– Senedd Cymru am 6:39 pm ar 18 Ionawr 2017.
Symudwn at y ddadl fer yn awr, a galwaf ar Julie Morgan i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis—Julie.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl yw Cywiro’r cam—honiadau hanesyddol yn ymwneud â disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer plant byddar. Rwyf wedi cytuno, Ddirprwy Lywydd, i roi munud yr un i David Melding a Joyce Watson ar ôl fy nghyfraniad.
Cefais fy ysgogi i gynnal y ddadl hon ar ôl i un o fy etholwyr, Mr Cedric J. Moon MBE, ysgrifennu ataf i ofyn i mi geisio cael ymddiheuriad ac iawndal i gyn-ddisgyblion ysgolion Llandrindod ar gyfer plant byddar sydd wedi honni wrtho eu bod wedi cael eu cam-drin yn yr ysgol yn ystod y 1950au. Gwnaed yr honiadau wrth Mr Moon yn ddigymell, pan oedd yn gwneud gwaith ymchwil gwirfoddol ar gyfer llyfr ar hanes yr ysgol, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Hanes Pobl Fyddar Prydain. Enw’r llyfr yw ‘From a War-torn Town to a Country Exile—A History of the Royal Cambrian and Llandrindod Wells Residential Schools for the Deaf 1846-1973’.
Mae Mr Moon yn ymgyrchydd amlwg dros hawliau pobl fyddar a dyfarnwyd yr MBE iddo am ei waith dros gydraddoldeb a gwasanaeth gwirfoddol i’r gymuned fyddar yn ne Cymru. Yn ei ymchwil, siaradodd â nifer o gyn-ddisgyblion yr ysgol a hefyd darllenodd lyfrau log yr ysgol a chofnodion y corff llywodraethu. Cafodd y llyfr ei gyhoeddi ym mis Medi 2016. Dywedwyd wrth Mr Moon fod un o’r llysfeistri wedi cam-drin rhai o’r bechgyn yn rhywiol yn 1953. Disgrifiwyd y gweithredoedd yn llyfr log yr ysgol fel ‘unsavoury incidents’. Mae’r llyfr log yn dweud bod cwynion y bechgyn wedi’u hymchwilio ar 19 Ionawr 1953, ac ar y diwrnod canlynol, 20 Ionawr, cafwyd cyfarfod yn yr ysgol, lle y cafodd sawl un o’r bechgyn eu cyfweld. Mae’r llyfr log yn dweud,
O ganlyniad i ymchwiliad (manylion annymunol), dywedodd y llysfeistr y byddai’n gadael y diwrnod canlynol. Ar 22 o fis Ionawr 1953, adroddwyd bod Mr X wedi gadael Llandrindod ar fws y bore hwnnw.
Dywedodd y disgyblion bod Mr X wedi ymweld â rhai o ystafelloedd cysgu’r bechgyn yn y nos ac wedi cyflawni troseddau rhywiol yn eu herbyn. Cafwyd digwyddiadau o’r fath hefyd ar wahanol deithiau cerdded ar y penwythnosau. Mae Mr Moon yn ysgrifennu ei bod yn ymddangos bod Mr X yn dewis bechgyn gyda sgiliau lleferydd gwael, am y byddent, yn ôl pob tebyg, yn ei chael hi’n anos cwyno. Yn wir, gwnaed y gŵyn ei hun gan ddisgybl gyda lleferydd da. Gan ddyfynnu’n uniongyrchol o’r llyfr:
Nid oes unrhyw gyfeiriad pellach at Mr X yn y llyfr log. Nid oes unrhyw awgrym o ymwneud ar ran yr heddlu. Nid oes unrhyw gyfeiriad at y mater yng nghofnodion CBAC. Ni chafodd Mr X ei ddiswyddo ond fe ymddiswyddodd ac fe ddychwelodd i Loegr. Ymddengys bod y mater wedi cael ei ysgubo o dan y carped er mwyn osgoi embaras i CBAC a hierarchaeth yr ysgol. Ni chafodd y disgyblion gyfiawnder. Nid yw’n glir a gafodd rhieni’r disgyblion eu hysbysu am y digwyddiadau.
