– Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gymorth ariannol i fusnesau bach. Rydw i’n galw ar Nick Ramsay i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6207 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y £10 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y cyllid ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Bydd ailbrisiadau ardrethi busnes Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn arwain, fel y gwyddom, at fusnesau mewn rhai rhannau o Gymru yn wynebu codiadau anferth yn eu hardrethi. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch yr hyn y mae hynny’n ei olygu yn ymarferol. Mae’n golygu, ar y gorau, fod busnesau â llai o arian i’w fuddsoddi yn eu heiddo, yn eu staff, ac yn y pen draw, yn eu dyfodol. Ar ei waethaf, mae’n golygu bod busnesau’n gorfod cau a rhoi’r gorau iddi. Mae busnesau gwledig yn arbennig yn wynebu caledi yn sgil ailbrisiadau Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gyda rhai’n profi cynnydd canrannol tri digid, ac eraill yn dweud y bydd yn rhaid iddynt gau oherwydd y cynnydd yn eu hardrethi.
Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi dweud bod rhagamcanion presennol yn dangos, yn dilyn yr ailbrisio yn Ebrill 2017, y gallai’r puntdal ardrethi a ragwelir ar gyfer Cymru neidio 10 y cant, sy’n naid syfrdanol, gan olygu mai Cymru fydd y lle â’r trethi uchaf a’r lle lleiaf deniadol i wneud busnes yn y DU, yn seiliedig ar ein system ardrethi—nid fy ngeiriau i, nid geiriau’r Ceidwadwyr Cymreig; geiriau Consortiwm Manwerthu Cymru.
Nawr, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwyf wedi bod yn arbennig o bryderus am hyn i gyd o’r cychwyn cyntaf oherwydd ei effaith yn fy etholaeth yn benodol, lle yr effeithir ar bron i 65 y cant o fusnesau gan yr ailbrisio. Bydd y Monnow Bridge Fish Bar yn Nhrefynwy yn cael ei daro gan godiad o 200 y cant a mwy, gan fynd ag ef o £9,800 i dros £20,000. Bydd salon gwallt Oasis yn Nhrefynwy yn gweld ei ardrethi busnes yn dyblu bron, o £4,250 i £7,110.
Yng nghyllideb 2016, nododd Llywodraeth y DU nifer o newidiadau polisi allweddol er mwyn cynorthwyo busnesau bach a chanolig, gan gynnwys codi trothwy rhyddhad ardrethi busnesau bach o £6,000. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai’r un peth ddigwydd yma. Nawr, ym mis Gorffennaf 2016, gofynnodd Llywodraeth yr Alban am sylwadau i adolygiad Barclay o ardrethi busnes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yma wedi cyhoeddi adolygiad o ardrethi busnes yn 2018, ac rydym yn croesawu’r adolygiad hwn yn fawr; rydym yn credu ei fod yn angenrheidiol. Fodd bynnag, ni allwch feio busnesau am holi a yw hyn yn rhy ychydig yn rhy hwyr i’r busnesau bach a chanolig sy’n wynebu codiadau sylweddol.
Nawr, gan droi at gyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’r cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ar gyfer busnesau bach yr effeithir arnynt gan yr ailbrisio, rydym yn gwybod y bydd hwn ar gael o 1 Ebrill, ac yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, bydd yn ychwanegol at yr hyn a elwir yn doriad treth presennol o £100 miliwn ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r cynllun rhyddhad trosiannol, ond a yw’n ddigon ar gyfer yr ardrethi uchel y bydd rhai busnesau yn eu hwynebu bellach ar ôl 2017? Rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr ystyried codi bandiau rhyddhad ardrethi a rhannu’r lluosydd, fel sydd wedi digwydd dros y ffin yn Lloegr. Yn y cyfamser, o leiaf mae gennym yr ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru i gyllid ychwanegol—ac rydym yn croesawu hynny—ar gyfer busnesau’r stryd fawr ledled Cymru, a gwn fod rhai o’r manylion y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi’u cyhoeddi yn dangos y bydd yn ymwneud yn benodol â busnesau ein strydoedd mawr dioddefus, ac fel y dywedais, rydym yn croesawu hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen eglurder i fusnesau yn awr o ran pa bryd a sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu a sut y bydd busnesau’n gwneud cais amdano ac yn gallu gwneud cais amdano. Mae’n fis Ionawr eisoes, mae hyn bellach wedi bod yn digwydd ers wythnosau, misoedd, ac mae’r cloc yn tician. Rwy’n gofyn i’r Siambr gefnogi’r cynnig hwn, a gadewch i bawb ohonom fwrw iddi gyda’r gwaith o helpu busnesau Cymru i oroesi’r storm hon a symud ymlaen at ddyddiau disglair i ddod.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod:
a) bod ardrethi annomestig yn cyfrannu £1biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a
c) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd sy’n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi’i dargedu, sy’n werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i’r stryd fawr.
