Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 18 Ionawr 2017.
A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn nadl y Ceidwadwyr heddiw? A gaf fi hefyd ddatgan buddiant fel perchennog busnes bach fy hun sydd, yn anffodus i mi, yn gorfod talu ardrethi busnes? Ond hoffwn ddweud fy mod wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau Adam Price heddiw, ac rwy’n cytuno â phob dim a ddywedodd. Mae llawer o fusnesau bach o dan bwysau difrifol, ac nid oes pleser o gwbl mewn gwybod bod busnesau Cymru dan fwy o anfantais na busnesau eraill ledled y DU. Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru helpu i leihau’r baich, wrth gwrs, yw cynorthwyo busnesau bach, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt gan ailbrisio ardrethi annomestig. Rhaid i mi ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chynllunio’n briodol ar gyfer y broses ailbrisio, ac wedi bod yn araf i ymateb.
Nawr, amlinellodd Nick Ramsay yn ei gyfraniad agoriadol rai enghreifftiau o sut yr effeithir ar fusnesau yn ei etholaeth ef. Rwy’n cofio Nick, mewn dadl flaenorol, yn tynnu sylw at lythyr a gafodd gan un etholwr yn ei wahodd i fynychu parti cau, sy’n dangos, wrth gwrs, y darlun llwm y mae llawer o fusnesau yn ei wynebu. Diolch i David Rowlands am ei gyfraniad. Cafodd llawer o’r hyn a ddywedodd David ei ddarparu ar ein cyfer mewn tystiolaeth ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau mewn gwirionedd. Yn ei gyfraniad, nododd Andrew R.T. Davies, wrth gwrs, y ddeiseb a gafodd ei chyflwyno heddiw gan Sally Stephenson, a gyflwynodd ddeiseb â thros 1,600 o lofnodion. Sally yw perchennog siop The Pencil Case yn y Bont-faen sydd wedi ennill gwobrau, siop yr effeithir arni’n ddifrifol gan yr ailbrisio wrth gwrs. Roedd yn dda cael siarad gyda Sally a’i chydweithwyr heddiw. Yn fy etholaeth fy hun, efallai y bydd yr Aelodau’n cofio Megan Lawley o Jazz Clothing, a gyfrannodd yn y fideo ar sgriniau’r Siambr, ac a ddywedodd, yn y bôn, na fuasai’n talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl pe bai’n symud ei busnes ychydig filltiroedd ar draws y ffin i Swydd Amwythig. Oherwydd dyna’r realiti. Yn Lloegr, os oes gennych fusnes gyda gwerth ardrethol o dan £12,000, ni fyddwch yn talu unrhyw beth o gwbl. Yng Nghymru, £6,000 yn unig yw’r terfyn hwnnw a dyna’r realiti i lawer o fusnesau ledled Cymru.
Wrth gwrs, hefyd, yn ystod ymgyrchoedd etholiadol y Cynulliad, rwy’n cofio darllen datganiad i’r wasg gan y Blaid Lafur, gan Eluned Morgan, yn cyhoeddi addewid y Blaid Lafur, pan ymwelodd â siop goffi a llyfrau The Hours—[Torri ar draws.] Cawn weld a fydd Carl Sargeant yn dal i weiddi hwrê pan ddarllenaf hyn: yr hyn a addawodd y Blaid Lafur—a dyma ddyfyniad o’r datganiad i’r wasg—oedd y bydd busnesau Powys yn anadlu ochenaid o ryddhad os aiff Llafur yn ôl i mewn ar 5 Mai gan y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn torri’r ardrethi busnes a delid gan fusnesau bach ym Mhowys.
Wel, ni allai dim fod ymhellach o’r gwir wrth gwrs. Roedd yn addewid ffug, ac fel y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud—ac rwy’n eu dyfynnu hwy yma hefyd—ni ellir disgrifio estyniad o’r cynllun rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau bach fel toriad treth, ond mae’n gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.
Nid fy ngeiriau i; dyna eiriau’r Ffederasiwn Busnesau Bach. Mae hynny’n rhoi’r rheswm pam nad ydym yn cefnogi gwelliant b) y Llywodraeth heddiw mewn rhywfaint o bersbectif.
Rwy’n ddiolchgar, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet am y cynllun y mae wedi’i gyflwyno—yr estyniad o £10 miliwn ychwanegol. Mae hwnnw i’w groesawu, i’w groesawu’n fawr iawn yn wir, ac unwaith eto, digwyddodd hynny o ganlyniad i bwysau gan fusnesau eu hunain a’r Ceidwadwyr Cymreig. Ond hoffwn ddweud bod ein cynnig heddiw wedi gofyn am ragor o fanylion—[Torri ar draws.] A Phlaid Cymru yn ogystal. Roedd ein cynnig heddiw yn gofyn am fanylion y cynllun ac nid yw hynny wedi digwydd heddiw. Nawr, rwy’n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod angen ychydig mwy o wythnosau, ond roeddem yn gwybod am yr ailbrisio amser maith yn ôl. Roedd digon o amser i weithio ar hyn ymlaen llaw. Ond nid yw wedi digwydd, ac mae hynny’n deillio o ddiffyg cynllunio a diffyg diddordeb mewn busnesau bach ar ran Llywodraeth Cymru.
Felly, rwy’n gobeithio heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny’n gyflym, cyn gynted ag y bo modd—oherwydd, fel y dywedodd Nick Ramsay, mae busnesau angen y wybodaeth er mwyn bwrw ymlaen â’u cynlluniau eu hunain, lesoedd ac yn y blaen, yn ogystal. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd.