<p>Atal Twyll</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:13, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Onid ydych chi’n meddwl ei bod yn eironig bod eich arweinydd, Jeremy Corbyn, yn sôn am system wedi’i rigio y mis hwn, oherwydd, yng Nghymru, Llafur sydd wedi rigio’r system? Daethoch â David Goldstone, sy’n rhoi arian i’r blaid Lafur, i aros yn yr Hilton fel cynghorydd. Gwastraffwyd miliynau gennych chi ar Kancoat; roedd ganddo achos busnes gwan, ond roedd yn digwydd bod wrth ymyl etholaeth y cyn-Weinidog. Derbyniodd Kukd.com grant enfawr ac mae’n cael ei ymchwilio gan Gyllid a Thollau EM erbyn hyn am afreoleidd-dra treth—unwaith eto, mae'r cwmni a roddodd y sicrwydd iddynt yn rhoi arian i’r blaid Lafur. Nid yw Cardiff Aviation yn talu unrhyw rent, ac eto mae eich plaid yn taflu pobl allan o'u cartrefi os nad ydynt yn gallu talu’r dreth ystafell wely. A ydych chi'n hapus â hyn i gyd? A ydych chi’n hapus, Brif Weinidog, â hyn i gyd?