<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae ein cronfa gofal sylfaenol o £43 miliwn yn cefnogi hynny, gyda'r pwyslais ar ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau. Mae hynny'n golygu darparu gwasanaethau, a datblygu gwasanaethau nyrsys a fferyllwyr, ffisiotherapyddion, a gweithwyr cymdeithasol, i weithio ochr yn ochr â meddygon teulu. Nid yw'n fater syml o gynyddu nifer y meddygon teulu; mae'n fater o sicrhau bod digon o weithwyr proffesiynol ar gael mewn lleoliad penodol—rydym ni’n ei weld, er enghraifft, ym Mhrestatyn—fel y gall pobl gael eu cyfeirio at y gweithiwr proffesiynol priodol, yn hytrach na phentyrru’r holl bwysau ar feddygon teulu, pan allai pobl fynd i rywle arall.