Ffurfiol.
Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Rydw i’n cytuno â pheth wmbredd o’r hyn yr oedd yr Aelod dros Fynwy wedi ei ddweud. Rŷm ni’n rhannu’r siom, wrth gwrs, nad oedd y Llywodraeth yn y lle cyntaf wedi gweld yn iawn i ddod â’i hargymhellion ar gyfer diwygio’r system yn gyfan gwbl er mwyn lleihau’r baich sylweddol sydd yna ar fusnesau yng Nghymru. Yn sicr, mae yna dystiolaeth sydd yn dangos, o wahanol bersbectif, fod y baich yng Nghymru yn fwy. Mae hynny, wrth gwrs, yn beth negyddol iawn o ran cystadleurwydd ein heconomi ac o ran ffyniant ein busnesau. Rydw i’n meddwl y byddai fe wedi bod yn well i gyflwyno’r newidiadau yna oedd ym maniffesto’r Blaid Lafur yn gynt. Hynny yw, roedden nhw’n ddigon clir yn eu maniffesto. Gallwn ni gael trafodaeth ehangach ynglŷn â pholisi o ddiwygio mwy radical byth, a dweud y gwir. Rydym ni wedi trafod y posibiliadau yma o symud oddi wrth system ad-drethu busnes yn gyfan gwbl. Ond nid ydw i’n deall pam nad oedd y Llywodraeth wedi cyflwyno’r newidiadau yma yn gynt.
Mae’n gwelliant ni, wrth gwrs, yn cyfeirio at y ffaith yr oeddem ni, o leiaf, wedi llwyddo, oherwydd y cynnydd sylweddol o ganlyniad i’r ailbrisiad a welwyd yn rhannau o Gymru, rhannau penodol o Gymru. Mae ef wedi sôn am ei etholaeth ei hun, ond mae hefyd yn wir, wrth gwrs, mewn rhannau o’r gogledd—y gogledd-orllewin, rwy’n credu, sydd wedi gweld y cynnydd ar gyfartaledd mwyaf. Felly, roeddem ni’n teimlo, yng nghyd-destun y trafodaethau roeddem ni’n eu cynnal gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ar y gyllideb, fod hwn yn fater blaenoriaeth.
Byddai wedi bod yn well o lawer, wrth gwrs, i gael y polisi mwy eang yn ei le, ond o leiaf fe fedrom ni, trwy’r cytundeb a wnaethom ni gyda’r Llywodraeth, dyblu, a dweud y gwir, y lefel o help o ryddhad dros dro a oedd yna ar gyfer busnesau. Rwy’n falch o weld fod hynny’n cynnwys yn arbennig y sectorau hynny o ran manwerthu ac o ran lletygarwch sydd wedi mynegi’r pryder mwyaf ynglŷn ag ailbrisiad. Rwy’n credu bod yr Aelod dros Fynwy yn gofyn am rywbeth digon rhesymol, wrth gwrs. Mae’n rhaid i fusnesau nawr, sy’n dechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yn anffodus ambell un—mwy nag ambell un; sawl un a dweud y gwir—mewn sefyllfa o gyni, orfod penderfynu a ydyn nhw’n mynd i barhau mewn busnes neu beidio. Felly, mae yn bwysig a gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando ar yr apêl gan yr Aelod am wybodaeth glir a chywir ynglŷn â sut mae’r system yn mynd i weithio.
