Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud droeon fod amlder casgliadau gwastraff gweddilliol yn fater i awdurdodau lleol unigol, ac mae hyn yn caniatàu iddynt ystyried anghenion lleol ac adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Gwyddom fod y Blaid Geidwadol yn frwd ynglŷn â lleoliaeth ac ymreolaeth mewn llywodraeth leol, ond fel eu plaid yn San Steffan, ac yn arbennig Eric Pickles, maent i’w gweld yn credu, am ryw reswm, na ddylai lleoliaeth fod yn berthnasol i gasglu gwastraff.
Nid oherwydd targedau’r UE yn unig y mae cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff gweddilliol yn bwysig er mai dyna fyddai’r ‘Daily Mail’ am i bawb ohonom ei gredu wrth gwrs. Mae cynyddu cyfraddau ailgylchu yn bwysig oherwydd ei fod yn lleihau ein hallyriadau carbon. Mae’n arbed arian i’n cynghorau drwy leihau costau gwaredu gwastraff ac mae’n hynod o bwysig i economi gylchol lwyddiannus. Mae Simon Thomas yn llygad ei le: mae pobl Cymru wedi croesawu hyn i’r fath raddau nes ein bod, fel y dywedodd, yn bedwerydd yn y byd bellach o ran casglu gwastraff, ac yn gyntaf yn y DU.
Mae tystiolaeth o ddatblygu gwasanaethau gwastraff gan awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf yn dangos y fantais o gyfyngu ar wastraff gweddilliol er mwyn cynyddu lefelau ailgylchu. Ac mae hefyd yn dangos sut y mae awdurdodau lleol wedi gallu lleihau costau gwaredu gwastraff. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyfyngu ar eu casgliadau gwastraff gweddilliol mewn rhyw ffordd. Casgliadau gwastraff pob pythefnos yw’r norm bellach ac rydym wedi gweld cynnydd dramatig yn y lefelau ailgylchu o ganlyniad. Mae 15 o’n 22 awdurdod lleol wedi gwneud newidiadau ychwanegol, er enghraifft, drwy gyfyngu ymhellach ar amlder casgliadau neu ar faint biniau.
Fodd bynnag, gwyddom y gellid ailgylchu mwy na hanner y gwastraff yn y bag du, a phe bai hanner hwnnw’n unig yn cael ei ailgylchu, byddai Cymru’n cyrraedd lefelau ailgylchu uwch na 70 y cant. Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo WRAP, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru gyda gweithgareddau i symud yn nes tuag at y targed hwnnw o 70 y cant a osodwyd gennym yn awr ar gyfer 2025. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys: helpu cynghorau i symud tuag at y model glasbrint; buddsoddi mewn cyfleusterau ailgylchu gwell; lleihau maint biniau ymhellach; canolbwyntio ar ailgylchu gwastraff annomestig; targedu’r nifer fach o bobl nad ydynt yn ailgylchu o gwbl o hyd; a chyfyngu ymhellach ar gasgliadau gwastraff gweddilliol.
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth sy’n cysylltu newidiadau yn amlder casglu gwastraff gweddilliol i gynnydd mewn tipio anghyfreithlon nac effeithiau ar iechyd y cyhoedd. A dylwn ddweud wrth Gareth Bennett fod achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi gostwng 25 y cant ers 2010, er gwaethaf y ffaith fod ein holl awdurdodau, fel y dywedais, yn gweithredu rhyw fath o gyfyngiad ar wastraff gweddilliol.
O ran agweddau iechyd cyhoeddus llai o gasgliadau gwastraff gweddilliol yng Nghymru, mae 99 y cant o gartrefi yn gallu cael casgliadau gwastraff bwyd wythnosol ar draws holl ardaloedd y cynghorau yng Nghymru. Mae rhai hefyd yn cynnig casgliad ar wahân ar gyfer cynhyrchion eraill, megis cewynnau a phadiau anymataliaeth. Mae hyn yn golygu bod llawer o’r arogleuon a geir yn hanesyddol mewn gwastraff bin du yn cael eu dileu. Pan fo gwastraff bwyd yn cael ei dynnu allan o wastraff gweddilliol, dengys ymchwil nad oes fawr o berygl o bryfed neu o ysglyfaethu gan wylanod a llygod.
Ar hyn o bryd rydym yn edrych i weld sut y gallem annog pobl i beidio â defnyddio cynhwysyddion bwyd a diod untro—ac rwyf fi hefyd yn cyfarfod â rhywun yfory, Jenny Rathbone, o gwmni diodydd adnabyddus yn y DU—ac mae hynny’n cynnwys cwpanau coffi a chynhwysyddion cludfwyd polystyren. Rydym hefyd yn ystyried ein hymagwedd tuag at gynlluniau dychwelyd blaendal, ac mae’n rhy gynnar i benderfynu ar y materion hyn cyn i’r gwaith a gomisiynais gael ei gwblhau.
Fel y dywedasom, mae Cymru ar hyn o bryd yn arwain y ffordd yn y DU o ran ailgylchu. Crybwyllodd Simon Thomas arfer da ac mae’n rhaid i mi ddweud, pan fynychais gyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Guernsey ar wastraff—ym mis Tachwedd, rwy’n meddwl—roedd y gwledydd eraill yn edrych ar y fan hon, ar Gymru, i weld yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau y gallent fabwysiadu ein harferion gorau. Ond wrth gwrs, rydym yn anelu i fod yn gyntaf, ac mae Cymru, yn fy marn i, yn arweinydd byd yn y maes hwn, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n meddwl y dylem i gyd fod yn falch ohono yn y Siambr hon. Mae pobl Cymru wedi wynebu’r her o gynyddu cyfraddau ailgylchu ac rydym yn hyderus o’u gallu i ailgylchu mwy. Diolch.