Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am gyfle i ofyn cwestiwn neu ddau, efallai, os oes amser ar ôl i wneud hynny.
Rwyf innau hefyd yn cychwyn gyda’r mater yma o dystiolaeth, oherwydd mae dyfyniadau wedi cael eu rhoi—rhai yr oeddwn i’n bwriadu eu rhoi—ond, yn amlwg, rydych chi’n cyfaddef mai nid ‘magic bullet’ yw hwn, ac rwy’n deall hynny. Ond, wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa lle mae adnoddau yn brin ac felly mae’n rhaid blaenoriaethu adnoddau lle rŷm ni’n hyderus y byddan nhw’n cael yr effaith fwyaf gwerthfawr. Felly, mae pwysau’r dystiolaeth, yn fy marn i, yn awgrymu bod yna fwledi llawer mwy ‘magic’ y gallech chi fod yn eu saethu gyda £36 miliwn.
Nawr, roeddwn i’n mynd i ddyfynnu Estyn, ac mae’n amserol iawn o gofio, wrth gwrs, yr adroddiad rŷm ni wedi ei weld heddiw yn ymddangos, gyda’r pwyslais ar wella safonau fel mater strategol pwysig iawn, wrth gwrs. Rwyf wedi cael fy mrawychu braidd eich bod chi’n gorfod dibynnu ar adroddiad gan Estyn o 2003. Mae hynny bron iawn mewn oes arall. Roeddwn i’n dal i ddefnyddio peiriant ffacs yn y dyddiau yna. Mae’r byd wedi newid ac, yn sicr, nid oedd yr adroddiad ar sail y cynnig sydd gerbron heddiw. Os rwy’n cofio’n iawn, yn 2003, y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru, felly os oedd yn gymaint o ‘issue’ adeg hynny, mae’n resyn na wnaethant benderfynu mynd i’r afael ag ef bryd hynny. Yn sicr, roeddent yn rhan o’r Llywodraeth, beth bynnag, yn 2003. [Torri ar draws.] Wel, nid fy nadl i yw hi; fe gewch chi ymateb pan fydd lle i ymateb.
Mi oedd maniffesto Llafur, wrth gwrs, yn ymrwymo i wario £100 miliwn ar wella safonau. A allwch chi gadarnhau unwaith ac am byth fod y £36 miliwn yma y gwnaethoch chi ei gyhoeddi ddoe, ond rydych yn dod a dweud wrthym ni amdano heddiw, yn dod o’r swm yna? Rwy’n gofyn oherwydd rŷm ni’n gwybod beth yw barn rhai o Aelodau Cynulliad Llafur am y ‘prospect’ o ddefnyddio’r arian yna i’r diben yma. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei geryddu gan nifer ohonyn nhw hefyd yn hallt llynedd.
Nawr, mae yna rywfaint o dystiolaeth yn dweud os cewch chi faint dosbarth lawr i 20 a llai, yna wedyn rŷch chi o bosib yn gweld ychydig o effaith mewn gwirionedd. Nawr, yn ôl eich maniffesto chi, wrth gwrs, fel Democratiaid Rhyddfrydol, mi oeddech chi’n gosod targed o 25 ar gyfer maint dosbarth. Nid yw e’n ‘explicit’, mae’n rhaid i mi ddweud, yn y datganiad yma—a allwch chi gadarnhau mai dyna yw’r targed o hyd? A allwch chi gadarnhau na fyddwch chi, er enghraifft, yn cefnogi ceisiadau oni bai eu bod nhw’n arwain at ganlyniad o ddosbarth llai na 25? A allwch chi hefyd ddweud mai’ch bwriad chi yw rholio hyn allan yn y pen draw ar draws Cymru gyfan ac erbyn pryd y byddech chi’n gobeithio gwireddu hynny?
Rŷch chi hefyd yn dweud yn eich datganiad fod y dystiolaeth yn awgrymu—y dystiolaeth yn eich ôl chi—fod buddsoddiad fel hyn yn cael yr effaith fwyaf ar wella cyflawniad yn y blynyddoedd cynnar. Nid ydw’n i’n gweld y datganiad yma yn uniongyrchol eto i fod yn ‘explicit’ bod yr arian sydd ar gael yn benodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Yn sicr, nid yw e yn un o’r elfennau yn y criteria. Rwy’n tybio y byddech chi’n licio cadarnhau a ydych chi yn benodol yn targedu’r blynyddoedd cynnar yn unig; neu fel arall, wrth gwrs, rŷch chi’n cyfaddef nad ŷch chi’n defnyddio’r arian i’w bwrpas mwyaf effeithiol o bosibl.
Mae yna ffigur moel o £36 miliwn yn y datganiad. Mae’n debyg bod yna adroddiadau yn y wasg wedi bod ynglŷn â beth yw proffil y gwariant yna. Yn sicr, nid yw e yn y datganiad ac nid yw e mewn unrhyw wybodaeth rydw i wedi’i derbyn fel Aelod Cynulliad ar y mater yma. Rwy’n deall bod yna sblit cyfalaf a refeniw; mae cyfeiriad wedi bod ato fe cyn nawr ac rwy’n meddwl eich bod chi wedi cael eich cwestiynu ar ba sail y mae hynny wedi cael ei wneud, ond nid ydw i’n siŵr a ydw i wedi clywed yr ateb. Ac mae’r cwestiwn yma ynglŷn â chynaliadwyedd y buddsoddiad hefyd yn un arall y mae angen clywed mwy ynglŷn ag ef. Mae’r gair ‘cynaliadwyedd’ yn ymddangos yn y datganiad. Wel, onid dweud mai disgwyl i’r ysgolion dalu yn y pen draw ŷch chi? Oni ddylech chi ddweud hynny’n blwmp ac yn blaen? Achos mae’n ymddangos i mi fod yr ariannu yma am gyfnod penodol ac ar ôl hynny bydd y buddsoddiad yna, yn y pen draw, yn troi mewn i doriad ac fe fyddwn ni’n colli gwerth y buddsoddiad os nad yw’r awdurdod lleol neu’r ysgol yn mynd i gadw i dalu’r buddsoddiad eu hunain.
Yn olaf gen i—ac rwyf wedi codi hyn gyda chi’n flaenorol yn y pwyllgor—a oes yna beryg y gwelwn ni nid dosbarthiadau llai, ond mwy o gynorthwywyr dosbarth? Rwy’n gwybod am enghreifftiau, ac rwy’n gwybod bod yna elfen o bres cyfalaf fan hyn, ond rwy’n gwybod bod yna nifer fawr o ysgolion lle nad oes y gwagle dysgu ar gyfer darpariaeth y tu hwnt i nifer y dosbarthiadau sydd yna nawr. Nid ydw i’n credu bod y swm cyfalaf sydd gerbron fan hyn yn ddigonol i gwrdd â’r angen—efallai y byddech chi’n cytuno â hynny—a liciwn i wybod a oes yna gysylltiad neu berthynas strategol rhwng yr arian cyfalaf rŷch chi’n cyfeirio ato fan hyn â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, oherwydd yn y mwyafrif o ysgolion, rwy’n meddwl, lle y mae yna gyfyngiadau fel hyn, problemau cyfalaf sydd i gyfrif am y broblem yn aml iawn.