Diolch am ildio; rwy’n cytuno â phopeth a ddywedoch yno, Adam Price. Rhan o’r broblem yw, er bod yr ailbrisio’n dod yn weithredol ym mis Ebrill, mae nifer o fusnesau’n gorfod penderfynu a ddylent arwyddo eu lesoedd yn awr, ar hyn o bryd, a heb wybod pa fath o system rhyddhad ardrethi a fydd ar waith, pa becyn cymorth fydd ar waith ar eu cyfer ym mis Ebrill, mae rhai ohonynt yn dweud, ‘Wel, ni allwn wynebu’r risg a bydd yn well i ni ddod allan o’r sefyllfa rydym ynddi yn awr heb aros’.
Ie, ac, yn sicr, byddai hynny’n rhywbeth rwy’n gobeithio y byddem ni i gyd eisiau ei osgoi a dweud y gwir, achos, fel rydym ni bob amser yn ei ddweud—ac rydym ni’n ei ddweud bob amser achos mae’n digwydd bod yn wir—busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi trwy Gymru. Mae’n sicr yn wir yn yr ardaloedd gwledig, sydd wedi dioddef mwyaf o’r ailbrisiad yma. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn medru dweud wrthym ni sut a phryd bydd y wybodaeth fwy cynhwysfawr yna ar gael i fusnesau fel eu bod nhw’n gallu gwneud y penderfyniadau maen nhw angen eu gwneud. Rwy’n cytuno gyda rhai o sylwadau ehangach yr Aelod ynglŷn ag edrych ar y dulliau gwahanol yr ŷm ni’n gallu eu defnyddio i newid y system yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydy’n—sydd yn wir ar hyn o bryd, rwy’n credu—llyffethair ar ddatblygu economaidd. Mae’n rhaid inni fod yn edrych nawr yn ofalus iawn, yng nghyd-destun yr adolygiad mwy eang yma sy’n mynd i fod ar y polisi, ar yr awgrymiadau mwyaf radical, a dweud y gwir, ynglŷn â sut ŷm ni’n gallu creu cyd-destun trethiannol i fusnesau bach sydd yn ein helpu yn hytrach nag yn ein bwrw ni.
Rwy’n credu bod rhaid i bawb ohonom groesawu a chydnabod y cymorth ariannol a roddir gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y broses brisio yn ddiweddar ac yn wir dros y blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, rydym ni yn UKIP yn pryderu, o ystyried maint y broses brisio yn ddiweddar a’i chanlyniadau, y gallai’r lefelau cyllido presennol yn hawdd brofi’n annigonol. Fodd bynnag, pa un a yw’r arian hwn yn ddigonol ai peidio, rydym yn teimlo ei bod yn hanfodol sicrhau bod y wybodaeth am y cynllun rhyddhad ardrethi ar gael yn rhwydd i’r rhai sy’n gymwys a bod y gweithdrefnau a’r prosesau ymgeisio sydd ynghlwm wrtho mor syml ac mor hygyrch â phosibl.
Yn rhy aml, mae ceisiadau grant wedi bod mor gymhleth ac astrus fel bod busnesau bach wedi cael eu hanghymell rhag mynd ar ôl y cyllid sydd ar gael. Yn dilyn ymlaen o hyn, ac yn yr un modd, mae’n rhaid i’r gweithdrefnau apelio hefyd fod mor syml, hygyrch, a fforddiadwy â phosibl. Yn ogystal, mae amser yn aml yn ffactor allweddol yn y weithdrefn apelio, gan y gall y baich ariannol cynyddol a roddir ar fusnesau drwy gyrraedd y trothwy y daw ardrethi’n daladwy fod yn ffactor hollbwysig yn aml o ran pa un a yw busnes yn goroesi ai peidio. Rydym yn deall y gall gweithdrefnau apelio presennol gymryd hyd at flwyddyn neu fwy i’w penderfynu, ac mae hynny’n aml yn llawer rhy hir i atal busnesau rhag cau.
