Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Ionawr 2017.
Gwnaed addewid gan rai yn yr ymgyrch y llynedd na fyddai Cymru yn colli ceiniog pe byddai Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei anrhydeddu. Os na chaiff, yna bydd gan bobl Cymru bob hawl i ofyn pam y cawsant, os yw hyn yn wir, eu camarwain. Yn ail, mae'n hynod bwysig bod y polisïau economaidd yr ydym ni wedi eu datblygu yma, y diweithdra isaf ers blynyddoedd lawer iawn, is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'r ffigurau buddsoddiad uniongyrchol o dramor gorau ers 30 mlynedd, o fewn rheolaeth lwyr Llywodraeth Cymru i gyflawni’r manteision hynny i bobl Cymru.