Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yr hyn sy'n digwydd yn y gaeaf, er bod niferoedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn gostwng mewn gwirionedd, i’r bobl sy'n dod i mewn, mae eu cyflyrau yn tueddu i fod yn gyflyrau anadlol tymor hwy ac maen nhw’n hŷn. Yn yr haf, a dweud y gwir, mae derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn tueddu i fod yn uwch, ond maen nhw’n tueddu i fod yn anafiadau, er enghraifft, nad oes angen cymaint o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Dyma’r problemau yr ydym ni’n eu hwynebu: mae angen i ni wneud yn siŵr, fel yr ydym ni wedi ei wneud, bod gwariant ar ofal cymdeithasol yn cael ei gadw'n uchel—ac mae'n uwch nag ydyw yn Lloegr. Maen nhw yng nghanol storm anffodus yn Lloegr yn hynny o beth ar hyn o bryd. Mae'n wir i ddweud bod y galw yn uchel ac rwy’n talu teyrnged i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth am y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu. Ond bydd pob meddyg ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn dweud wrthych—ac, yn wir, fe’i dywedwyd eto heddiw—bod gormod o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys nad oes angen iddyn nhw fod yno. Ac felly yr hyn yr ydym ni’n ei ddweud wrth bobl yw: 'Ewch i weld y fferyllydd, ewch i weld meddyg teulu, a cheir gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau eraill—peidiwch â mynd i adran damweiniau ac achosion brys yn ddifeddwl dim ond oherwydd na all yr adran damweiniau ac achosion brys eich gwrthod'. Mae pobl yn cael eu brysbennu pan fyddant yn cyrraedd adran damweiniau ac achosion brys. Os nad yw pobl yn achosion brys, yna maen nhw’n aros yn hwy—dyna’r gwirionedd; mae’r achosion brys yn cael eu trin yn gyntaf. Felly, oes, mae angen i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain, eu dewisiadau priodol eu hunain, a byddwn ni’n parhau i sicrhau ein bod yn ariannu ein hysbytai a’n hadrannau damweiniau ac achosion brys i fodloni galw sydd wedi bod yn cynyddu ar gyfradd o 7 y cant y flwyddyn.