Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yr anhawster sydd gennym ni yw ein bod ni’n gweithio gydag Arriva, mae hynny'n wir, ond, o ran bod gennym ysgogwyr—wel, na, ni fyddant yn cyrraedd tan y flwyddyn nesaf. Mae pam na ddatganolwyd hyn o'r blaen yn gwestiwn da, ond o leiaf bydd y cyfle hwn gennym ni o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Gwn yn y gorffennol bod Arriva wedi cael gafael ar locomotifau i dynnu trenau sy’n cael eu tynnu gan locomotif. Gwnaethant hynny yng nghwm Rhymni am nifer o flynyddoedd ac roedd y trenau hynny’n boblogaidd, a dweud y gwir, gyda chymudwyr. Nid oes unrhyw reswm yn fy marn i pam na allent geisio gwneud hynny eto. Ond yr hyn y mae fy nghydweithiwr yr Aelod dros Islwyn wedi ei amlinellu’n daclus yw'r sefyllfa gwbl hurt lle’r ydym ni’n talu cymhorthdal i weithredwyr rheilffyrdd i ddarparu gwasanaeth israddol tra eu bod nhw’n gwneud elw enfawr. Dyma, mae'n debyg, oedd rhyfeddod preifateiddio yn ôl ar ddechrau’r 1990au. Fy marn i yw y dylem ni fod yn yr un sefyllfa â’r Albanwyr, lle gallwn edrych ar gael asiantaeth sector cyhoeddus, dielw yn rhedeg y llinellau rheilffordd er budd pobl Cymru, ac nid trwy dalu cymhorthdal er mwyn talu cyfranddalwyr.