Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Ionawr 2017.
Rwy’n teimlo bod yr Aelod wedi gwneud ei hun yn ffynhonnell, neu’n dderbynnydd, yn hytrach, yr holl gwynion sy'n gysylltiedig â’r rheilffyrdd yn y Cynulliad o ganlyniad i’w ddatganiad, ond mae'n gwneud pwynt pwysig. Mae Abertyleri, wrth gwrs, wedi ei gynnwys yn y cynlluniau metro fel ardal ehangu. Defnyddiwyd y cledrau rheilffordd ddiwethaf pan oedd pwll glo Rose Heyworth yn dal ar agor tua 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn, bron. Ond mae'n gymuned y mae angen ei chysylltu. Lle nad oes unrhyw reilffyrdd trwm presennol, yna ffefrir rheilffyrdd ysgafn yn amlwg; mae'n haws eu hymestyn ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymunedau a gollodd eu cysylltiadau rheilffordd rai blynyddoedd yn ôl yn eu hadennill yn rhan o'r cynlluniau metro.