Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 24 Ionawr 2017.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wedi dweud yn ddiweddar bod angen brys am drenau newydd ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod teithwyr wedi hen flino ar drenau hen a chyfyng, gyda rhai cerbydau a ddefnyddir dros 40 mlwydd oed. Mae rhai locomotifau yn dal i redeg ar ôl eu dyddiadau terfyn. Gan fod masnachfraint Cymru a'r gororau ar fin cael ei hadnewyddu, Brif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael o ran darparu trenau modern i wella gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn y de-ddwyrain, a addawyd ers amser maith iawn erbyn hyn?