Felly, gallaf alw ar Lywodraeth Cymru i roi’r holl beirianwaith angenrheidiol ar waith i wneud yn siŵr fod y drefn apelio’n cael sylw cyn gynted ag y bo modd. Oherwydd mae’n amlwg y bydd yr ailbrisiadau hyn yn effeithio ar nifer fawr o fusnesau gyda chanlyniadau a allai fod yn drychinebus—rhywbeth rwy’n siŵr y bydd yr holl bleidiau yn y Siambr hon yn awyddus i’w osgoi.
Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu’n fyr at y ddadl hon. Fel David Rowlands ac eraill yn y Siambr, rwy’n croesawu’r symud ar ran Llywodraeth Cymru wrth iddi gyhoeddi’r arian ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer cefnogi busnesau sydd ar y pen anghywir i’r broses ailbrisio hon. Ond fel y clywsom ddoe gan Nick Ramsay yn ei gwestiwn i’r Prif Weinidog a minnau mewn cwestiynau i arweinydd y tŷ, nid yw hynny’n cael gwared ar y ffaith nad oes fawr o wybodaeth yno i ddeall sut yn union y mae’r £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr yn mynd i gael ei ddefnyddio a’i ddosbarthu i gynorthwyo busnesau mewn gwirionedd. Fel sydd eisoes wedi cael sylw yma y prynhawn yma, mae busnesau mewn cyfyng gyngor go iawn ynglŷn ag arwyddo lesoedd newydd, ynglŷn â gwneud ymrwymiadau o’r fath, ac mae taer angen y wybodaeth honno. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog heddiw yn defnyddio’r cyfle wrth ymateb i’r ddadl hon i roi ychydig mwy o wybodaeth i ni, os nad y pecyn cyfan, gobeithio, fel y gall ein hetholwyr a busnesau sy’n pryderu fel hyn ddeall sut y gall yr arian ychwanegol hwn wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Y bore yma yn y Cynulliad, cyflwynwyd deiseb i Nick Ramsay, Russ George a minnau, ynghyd â Chadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Mike Hedges, gan Sally Stephenson o fusnes Pencil Case yn y Bont-faen a David Cummings o’r siambr fasnach yn Sir Fynwy, a bwysleisiodd y mater hwn ynghylch diffyg gwybodaeth a phwysigrwydd cael y wybodaeth allan cyn gynted ag y bo modd. Rwy’n credu bod y ddadl heno yn gyfle unigryw i’r Gweinidog ganolbwyntio mewn gwirionedd ar gael y wybodaeth honno a defnyddio’r platfform y mae’r ddadl hon yn ei roi iddo, yn amlwg, i hysbysu’r Cynulliad a’r bobl sy’n aros am y wybodaeth honno i allu gwneud y penderfyniadau busnes hynny.
Mae yna dagfa wirioneddol hefyd pan fydd pobl yn ceisio cael ymateb gan y swyddfa brisio, yn enwedig mewn perthynas ag apelio. Dyma bwynt yr wyf wedi’i grybwyll wrth y Gweinidog o’r blaen, ynglŷn â gwneud yn siŵr fod y swyddfa brisio yn ymateb mewn modd amserol pan fydd busnes ar ben anghywir y prisiad. Mae rhai o’r codiadau yn y prisiadau wedi bod yn hollol enfawr, cynnydd, nid o ddegau o bwyntiau canran, ond cannoedd o bwyntiau canran, o ble roeddent o dan y prisiad blaenorol. Ymddengys bod sectorau penodol wedi cael eu brifo’n arbennig gan yr ailbrisio—y sector siopa eilaidd ac yn enwedig y sector bwyd yn y farchnad letygarwch. Mae’n ymddangos bod y sector hwnnw wedi ei chael hi’n sylweddol waeth wrth edrych ar ble y mae’r prisiadau hyn yn brifo busnesau sydd, yn hanesyddol, wedi cael blwyddyn neu ddwy go galed ac sydd o ddifrif yn gwegian rhwng dau feddwl a ydynt yn mynd i barhau’r busnes am y 12 mis nesaf, neu a ydynt am ddweud, ‘Digon yw digon’.
