6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Casgliadau Biniau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 18 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:41, 18 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Felly, gwers hynny yw peidiwch byth â thrafod y grid cenedlaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol. [Chwerthin.]

Gadewch i ni fynd yn ôl at y ddadl ac rwy’n meddwl mai’r pwynt yr oeddwn yn ceisio’i wneud oedd un i bwysleisio nad oes tystiolaeth mewn gwirionedd. Efallai fod yna dystiolaeth anecdotaidd, ond nid oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol o gysylltiad rhwng cyfraddau gwahanol o gasglu deunydd ailgylchu, bagiau du ac yn y blaen ac unrhyw fath o broblem hylendid cyhoeddus neu unrhyw fath o bla. Y ffaith amdani yw bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn casglu eu sbwriel y gellir ei gompostio—y gwastraff bwyd a fyddai’n denu plâu—yn wythnosol. Ni fu unrhyw newid dros y blynyddoedd i’r ffaith fod y math hwnnw o sbwriel yn cael ei gasglu’n wythnosol. Felly, nid oes unrhyw dystiolaeth mewn gwirionedd—