedlaethol bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ein tirweddau’n ddigonol, ac i gydnabod hyn, cyflwynodd Ofgem bolisi newydd fel rhan o’r broses o reoli prisiau i’r perchennog trosglwyddo leihau effaith weledol y seilwaith sy’n bodoli’n barod mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Mae’r rheolaethau ar brisiau a chymhellion yn cynnwys lwfans o £500 miliwn i leddfu effaith weledol y seilwaith trydan presennol, ac rydym yn croesawu’r ffaith fod hyn yn cynnwys y rhan o’r llinell ger Porthmadog yn rhan o’r prosiect hwn. Byddwn yn parhau â’n trafodaethau gydag Ofgem ar ariannu prosiectau posibl yn y dyfodol yng Nghymru mewn perthynas â darpariaethau effaith weledol, gan y credwn fod yna botensial i leihau effaith llinellau trosglwyddo presennol eraill yng Nghymru.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae’r Llywodraeth yn cefnogi egwyddorion y cynnig, lle y bo hynny’n ymarferol. Byddwn yn parhau â’n trafodaethau gyda’r Grid Cenedlaethol ac Ofgem i sicrhau bod y dechnoleg fwyaf priodol yn cael ei defnyddio, a byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd lleihau effaith y trosglwyddiad presennol ar ein tirweddau mwyaf annwyl.