Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 18 Ionawr 2017.
Fel rhywun sy’n byw’n agos iawn at orsaf bŵer Aberddawan ac sydd wedi ymweld â’r rheolwyr yno droeon, onid ydych yn cydnabod bod llawer iawn o fuddsoddiad wedi mynd tuag at reoli allyriadau o’r orsaf bŵer a bod ateb yno? Drwy weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gall yr ateb hwnnw ymestyn oes rhan hanfodol o’r seilwaith ynni yng Nghymru. Onid ydych yn derbyn y byddai’n drasiedi go iawn pe bai’r safle hwnnw’n cau ac y byddai’n golled i’r gymuned leol?