<p>Siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 24 Ionawr 2017

Wel, diolch. Rwy’n gobeithio y byddaf yn cael croeso yng Nghefncribwr bob tro. Ar un adeg, wrth gwrs, roedd y pentref ei hunan yn f’etholaeth i, cyn iddo gael ei symud i’w etholaeth ef. Fel rhywun sydd wedi bod yn gweithio’n galed i godi arian dros yr Urdd—rwyf wedi trefnu gyda fy ngwraig dwy noson gwis er mwyn codi arian i’r Urdd—rwy’n gefnogol iawn yn bersonol, a hefyd, wrth gwrs, yn cefnogi pob un sy’n cefnogi’r Urdd yn yr ardal er mwyn sicrhau bod yr eisteddfod yn llwyddiannus eleni ac, wrth gwrs, i sicrhau bod yna fwy o dwf yn nifer defnyddwyr y Gymraeg yn y sir yn y pen draw.