Rydym yn derbyn bod angen diwygio’r gyfundrefn ardrethi busnes, ac edrychwn ymlaen at glywed sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno’r trafodaethau hynny, yn enwedig gyda dyddiad o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ni all fod yn iawn fod gennych system sy’n cosbi busnesau a gyflwynwyd gyntaf yn 1604, rwy’n credu, pan nad oedd Amazon yn bodoli, a phan nad oedd siopa ar-lein ar gael. Yn y pen draw, rydym mewn marchnad gystadleuol iawn yn awr sy’n effeithio’n ddramatig ar hyfywedd llawer o siopau a manwerthwyr mewn lleoliadau gwledig yn arbennig, heb fawr o gyfleoedd i arallgyfeirio eu hincwm, ac ardrethi busnes yw un o’r meini melin allweddol am yddfau’r busnesau hynny.
Rydym wedi siarad yn helaeth am yr hyn y byddem yn hoffi ei weld ar yr ochr hon i’r tŷ, sef codi’r trothwy o £6,000 i £12,000 a’i leihau’n raddol wedyn hyd at £15,000. Byddai hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i allu busnesau i fuddsoddi ynddynt eu hunain, gan ein bod yn gwybod na fyddai’r arian hwnnw’n diflannu i mewn i ryw gronfa wyliau—byddai’n cael ei gadw yn y busnes i greu swyddi ac i greu buddsoddiad. Yn y trafodaethau yn arwain at y newid yn y drefn ardrethi busnes fis Ebrill nesaf, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar y cyfle o ran trothwyon, ac yn sicrhau, yn enwedig mewn perthynas â’r lluosydd ardrethi busnes, ei fod yn edrych ar yr awgrymiadau a gyflwynwyd gennym o’r blaen ar gyfer siopau ar gyrion y dref a’r siopau cadwyn mawr a’r ardrethi y gallent eu talu.
Felly, hoffwn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio ei gyfle heno i roi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd yr arian ychwanegol a ryddhaodd ar 17 Rhagfyr yn cael ei ddosbarthu ac ar gael i fusnesau, gan ein bod ychydig o dan naw wythnos i ffwrdd o’r adeg y bydd yn rhaid i lawer o’r busnesau hynny ddod o hyd i’r arian i dalu pan ddaw’n ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Gadewch i mi ddechrau drwy wneud nifer o bwyntiau cyffredinol nad ydynt wedi’u crybwyll yn y ddadl hyd yn hyn. Credaf ei bod yn bwysig cofnodi nad yw ailbrisio’n cynhyrchu unrhyw arian ychwanegol o gwbl; nid mesur ar gyfer codi trethi ydyw. Yn syml, mae’n ailddosbarthu’r baich fel ei fod yn cael ei rannu’n fwy teg rhwng busnesau ar draws Cymru. Ac er ein bod yn cydnabod bod yna fusnesau sy’n wynebu biliau uwch, mae llawer mwy o fusnesau yng Nghymru yn gweld eu biliau’n gostwng ac yn gallu defnyddio’r arian ychwanegol i wneud yr holl bethau hynny a nododd y cyfranwyr eraill yn y ddadl hon o ran defnyddio’r cyfle hwnnw i fuddsoddi ymhellach yn eu busnesau.
Mae’r asiantaeth brisio yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond lle y gallwn wneud hynny, ac yn enwedig mewn perthynas ag apeliadau, rwy’n bwriadu gweithredu i wneud y system yn fwy effeithiol, yn llai beichus ac o fwy o fudd i fusnesau.
Gadewch i mi ddweud yn ogystal ein bod yn talu trethi am reswm. Rydym yn talu trethi oherwydd ein bod i gyd yn cael y manteision cyfunol o wneud hynny, ac mae busnesau’n cael y budd hwnnw yn ogystal. Mae’r holl ardrethi annomestig a gesglir yng Nghymru yn mynd tuag at gynnal y gwasanaethau y mae busnesau’n dibynnu arnynt. Y palmentydd y mae eu cwsmeriaid yn cerdded arnynt, y ffyrdd y mae eu cwsmeriaid yn gyrru ar hyd-ddynt i’w busnesau, y bobl sy’n gweithio yn eu busnesau sy’n cael eu haddysgu ar draul y wladwriaeth, y gwasanaeth iechyd gwladol sy’n darparu ar gyfer y gweithwyr hynny pan fyddant yn sâl—mae’r holl wasanaethau hyn ar gael i fusnesau, a dyna pam y telir ardrethi busnes.
Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch, Weinidog—diolch i chi am gymryd yr ymyriad—am y refeniw a godir mewn trethi a’r ffordd y caiff ei wario, ond wrth gwrs, yr hyn rydym yn ei wynebu yma yw bod rhai cymunedau’n cael eu taro’n anghymesur gan gynnydd sylweddol, ac nid ydynt yn gweld unrhyw gynnydd sylweddol yn eu gwasanaethau lleol yn sgil y trethi ychwanegol hyn. A ydych yn derbyn bod hynny ynddo’i hun yn achosi llawer o aniddigrwydd ymysg y perchnogion busnes yr effeithir arnynt gan y codiadau hyn?
Lywydd, rwy’n deall wrth gwrs, pan fydd biliau’n newid, bydd y bobl sy’n gorfod talu mwy yn llawer mwy effro i hynny, ac nid oes yr un gallu i dalu gan bawb ohonynt. Dyna pam y byddwn, yn y flwyddyn ariannol nesaf, yn darparu gwerth dros £200 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru, swm mwy nag erioed o’r blaen. Bydd yn cynorthwyo mwy na thri chwarter yr holl dalwyr ardrethi yma yng Nghymru. Mae ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gwerth £100 miliwn eisoes yn cynorthwyo mwy na 70 y cant o fusnesau yng Nghymru. Nid yw dros hanner yr holl fusnesau bach sy’n gymwys yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl, ac rydym wedi ymestyn ein cynllun i’r flwyddyn nesaf a byddwn yn defnyddio eleni i lunio cynllun parhaol wedi hynny.
Oherwydd ein bod wedi cydnabod o’r cychwyn cyntaf fod newidiadau i filiau yn disgyn yn anghymesur ar rai ysgwyddau, cyflwynasom gynllun rhyddhad ardrethi trosiannol gwerth £10 miliwn ar ddechrau’r broses. Bydd yn darparu cymorth ychwanegol i dros 7,000 ychwanegol o dalwyr ardrethi, ac mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i’r cynllun ar draws ein ffin, lle y mae’n rhaid i bobl sy’n talu llai ildio peth o’r budd hwnnw er mwyn lliniaru’r effaith ar bobl sy’n gorfod talu mwy. Pe baem yn gwneud hynny yng Nghymru, yna y bobl a fuasai’n ildio’u budd fuasai’r diwydiant dur a chanolfannau gofal iechyd a busnesau eraill ledled Cymru.
Rydym wedi parhau i wrando ar yr hyn y mae busnesau bach, yn enwedig manwerthwyr y stryd fawr, wedi bod yn dweud wrthym dros yr hydref—fod yna rai trefi a chymunedau yn cael eu heffeithio’n arbennig gan yr ailbrisio er gwaethaf y rhyddhad trosiannol hwn. Rwy’n cydnabod bod Nick Ramsay wedi mynegi’r pryderon hyn yn rheolaidd ar ran busnesau yn ei etholaeth. Ceir llawer o strydoedd mawr ar draws y wlad lle y mae’r ardrethi’n gostwng, ond rydym wedi cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar rai manwerthwyr. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi £10 miliwn yn ychwanegol ar ben yr hyn a gynigiwyd yn wreiddiol fel cymorth ychwanegol i fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, caffis a thafarndai. Unwaith eto, byddwn yn darparu’r arian hwnnw’n llawn o adnoddau Llywodraeth Cymru, a byddwn yn ei ddosbarthu drwy gynllun grant wedi’i dargedu’n arbennig. Bydd y cynllun rhyddhad yn debyg iawn i’r cynllun rhyddhad manwerthu blaenorol ar gyfer Cymru a gâi ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Bydd yn darparu gostyngiad cyfradd safonol yn y rhwymedigaeth i dalwyr ardrethi sy’n gymwys. I lawer o dalwyr ardrethi, yn enwedig y rhai sydd ar hyn