Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch. Ymddiheuraf am y camgymeriad hwnnw.
Fel y mae’r gwelliant yn dweud, nid yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon na’n creu risgiau i iechyd y cyhoedd. Nid oes tystiolaeth o gwbl o hynny. Serch hynny, mae’n un o’r materion sydd bob amser yn cael eu crybwyll pryd bynnag y bydd unrhyw un yn awgrymu y gallem gyfyngu ar gasgliadau gwastraff gweddilliol. Oherwydd os yw pobl yn ailgylchu’n iawn, yna bydd y swm o wastraff gweddilliol yn fach iawn ac mae’n berffaith bosibl i chi aros a’i gasglu ar sail tair neu bedair wythnos.