Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 24 Ionawr 2017.
A fyddai’r Prif Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd parhaus eisteddfodau'r Urdd i’r iaith Gymraeg, ac a fyddai ef felly yn llongyfarch y bobl sy’n trefnu ac yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd sir Pen-y-bont ym mis Mai a Mehefin eleni ar diroedd coleg Pencoed? Mae’n waith i lawer o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw’r iaith yn fyw ymysg ein pobl ifanc ac yn rhai o’r cymunedau lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf. Ac, wrth gwrs, byddi di’n siŵr o gael croeso mawr yn Neuadd Werdd yng Nghefn Cribwr dydd Gwener yma i fwynhau’r twmpath dawns a chodi arian hefyd.