1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan yn sgil dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop fis Medi diwethaf? OAQ(5)0403(FM) [W]
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol sy’n gyfrifol am addasu trwydded amgylcheddol Aberddawan fel ei bod yn rhoi effaith i’r dyfarniad llys. Rŷm ni fel Llywodraeth, wrth gwrs, yn parhau i fonitro’r cynnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE yn ei wneud i sicrhau cydymffurfiaeth.
Roedd yr achos llys fis Medi diwethaf. Cafwyd RWE a’r aelod wladwriaeth, sef Llywodraeth Prydain, yn euog o ganiatáu llygredd anghyfreithlon o orsaf bŵer Aberddawan. Ers hynny, un llythyr sydd wedi cael ei sgwennu gan Gyfoeth Naturiol Cymru at y cwmni, a hwnnw heb ei ateb. Nid oes newid wedi bod i’r permit, i’r drwydded, ar gyfer y llygredd yma. A chadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthyf i wythnos diwethaf bod 1,500 o farwolaethau cynnar yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd llygredd nitrogen deuocsid, sef y llygredd mae gorsaf bŵer Aberddawan yn ei roi allan. Pam ŷm ni yn caniatáu y fath sefyllfa lle mae yna lygredd o orsaf bŵer sy’n torri pob rheol yn cael ei ganiatáu fisoedd ar ôl i achos llys benderfynu bod angen mynd i’r afael â’r broblem hon?
Mae hwn yn rhywbeth i Gyfoeth Naturiol Cymru, ond beth maen nhw’n ddweud wrthym ni yw bod gollwng nitrogen ocsid wedi mynd lawr o Aberddawan ei hunan, ac wedi mynd lawr i lefel sydd ddim yn bell o’r ffin sydd yna nawr, o achos beth ddywedodd y llys. Felly, er ei fod yn rhywbeth i Gyfoeth Naturiol Cymru, mae yn edrych fel bod y gollwng wedi dod lawr ac, wrth gwrs, mae’n fater nawr i weld a oes modd felly caniatáu i’r lle gario ymlaen yn y pen draw.
Roedd gen i ddiddordeb mawr, Brif Weinidog, yn yr ateb yna gan nad wyf i wedi gweld y data, ac roeddwn i’n meddwl y byddai angen rhyw lefel o fuddsoddiad i leihau’r allyriadau hyn, a oedd dros ddwywaith y terfyn Ewropeaidd a gytunwyd. Felly, rwy’n siŵr pe gallech chi roi'r wybodaeth honno yn y Llyfrgell neu ei dosbarthu i'r Aelodau, y byddem yn ddiolchgar dros ben. Ond y peth yw mae’n rhaid i chi weithredu'n gyflym fel y gall y cyhoedd fod yn sicr y byddant yn cael eu diogelu. Bydd yr orsaf bŵer hon yn goroesi hyd at y tymor canolig, er bod hynny ar gyfer galw brig, ond, wyddoch chi, mae ei hallyriadau yn mynd dros Gaerdydd, Bryste a rhannau o orllewin Lloegr; mae hwn yn fater difrifol.
Ydy. Y wybodaeth, fel y dywedais, sydd gennym ni gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw bod allyriadau wedi gostwng o’r gwaith ei hun. Ar 6 Ionawr, ysgrifennodd Cyfoeth Naturiol Cymru at RWE yn nodi ei fwriad i ddechrau ar y broses o ddiwygio trwydded Aberddawan. Ategwyd y llythyr hwnnw gan gais ffurfiol am esboniad o gynlluniau cydymffurfio RWE, a 17 Chwefror yw’r dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r cais am wybodaeth. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod RWE wedi buddsoddi yn y gwaith i leihau allyriadau ond, wrth gwrs, mae'n rhaid dod â nhw o fewn y terfyn fel y gallant gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.