Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 24 Ionawr 2017.
Datganaf fuddiant gan fod fy chwaer yn gweithio i Network Rail. Brif Weinidog, rwyf wedi cael gohebiaeth gan bobl sy’n teimlo'n rhwystredig am gysylltiadau cludiant cyhoeddus annigonol ym Mlaenau Gwent yn ystod y nos. Ar hyn o bryd, mae trên olaf Caerdydd yn stopio yn Llanhiledd, heb unrhyw gysylltiadau cludiant cyhoeddus i fynd ymhellach i fyny'r cwm, gan adael tacsis fel yr unig ddewis, os oes un o'r rheini ar gael. Felly, a all ef roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynlluniau i agor gorsaf newydd yn Abertyleri? Ond yn bwysig, pa gamau a pha ymyraethau y ydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, a gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu cysylltiadau bws priodol cyn cyflwyno metro newydd?