o bryd ond yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi rhannol i fusnesau bach, bydd y rhyddhad yn lleihau’r hyn sy’n weddill o’u rhwymedigaeth i ddim. Nawr, rwy’n deall yn iawn y galwadau o gwmpas y Siambr am ryddhau manylion llawn y cynllun, ac rwy’n awyddus i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Cyfarfûm â swyddogion yn gynharach yr wythnos hon i gyflymu’r broses, ond mae’n rhaid i ni lunio’r cynllun yn gyfreithlon, mae’n rhaid i ni ymgynghori â’r awdurdodau lleol a fydd yn gyfrifol am ei weinyddu, ac mae angen i ni siarad â chynrychiolwyr busnes bach yn ogystal, i wneud yn siŵr fod y £10 miliwn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol sy’n bosibl. Bydd hynny’n cymryd ychydig wythnosau yn hwy. Cyn gynted ag y gallwn ei gwblhau, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau’r manylion hynny, ac yna caiff yr arian ei roi ar waith i gynorthwyo’r busnesau y buasem yn dymuno ei weld—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y ffordd rydych wedi taflu goleuni ar y broses, ac rwy’n deall bod yn rhaid i chi weithio o fewn y gyfraith a’r rheoliadau. Pan ddywedwch ychydig wythnosau, efallai y gallwch roi syniad i ni pa mor hir y gallai hynny fod? Oherwydd gwn mai’r cwestiwn cyntaf a gaf fydd: ‘Beth y mae ychydig wythnosau yn ei olygu yn y cyd-destun hwn?’
Rwy’n deall hynny, a’r cyfan y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi ymrwymo i’w wneud mor gyflym ag y gallwn. Gadewch i mi sôn wrthych am un ddilema, Andrew: os gweithiwn arno ychydig yn hwy, efallai—ac efallai’n unig ydyw—y gallwn lunio’r cynllun mewn ffordd a fydd yn galluogi’r rhyddhad i fynd yn awtomatig i’r rhai a fydd yn ei gael, heb fod angen iddynt wneud cais amdano. Yn awr, pe gallem wneud hynny, rwy’n meddwl y buasai hynny’n werth ychydig bach o amser ychwanegol, gan y bydd yn ddi-os yn golygu y bydd mwy o fusnesau’n elwa, ac yn elwa’n awtomatig. Roedd y cynllun blaenorol yn dibynnu ar geisiadau. Rydym yn gwneud y gwaith i weld a yw hynny’n bosibl. Gall gymryd ychydig yn hwy, ond buasai’n gwneud y cynllun yn fwy effeithiol. Cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i wneud hynny, byddwn yn darparu’r manylion er mwyn i bobl allu cael y fantais y dymunwn ei roi iddynt.
Galwaf ar Russell George i ymateb i’r ddadl.
A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn nadl y Ceidwadwyr heddiw? A gaf fi hefyd ddatgan buddiant fel perchennog busnes bach fy hun sydd, yn anffodus i mi, yn gorfod talu ardrethi busnes? Ond hoffwn ddweud fy mod wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau Adam Price heddiw, ac rwy’n cytuno â phob dim a ddywedodd. Mae llawer o fusnesau bach o dan bwysau difrifol, ac nid oes pleser o gwbl mewn gwybod bod busnesau Cymru dan fwy o anfantais na busnesau eraill ledled y DU. Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru helpu i leihau’r baich, wrth gwrs, yw cynorthwyo busnesau bach, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt gan ailbrisio ardrethi annomestig. Rhaid i mi ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chynllunio’n briodol ar gyfer y broses ailbrisio, ac wedi bod yn araf i ymateb.
