Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 24 Ionawr 2017.
Roedd yr achos llys fis Medi diwethaf. Cafwyd RWE a’r aelod wladwriaeth, sef Llywodraeth Prydain, yn euog o ganiatáu llygredd anghyfreithlon o orsaf bŵer Aberddawan. Ers hynny, un llythyr sydd wedi cael ei sgwennu gan Gyfoeth Naturiol Cymru at y cwmni, a hwnnw heb ei ateb. Nid oes newid wedi bod i’r permit, i’r drwydded, ar gyfer y llygredd yma. A chadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthyf i wythnos diwethaf bod 1,500 o farwolaethau cynnar yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd llygredd nitrogen deuocsid, sef y llygredd mae gorsaf bŵer Aberddawan yn ei roi allan. Pam ŷm ni yn caniatáu y fath sefyllfa lle mae yna lygredd o orsaf bŵer sy’n torri pob rheol yn cael ei ganiatáu fisoedd ar ôl i achos llys benderfynu bod angen mynd i’r afael â’r broblem hon?