<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:43, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Gallwch chi gael gormod o beth da weithiau, ond, yn achos y Prif Weinidog, rwy'n hapus i ddweud nad yw hynny'n wir. [Chwerthin.]

Ond nid yw’n unrhyw ateb i'r cwestiwn a ofynnais funud yn ôl i ddweud bod pethau'n waeth yn Lloegr nag y maen nhw yng Nghymru. Mae'n wir fod gennym ymosodiad o’r ddwy ochr yn y fan yma o alw cynyddol ar feddygon teulu, ac oherwydd nad yw niferoedd meddygon teulu yn cadw i fyny â’r galw cynyddol hwnnw. Mae cyllid y GIG ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru, yn rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru, wedi gostwng ers 2004, o 10 y cant o'r cyfanswm i 7.5 y cant. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai mwy o wario ar feddygon teulu arbed £90 miliwn y flwyddyn i’r GIG erbyn 2020 pe byddem yn ail-flaenoriaethu meddygon teulu o fewn cyllideb GIG Llywodraeth Cymru. Felly, a yw hynny’n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog yn fodlon ei ystyried?