<p>Cynlluniau’r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Cofiwch, wrth gwrs, bod y rheolau'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, nid gennym ni. Ond mae'n gofyn a fyddem ni’n ail-bwysleisio ein safbwynt blaenorol—byddwn yn parhau i wneud hynny. Y safbwynt yr ydym ni’n ei ffafrio o ran seilwaith grid newydd yw un o dan y ddaear, gan ein bod yn gwybod am y sensitifrwydd amgylcheddol ar draws rhannau helaeth o Gymru yn hynny o beth. Mae'n iawn i ddweud nad y pris yw'r unig beth sy'n penderfynu a yw contract yn cael ei ddyfarnu ai peidio na pha un a yw’r gwaith yn cael ei wneud ai peidio. Rwy’n rhannu ei farn ei bod yn bwysig dros ben ystyried amrywiaeth eang o ffactorau pan fyddwn yn edrych ar y costau cyffredinol, yn amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, pan ddaw i osod seilwaith grid newydd. Dyna pam yr ydym ni o'r farn mai adeiladu o dan y ddaear ddylai fod y safbwynt a ffefrir.