Diwedd y dyfyniad. Felly, yn ogystal â chlywed am y digwyddiadau hyn gan gyn-ddisgyblion, maent yn cael eu nodi’n glir yn llyfr log yr ysgol, ac achosodd hyn i Mr Moon deimlo bod yn rhaid iddo eu cynnwys yn y llyfr. Grŵp bach yw goroeswyr y cam-drin a ddigwyddodd yn ysgol breswyl Llandrindod ar gyfer plant byddar bellach, yn eu 70au, ac yn ddealladwy, maent yn amharod i fynd at yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig lle y ceir problemau cyfathrebu. Roeddwn eisiau sôn am hyn ar lawr y Siambr er mwyn gweld a oes unrhyw ffordd o unioni’r anghyfiawnder hanesyddol hwn. Rwy’n deall bod rhai o’r goroeswyr yn dal i fod wedi’u heffeithio gan yr hyn a ddigwyddodd iddynt ac nad yw treigl amser wedi gwella’u creithiau, fel y mae’r llyfr yn ei ddweud.
Yn anffodus, mae pob plentyn anabl mewn mwy o berygl o gael ei gam-drin na phlant heb anawsterau dysgu ac anawsterau corfforol. Fodd bynnag, ymddengys bod plant byddar sydd â phroblemau lleferydd ac iaith yn un o’r grwpiau risg uchaf. Fel y mae’r adroddiadau yn y llyfr yn dangos, ni ddaeth y cam-drin yn amlwg nes i un o’r bechgyn a oedd â sgiliau cyfathrebu da gael ei gam-drin, am ei fod wedi gallu cael ei ddeall yn glir a rhoddodd wybod amdano. Mae’r NSPCC yn dweud bod plant anabl mewn llawer mwy o berygl o gam-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol ac esgeulustod na phlant nad ydynt yn anabl, ac mae plant byddar ymhlith y grwpiau risg uchel. Daw tystiolaeth o astudiaeth yn yr Unol Daleithiau, y gwaith ymchwil diweddaraf ar y mater hwn yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. Canfu fod plant ag anableddau dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin na chyfoedion nad ydynt yn anabl. Canfu astudiaeth yn yr Unol Daleithiau o blant mewn ysgolion yn Omaha, Nebraska yn 1994-5 fod plant ag anhwylderau cyfathrebu yn fwy tebygol o gael eu cam-drin yn gorfforol ac yn rhywiol na phlant heb yr anhwylderau hynny. A chanfu astudiaeth wahanol, a gomisiynwyd gan yr NSPCC ac a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Amddiffyn Plant yng Nghaeredin, fod plant byddar a phlant anabl, yn ogystal â bod mewn mwy o berygl o ddioddef cam-drin plant, yn profi ystod o rwystrau rhag gallu dod o hyd i ymatebion priodol.
Ceir achosion o gam-drin plant byddar ac anabl nad adroddir amdanynt, ac maent yn aml yn gudd, a cheir ystod o fythau a stereoteipiau ynglŷn â’r gamdriniaeth a brofant. Mae’r rhain yn parhau’r distawrwydd ynglŷn â cham-drin o’r fath ac yn rhwystrau rhag helpu i geisio cydnabyddiaeth amserol ac ymatebion effeithiol. Yn wir, nid yw rhai o ddisgyblion Llandrindod wedi siarad am y cam-drin tan yn awr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, ac rwy’n deall ei fod wedi bod yn gathartig iddynt. Ond wrth gwrs, mae yna lawer ohonynt nad ydynt erioed wedi dweud wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Felly, beth y gellir ei wneud? Nid yw CBAC a arferai redeg yr ysgol yn bodoli mwyach. Mae hanes cryno o’r ysgol yn dangos bod Sefydliad Cambrian ar gyfer Plant Mud a Byddar wedi agor yn 1847 yn Aberystwyth, ond yn Ebrill 1850 symudodd i Abertawe. Gwasanaethai’r bobl bwysig yn ne Cymru ar y pwyllgor rheoli. Chwaraeai plant o’r ysgol ym Mharc Cwmdoncin, ger cartref Dylan Thomas, sy’n eu disgrifio fel y rhai sy’n siarad ar fys a bawd yn un o’i gerddi. Yn 1941, ar ôl y bomio yn Abertawe, symudwyd yr ysgol i ganolbarth Cymru, fel mesur dros dro i gychwyn, ond yn 1948, trosglwyddwyd y cyfrifoldebau dros blant byddar yng Nghymru i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru, ac agorwyd yr ysgol yn Llandrindod yn 1950. Cafodd yr ysgol ei rheoli gan gorff o lywodraethwyr, a oedd yn cynnwys un cynrychiolydd o bob awdurdod lleol, ac fe gaeodd yn 1973. Cefais fy hysbysu gan Lywodraeth Cymru mai’r awdurdod olynol i CBAC yw awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.
