Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 24 Ionawr 2017.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Goruchaf Lys bellach wedi trosglwyddo dyfarniad yn yr achos hwn. Fel yr eglurais i'r Cynulliad pan oeddwn yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i ymyrryd, rwyf o'r farn bod yr achos hwn yn codi materion o bwys difrifol, nid yn unig mewn perthynas â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol, ond hefyd o ran trefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.
Bydd rhoi hysbysiad dan erthygl 50 yn arwain at addasiad o gymhwysedd y Cynulliad a swyddogaethau Llywodraeth Cymru, fel y nodir dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedasom yn ein cyflwyniadau i'r llys na ellir defnyddio’r uchelfraint i hepgor darpariaethau statud cyfansoddiadol yn y modd hwn. Ac, fel y gwnaethom hefyd ddadlau gerbron y llys, yn yr un modd ni ellir cael unrhyw bŵer uchelfraint i osgoi confensiwn Sewel. Byddai hyn yn amddifadu’r Senedd o’r cyfle i ddechrau deialog gyda'r deddfwrfeydd datganoledig am newidiadau i'r fframweithiau datganoli.
Rwyf yn naturiol, felly, yn falch iawn gyda chanlyniad y dyfarniad, gyda’r canlyniad yn y pen draw a gyda chydnabyddiaeth y llys fod confensiwn Sewel yn chwarae rôl gyfansoddiadol bwysig o ran hwyluso perthynas cytûn rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig. I'r rhai hynny nad ydynt yn ymwybodol o ganlyniad yr achos, canfu'r Goruchaf Lys yn erbyn Llywodraeth y DU drwy fwyafrif o wyth i dri. Felly, mae'r llys wedi bod yn glir iawn o ran dyfarniad mai dim ond Senedd y DU all wneud newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol, ac nid Gweinidogion y Llywodraeth. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn parchu’r dyfarniad, ac y bydd, yn y dyddiau nesaf, yn cyflwyno Bil a fydd yn cydnabod sofraniaeth y Senedd ac yn rhoi'r cyfrifoldeb am y penderfyniadau terfynol ar delerau gadael lle mae'n briodol.
Felly, rydym yn croesawu'r posibilrwydd o ddadl lawn ac agored yn y Senedd am yr eiliadau mwyaf arwyddocaol hyn yn ein hanes cyfansoddiadol. Rhaid i syniadau o gloi’r Bil i lawr a’i wneud yn un na ellir ei ddiwygio, ildio yn awr i ddull mwy synhwyrol a pharch tuag at y bobl. Mae Aelodau Seneddol eisoes wedi pleidleisio i gefnogi sbarduno erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth, felly does dim esgus dros geisio cyfyngu dadl yn artiffisial ar y materion sylfaenol bwysig hyn.
Wrth i Fil erthygl 50 symud ymlaen drwy'r Senedd, byddem yn disgwyl i Lywodraeth y DU barchu confensiwn Sewel, fel bod y Senedd yn cael y cyfle i wrando ar y Cynulliad, ac ar y deddfwrfeydd datganoledig eraill. Rydym hefyd yn disgwyl i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyrraedd sefyllfa y gall pob un o’r pedair cenedl yn y DU uno y tu ôl iddi.
Wrth i ni benderfynu ar ein perthynas yn y dyfodol gyda'r UE, rhaid i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni yn ddidwyll, ac mewn ysbryd o gydweithredu didwyll. Mae'n rhwym yn wleidyddol ac yn foesol i sicrhau ei bod yn deall pryderon yr holl genhedloedd a rhanbarthau yn y DU, a bod y rheini i gyd yn cael eu hystyried yn ofalus. Rhaid dangos parch priodol i farn y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y wlad hon yn wynebu trafodaeth o bwysigrwydd aruthrol, a'i bod yn hanfodol bod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae eu rhan wrth wneud iddo weithio. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i wneud hynny. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu swyddi yng Nghymru, a buddsoddiad yng Nghymru, a byddwn yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried, yn unol â'r broses gyfansoddiadol gywir, y mae’r Goruchaf Lys bellach wedi ei chadarnhau.