Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 24 Ionawr 2017.
Pa mor ddiolchgar yr ydym i gyd i Mark Reckless am iddo ddod i Gymru a dweud wrthym bob un, drueiniaid ag yr ydym ni, yr hyn nad oeddem yn ei wybod o'r blaen. Pa mor wych yw hi fod pŵer ei ymennydd anhygoel ar gael i ddangos i ni ein bod i gyd yn anghywir a’i fod ef yn llygad ei le. Mae’r safbwynt a gymerodd y tu hwnt i bob dychan. Gadewch i mi ddyfynnu dau beth iddo. Yn gyntaf oll, model Norwy sydd dan ei lach: 'Model Norwy yw'r cynllun a ffefrir gennym ni' meddai Arron Banks—Arron Banks, dyn yr arian sy’n cefnogi UKIP. Dyna beth ddywedodd ef. Nid fy ngeiriau i ydy’r rhain; geiriau ei blaid ei hun ydyn nhw. Dywedodd Daniel Hannan yr un peth—model Norwy. Rwy’n cofio’r ddadl. Rwy’n cofio’r ddadl yn ystod y refferendwm pan ddywedwyd wrth bobl, 'Peidiwch â phoeni, mae model Norwy ar gael i ni,' ac mae’r chwedl wedi mynd ar led, rywsut, mai pleidlais dros Brexit caled oedd hon. Nage wir.
Nid oes gan ei blaid unrhyw gynghorwyr o gwbl yng Nghymru. Gallaf addo iddo os yw’n credu y bydd pleidleiswyr Llafur yn dilyn cyn AS Ceidwadol drwy bleidleisio i UKIP, yna bydd yn rhaid iddo ailystyried ei safbwynt, er gwaethaf rhagoriaeth amlwg ei ddeallusrwydd. A gaf i ei atgoffa bod y DU wedi erfyn yn daer i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd? Roedd yn dyheu yn enbyd am gael ymuno, ac nid wyf i am fod mewn sefyllfa o’r fath byth eto yn y dyfodol pan fydd y DU yn daer i ymuno ag unrhyw beth. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn rheoli'r broses hon yn briodol ac yn effeithiol.
Dywedodd fod ein safbwynt ni fel jeli gwyn. Does gen i ddim syniad beth mae’r trosiad hwnnw yn ei olygu, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod ei safbwynt ef yn llawn tyllau, fel caws y Swistir—dyna drosiad gwell. Yn y bôn dyma yw’r swm a’r sylwedd : 'Byddwn yn ymadael â’r UE, a bydd yr UE yn cwympo wrth ein traed.' A allaf awgrymu iddo mai hwn yw'r safbwynt mwyaf naïf y gallai unrhyw wleidydd yn y Siambr hon neu yn rhywle arall ei ddewis?
A gaf i hefyd sôn am rai o'r materion eraill a godwyd ganddo? Hon yw’r broblem sylfaenol sydd gennyf gyda'r pwynt a wnaeth ar reoliadau'r UE. Mae’n iawn: os ydym am werthu i'r farchnad Ewropeaidd, byddwn yn dilyn rheolau Ewrop. Ond os ydym am werthu ym marchnad y DU, ni fyddwn yn eu dilyn. Felly, mewn geiriau eraill, bydd y farchnad yn y DU yn derbyn nwyddau o ansawdd gwaeth—stwff salach—gan y bydd safonau yn y DU yn is na'r safonau yn unrhyw le arall yn y byd. Mae hynny'n golygu na fydd allforwyr y DU yn gallu allforio a byddai'r DU yn ôl yn y sefyllfa yr oedd ynddi yn y 1970au pan oedd gan lawer o ddiwydiant y DU enw am gynhyrchu sbwriel. Nid ydym am ddychwelyd i’r sefyllfa honno eto. Rydym am wneud yn siŵr bod y DU a Chymru yn economi y mae pobl yn gweld ein bod yn cynhyrchu nwyddau o'r ansawdd uchaf ynddi, wedi eu prisio yn deg a hefyd, wrth gwrs, nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu am bris uchel ar gyfer y marchnadoedd gwerth uchel hynny. Yr hyn y mae’n ei awgrymu yw dyfodol pan fydd y DU yn eistedd ar ei phen ei hun—dyfodol gwarchodol—ac yn ceisio cytundebau masnach rydd gyda gwledydd nad oes ganddynt ddiddordeb mewn cytundebau masnach rydd.
Rwyf yn erfyn arno: dangoswch beth realaeth. Dangoswch beth realaeth. Os ydych yn dymuno beirniadu, mae gennych berffaith hawl i wneud hynny, ond lluniwch eich cynllun eich hun. Peidiwch â dweud, 'Mae hyn i gyd yn anghywir, ac mae’r hyn yr ydym ni yn ei ddweud i gyd yn iawn.' Nid wyf wedi gweld unrhyw gynllun o gwbl gan UKIP. Fe daflodd e’r fricsen drwy'r ffenestr; rhaid i ni glirio’r llanast. Helpwch i wneud hynny, o leiaf, yn hytrach na sefyll draw ar y palmant yn beirniadu pobl sydd yn ceisio gwneud hynny. Nawr, rwy'n siŵr ein bod wedi ein goleuo gan y rhagoriaeth anghymesur a ddangosodd i ni yn y Siambr, ond rwyf yn dweud hyn wrtho: byddwn bob amser, fel y bydd Plaid Cymru, drwy'r Papur Gwyn hwn, yn amddiffyn buddiannau cenedlaethol Cymru, a buaswn yn ei annog ef i wneud yr un fath.