Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yn fy nghyfarfod diweddar gyda chyngor Abertawe, awgrymodd y swyddogion y bydd eu ffocws yn ystod y cylch hwn o gynlluniau strategol ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs, ond nid yw’n ymateb i’r galw. Ces i’r argraff gan yr aelod cabinet ei bod hi’n gweld bod y galw llafar presennol am ddarpariaeth yn dod o sector penodol o gymdeithas Abertawe, ac ymatebodd i fy marn i y dylai fod un person o leiaf â sgiliau iaith Gymraeg da ymhob cynllun Dechrau’n Deg gyda pheth amheuaeth. A ydych chi’n cytuno y bydd mynediad cynnar at ein dwy iaith yn ehangu cyfleoedd i blant o’r teuluoedd tlotaf?