Felly, beth y gellir ei wneud? Am beth y chwiliaf drwy gael y ddadl hon? Yr hyn rwy’n chwilio amdano yw cydnabyddiaeth gan awdurdod, gan gorff cyhoeddus, fod y cam-drin hwn wedi digwydd, ymddiheuriad ac iawndal i ddangos i’r rhai a ddioddefodd gamdriniaeth nad ydym yn goddef i honiadau o gam-drin gael eu cuddio, hyd yn oed rhai a ddigwyddodd cymaint o amser yn ôl.
Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd, rwy’n gwybod ei fod yn gyfnod gwahanol iawn, ond mae’n dal yn syfrdanol na chafwyd ymchwiliad swyddogol erioed ac roedd yr ymadawiad—gadawodd yr aelod o staff y gwnaed yr honiadau yn ei gylch heb unrhyw gosb. Roedd y bechgyn ifanc hyn, a oedd yn 10 ac 11 oed ar y pryd, yn byw oddi cartref, yn bell oddi wrth eu rhieni. Ni chawsant wrandawiad. Ni allai llawer ohonynt gyfathrebu, a chawsant eu cam-drin gan oedolyn a oedd mewn safle o ymddiriedaeth. Nid wyf yn meddwl y gallwn ei adael i orffwys yno. Mae’n rhaid i ni siarad allan am na allent hwy wneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dalu teyrnged i Julie Morgan am yr araith dra huawdl ac emosiynol honno, a hefyd am yr holl waith a wnaeth dros y blynyddoedd dros blant, a’i gwaith cyfredol ar gyfer y grŵp hollbleidiol ar blant? Rwyf hefyd wedi cael y fraint o gyfarfod â Cedric Moon, ac rwy’n talu teyrnged iddo yntau hefyd, yn yr achos hwn, am ddwyn ein sylw at y mater hwn, ond hefyd am ei gwaith yn gyffredinol dros bobl â nam ar eu clyw. Rwyf eisiau gwneud un pwynt ychwanegol at yr hyn a ddywedodd Julie. Wrth i amlder yr achosion o gam-drin plant ddod yn fwy a mwy amlwg yn yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi rhoi’r gorau i fod yn naïf ac rydym wedi dechrau gweld y byd fel y mae. Wrth i hyn ddigwydd, mae llawer o bobl sydd bellach yn hen, pobl a allai fod wedi claddu llawer o’r atgofion hyn, yn amlwg yn gweld y pethau hyn yn cael eu trafod ac yn meddwl am eu profiadau eu hunain ac angen eu cwnsela ac i ryw fath o ddatganiad adferol gael ei wneud. O ystyried bod yr ysgol wedi mynd, a bod y tramgwyddwr honedig wedi marw ers amser—ond mae angen i ni wneud rhywbeth am fod cymdeithas wedi gwneud cam â’r bobl hyn.
