1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau'r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn? OAQ(5)0399(FM) [W]
Rydym ni wedi pwyso’n gyson ar y Grid Cenedlaethol i sicrhau bod ei gynigion ar gyfer y llinell newydd ar draws Ynys Môn yn addas i’r diben ac yn ystyriol o’r amgylchedd y bydd yn rhedeg drwyddo.
Ddydd Mercher diwethaf, mi wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad clir iawn mae’n dymuniad democrataidd ni yma ydy y dylai’r Grid Cenedlaethol chwilio am ddulliau amgen o wneud cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru, yn hytrach na gosod peilonau newydd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yma. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i ni yn Ynys Môn, wrth gwrs, lle rydym ni yn wynebu gweld rhes newydd o beilonau yn cael eu codi yn y blynyddoedd nesaf.
Yng ngoleuni’r ffaith bod y Cynulliad yma wedi dangos ei ewyllys ddemocrataidd wythnos yn ôl, a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i gysylltu eto i bwyso ar y Grid Cenedlaethol ac Ofgem i’w darbwyllo nhw y dylen nhw wrando ar lais democrataidd ein Cynulliad Cenedlaethol ni ac ailystyried eu cynlluniau? Wedi’r cyfan, mae pob llais sy’n cynrychioli Ynys Môn, ar wahân i un Aelod rhanbarthol UKIP, ac rwy’n cynnwys yn fan hyn fi fel Aelod Cynulliad, yr Aelod Seneddol, cynghorau plwyf, cynghorau cymuned, y cyngor sir, i gyd wedi datgan ein gwrthwynebiad. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yma wedi cefnogi hynny ac mi fyddwn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Prif Weinidog i wthio ar y grid ac Ofgem i wrando.
Wel, wrth gwrs, mae sefyllfa’r Cynulliad yn agos iawn at sefyllfa’r Llywodraeth, sef ein bod ni’n moyn gweld ceblau’n cael eu rhoi o dan ddaear. Dyna beth yw’r hoff sefyllfa o’n safbwynt ni ynglŷn â hyn. Rwy’n ddigon hapus, wrth gwrs, unwaith eto, i ddweud wrth y Grid Cenedlaethol taw hon yw barn Senedd Cymru ac felly yn farn y dylen nhw ei hystyried yn fanwl.
Pan drafodais hyn gyda’r Grid Cenedlaethol ychydig yn ôl, dywedasant wrthyf eu bod yn cael eu talu am yr hyn y maen nhw’n ei wneud pa un a yw peilonau yn mynd dros y tir neu o dan y ddaear, ond mae Ofgem yn gwneud gwerth gorau i'r cwsmer yn ofynnol, a bydd hyn yn cael ei dalu trwy filiau ynni cwsmeriaid yn y pen draw. O ystyried bod gwerth gorau yn golygu gwerth ansawdd yn ogystal â phris, pa ddeialog fydd eich Llywodraeth yn ei chael gydag Ofgem, o ystyried y pryder a godwyd gan gynghorau tref a chymuned ledled Ynys Môn bod yr opsiwn peilon wedi ei ddewis 'ar sail cost yn unig'?
Cofiwch, wrth gwrs, bod y rheolau'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, nid gennym ni. Ond mae'n gofyn a fyddem ni’n ail-bwysleisio ein safbwynt blaenorol—byddwn yn parhau i wneud hynny. Y safbwynt yr ydym ni’n ei ffafrio o ran seilwaith grid newydd yw un o dan y ddaear, gan ein bod yn gwybod am y sensitifrwydd amgylcheddol ar draws rhannau helaeth o Gymru yn hynny o beth. Mae'n iawn i ddweud nad y pris yw'r unig beth sy'n penderfynu a yw contract yn cael ei ddyfarnu ai peidio na pha un a yw’r gwaith yn cael ei wneud ai peidio. Rwy’n rhannu ei farn ei bod yn bwysig dros ben ystyried amrywiaeth eang o ffactorau pan fyddwn yn edrych ar y costau cyffredinol, yn amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, pan ddaw i osod seilwaith grid newydd. Dyna pam yr ydym ni o'r farn mai adeiladu o dan y ddaear ddylai fod y safbwynt a ffefrir.