Nawr, amlinellodd Nick Ramsay yn ei gyfraniad agoriadol rai enghreifftiau o sut yr effeithir ar fusnesau yn ei etholaeth ef. Rwy’n cofio Nick, mewn dadl flaenorol, yn tynnu sylw at lythyr a gafodd gan un etholwr yn ei wahodd i fynychu parti cau, sy’n dangos, wrth gwrs, y darlun llwm y mae llawer o fusnesau yn ei wynebu. Diolch i David Rowlands am ei gyfraniad. Cafodd llawer o’r hyn a ddywedodd David ei ddarparu ar ein cyfer mewn tystiolaeth ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau mewn gwirionedd. Yn ei gyfraniad, nododd Andrew R.T. Davies, wrth gwrs, y ddeiseb a gafodd ei chyflwyno heddiw gan Sally Stephenson, a gyflwynodd ddeiseb â thros 1,600 o lofnodion. Sally yw perchennog siop The Pencil Case yn y Bont-faen sydd wedi ennill gwobrau, siop yr effeithir arni’n ddifrifol gan yr ailbrisio wrth gwrs. Roedd yn dda cael siarad gyda Sally a’i chydweithwyr heddiw. Yn fy etholaeth fy hun, efallai y bydd yr Aelodau’n cofio Megan Lawley o Jazz Clothing, a gyfrannodd yn y fideo ar sgriniau’r Siambr, ac a ddywedodd, yn y bôn, na fuasai’n talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl pe bai’n symud ei busnes ychydig filltiroedd ar draws y ffin i Swydd Amwythig. Oherwydd dyna’r realiti. Yn Lloegr, os oes gennych fusnes gyda gwerth ardrethol o dan £12,000, ni fyddwch yn talu unrhyw beth o gwbl. Yng Nghymru, £6,000 yn unig yw’r terfyn hwnnw a dyna’r realiti i lawer o fusnesau ledled Cymru.
Wrth gwrs, hefyd, yn ystod ymgyrchoedd etholiadol y Cynulliad, rwy’n cofio darllen datganiad i’r wasg gan y Blaid Lafur, gan Eluned Morgan, yn cyhoeddi addewid y Blaid Lafur, pan ymwelodd â siop goffi a llyfrau The Hours—[Torri ar draws.] Cawn weld a fydd Carl Sargeant yn dal i weiddi hwrê pan ddarllenaf hyn: yr hyn a addawodd y Blaid Lafur—a dyma ddyfyniad o’r datganiad i’r wasg—oedd y bydd busnesau Powys yn anadlu ochenaid o ryddhad os aiff Llafur yn ôl i mewn ar 5 Mai gan y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn torri’r ardrethi busnes a delid gan fusnesau bach ym Mhowys.
Wel, ni allai dim fod ymhellach o’r gwir wrth gwrs. Roedd yn addewid ffug, ac fel y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud—ac rwy’n eu dyfynnu hwy yma hefyd—ni ellir disgrifio estyniad o’r cynllun rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau bach fel toriad treth, ond mae’n gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.
Nid fy ngeiriau i; dyna eiriau’r Ffederasiwn Busnesau Bach. Mae hynny’n rhoi’r rheswm pam nad ydym yn cefnogi gwelliant b) y Llywodraeth heddiw mewn rhywfaint o bersbectif.
Rwy’n ddiolchgar, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet am y cynllun y mae wedi’i gyflwyno—yr estyniad o £10 miliwn ychwanegol. Mae hwnnw i’w groesawu, i’w groesawu’n fawr iawn yn wir, ac unwaith eto, digwyddodd hynny o ganlyniad i bwysau gan fusnesau eu hunain a’r Ceidwadwyr Cymreig. Ond hoffwn ddweud bod ein cynnig heddiw wedi gofyn am ragor o fanylion—[Torri ar draws.] A Phlaid Cymru yn ogystal. Roedd ein cynnig heddiw yn gofyn am fanylion y cynllun ac nid yw hynny wedi digwydd heddiw. Nawr, rwy’n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod angen ychydig mwy o wythnosau, ond roeddem yn gwybod am yr ailbrisio amser maith yn ôl. Roedd digon o amser i weithio ar hyn ymlaen llaw. Ond nid yw wedi digwydd, ac mae hynny’n deillio o ddiffyg cynllunio a diffyg diddordeb mewn busnesau bach ar ran Llywodraeth Cymru.
Felly, rwy’n gobeithio heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny’n gyflym, cyn gynted ag y bo modd—oherwydd, fel y dywedodd Nick Ramsay, mae busnesau angen y wybodaeth er mwyn bwrw ymlaen â’u cynlluniau eu hunain, lesoedd ac yn y blaen, yn ogystal. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.