Hoffwn dalu teyrnged i Julie Morgan am gyflwyno mater sensitif iawn gerbron y Siambr mewn ffordd mor huawdl. Rwy’n meddwl, fel y mae David eisoes wedi dweud, ein bod fel cymdeithas, wedi symud ymlaen. Mae eich ymadrodd yn llygad ei le: o fod yn naïf i agor ein llygaid i realiti. Y mater go iawn yma, mae’n ymddangos, yn ôl yr honiadau, yw bod yr unigolion hyn pan oeddent yn blant, yn ynysig, yn agored i niwed, yn anabl, ac yna’n cael eu cam-drin. Rydym bellach yn cydnabod bod hynny’n rhywbeth sy’n aml iawn yn tynnu sylw at y perygl y gallai hynny ddigwydd mewn cymdeithas. Yr unig gyfraniad ychwanegol yr wyf am ei wneud yma yw bod Julie wedi dweud bod y goroeswyr eisiau i’r hyn a ddigwyddodd gael ei gydnabod, fan lleiaf. O ganlyniad, bydd angen cymorth ar bobl. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yma yw bod y grŵp hwn o bobl yn cael y cymorth y maent ei eisiau, yn y ffordd y cytunant eu bod ei angen.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl. Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Julie Morgan am arwain y ddadl hon heddiw. Er bod y sylwadau y gallaf eu gwneud ar yr honiadau penodol hyn yn gyfyngedig o reidrwydd, mae bob amser yn bwysig i ni ddysgu o’r gorffennol a chydnabod canlyniadau gydol oes cam-drin i oroeswyr. Gan fod Julie wedi nodi’r materion penodol yn ymwneud â honiadau hanesyddol mewn perthynas â disgyblion yn ysgolion preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer plant byddar, yn gyntaf oll, dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth yn ymwneud â cham-drin neu esgeuluso roi gwybod i’r awdurdod lleol perthnasol neu i’r heddlu, sydd â dyletswydd a phwerau i ymchwilio. Rydym o ddifrif ynglŷn â phob honiad o’r fath a buaswn yn annog pobl sy’n teimlo eu bod angen gofal a chefnogaeth, o ganlyniad i gam-drin, i gysylltu â’u hawdurdod lleol i gael cyngor a gofal gan wasanaethau cymorth yn eu hardal. Rwy’n gwybod ein bod i gyd yn cytuno bod cam-drin plant yn ffiaidd ac yn annerbyniol. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal cam-drin rhag digwydd.
Fel y soniwyd yn y ddadl hon, gall plant anabl fod yn arbennig o agored i gam-drin. Mae amddiffyn pobl agored i niwed yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw pobl yn gwrando ar blant anabl bob amser; eu bod, ar adegau, yn ei chael hi’n anodd cael sylw; ac na roddwyd yr un hawliau iddynt â rhai nad oeddent yn anabl. Gan weithio gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol, mae yna hawl bellach i gael cymorth eiriolaeth. Gall plant, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion cyfathrebu, droi at oedolyn y gellir ymddiried ynddynt, gan gynnwys aelod o’r teulu, gweithiwr cymdeithasol y plentyn, ymwelydd annibynnol, neu eiriolwr plant. Rydym yn gwybod nad oedd plant anabl bob amser yn cael cefnogaeth pan oedd ei hangen arnynt. Rydym wedi gwneud y newidiadau hynny yn awr. Felly, os yw plentyn anabl mewn perygl o gael eu cam-drin, o esgeulustod neu o niwed, byddant yn cael cymorth ar unwaith. Bydd y newidiadau rydym wedi’u gwneud yn sicrhau ein bod yn gwrando ar blant ag anableddau, a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rhoi’r plentyn yn gyntaf yw hyn. Dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn ydyw. Rydym wedi symud ymlaen yn sylweddol.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod wedi cyflwyno deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddiweddar, lle y mae dyletswydd ar weithwyr proffesiynol a’n partneriaid statudol bellach i roi gwybod am gam-drin. Rydym hefyd wedi sefydlu’r bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol a’r byrddau diogelu rhanbarthol. Maent yn cryfhau ein gweithdrefnau diogelu ac yn dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd er mwyn sicrhau bod ein dyhead i atal cam-drin yn uchel ar yr agenda. Mae’r byrddau hefyd, Lywydd, yn cael eu cefnogi ymhellach gan y gweithdrefnau amddiffyn plant ar gyfer Cymru gyfan, ac mae’r grŵp adolygu wedi creu mandad i gynhyrchu a rhannu arfer da ar draws Cymru. Mae hyn yn cryfhau’r trefniadau diogelu yma yng Nghymru.
Fel Llywodraeth, rydym wedi dysgu na ddylem byth fod yn hunanfodlon a chredu mai problemau sy’n perthyn i’r gorffennol yw’r rhain. Mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus. Wrth i ni ddysgu mwy gan y rhai sydd wedi cael eu cam-drin, rydym wedi gweithredu drwy gyflwyno deddfwriaeth a thrwy ein polisïau a’n canllawiau. Lywydd, rydym wedi cymryd camau i ddiogelu yn erbyn cam-drin, i hyrwyddo lles ac i drin pob plentyn gydag urddas a pharch. Fel Llywodraeth, rhaid i ni, ac fe fyddwn, yn parhau i wrando, i ddysgu ac i ddeddfu, a byddwn yn sicrhau bod sefydliadau Cymru yn cyflawni eu dyletswydd o ofal i ddiogelu plant rhag camdriniaeth. Mae hwn yn waith i bob un ohonom. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.