Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 24 Ionawr 2017.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r hyn y mae’r ffigurau diweddaraf ar amseroedd aros damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—yn enwedig y rhai sy'n aros mwy na 12 awr—yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw ein bod yn wynebu problem capasiti trwy gydol y flwyddyn, gyda chyfartaledd o tua 3,000 o gleifion yn aros yn hwy na 12 awr fis ar ôl mis, ar ôl mis, ar ôl mis? Onid yw hynny’n dystiolaeth o broblem systemig gyda’r ddarpariaeth o ofal brys yng Nghymru, gan ofyn i staff rhagorol gyflawni'r amhosibl, yn hytrach na rhywbeth y gellir ei feio ar dywydd gwael?