Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Y tro nesaf y bydd yn cyfarfod y Prif Weinidog Theresa May yng nghyd-destun y trafodaethau Brexit, a fydd e’n sicr o bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw strategaeth economaidd ranbarthol i Gymru? A wnaiff ef bwysleisio bod yn rhaid i gyllid cyfnewid gan Lywodraeth y DU fod o leiaf yr un faint â’r cyllid UE a gollir, ac, yn olaf, bod yn rhaid iddo fod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru?