Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau gwelliannau hanfodol i ansawdd bywyd pobl ac i'w lles. Rwyf eisiau tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng llawer o faterion amgylcheddol lleol sy'n cyfuno i wneud lleoedd yn ddigalon ac yn afiach. Gall y materion hyn gael effaith hefyd ar gydlynu cymunedol, rhagolygon buddsoddi a’r gallu ar gyfer buddsoddiant a’r gallu i gael gafael ar wasanaethau.
Yn y gorffennol, rydym wedi mynd i'r afael â dulliau gwael o reoli gwastraff, sbwriel, tipio anghyfreithlon, graffiti, baw cŵn, ansawdd gwael yr aer, sŵn, llifogydd lleol, ynghyd â'r angen am fannau gwyrdd a choed trefol, a'r angen i ailgylchu’n well fel materion unigol. Fodd bynnag, mae'r cysylltiadau rhyngddyn nhw i gyd yn amlwg, ac mae pobl mewn cymunedau ledled Cymru yn dioddef eu heffeithiau cyfunol. Mewn rhai meysydd, megis rheoli gwastraff ac ailgylchu, rydym yn gwneud cynnydd rhagorol. Cymru sydd yn arwain y DU ac mae'n bedwerydd yn Ewrop o ran perfformiad ailgylchu. Mae’r cyflawniad hwn o ganlyniad i ymgysylltu’n effeithiol â'r cyhoedd ac, i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae ailgylchu yn gwbl naturiol erbyn hyn. Er hynny, mae angen i bawb ailgylchu, sy'n golygu darganfod sut i ddylanwadu ar y bobl nad ydyn nhw’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried yn fanylach yr agweddau ar newid ymddygiad wrth ymdrin â hyn a phroblemau amgylcheddol lleol eraill.
Rwyf wedi clywed y gwahanol alwadau i wahardd rhai cynwysyddion bwyd neu ddiodydd penodol, gweithredu ardollau, neu gyflwyno system cael arian yn ôl wrth ddychwelyd cynhwysyddion diodydd. Rwy’n bwriadu edrych ar hyn yn gyffredinol wrth i ni adolygu a diweddaru ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, gan nad wyf yn dymuno defnyddio atebion tameidiog. Rwyf wedi gofyn am astudiaeth ar y potensial ar gyfer deddfwriaeth newydd i i ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr yng Nghymru, i wneud cynhyrchwyr cynhyrchion a deunydd pecynnu yn fwy atebol yn ariannol am y gwaith rheoli gwastraff diwedd oes, gan gynnwys sbwriel. O ran cwpanau papur cludfwyd, rydym yn archwilio gyda’r diwydiant diodydd beth arall y gellir ei wneud i ailgylchu cwpanau yng Nghymru, gan gynnwys darparu biniau ailgylchu a'r potensial i’r cwpanau gael eu hailgynllunio.
Rydym i gyd yn cydnabod y manteision o gael strydoedd glân, mannau gwyrdd tawel, coed trefol ac aer glân. Fodd bynnag, mewn rhai cymunedau, mae amodau o'r fath yn wahanol iawn i brofiad cyfredol pobl. Gwyddom o'n dadl fis Mehefin diwethaf cymaint o niwed a all ddod o lygredd aer. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael o bob safbwynt bosibl, gan gynnwys cynlluniau gweithredu cenedlaethol a lleol, mesurau trafnidiaeth, cynllunio trefol a phlannu coed. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu â chydweithwyr trafnidiaeth ac iechyd ar fanteision lluosog teithio llesol, yn arbennig ei gyfraniad at ostyngiad mewn llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae datblygiadau ceir trydan a gwell trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn fesurau pwysig.
Roedd ein hymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer a rheoli sŵn lleol yn gofyn am atebion i gwestiynau pwysig ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion hyn yn fwy effeithiol drwy bethau fel gwell trefniadau adrodd, gweithredu mwy integredig a defnyddio adnoddau mewn modd mwy cydweithredol ac effeithiol. Byddaf yn cyhoeddi datganiad i Aelodau'r Cynulliad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyn diwedd mis Mawrth, gan esbonio sut y byddwn yn newid y system reoli ansawdd aer a sŵn lleol yng Nghymru yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd.
Yna ceir y pethau hynny y mae pobl yn eu gweld bob dydd: baw cŵn, sbwriel, tipio anghyfreithlon a dulliau gwael o drin gwastraff, sy'n dinistrio’r balchder sydd gan bobl yn y cymunedau lle maen nhw’n byw, a’r meddwl sydd ganddyn nhw ohonynt. Mae rhai trigolion yn bodoli mewn rhyw fath o barlys, yn methu â gweld unrhyw bwynt mewn ceisio gwella’r man lle maen nhw’n byw, ac yn aml yn dioddef effeithiau andwyol ar eu hiechyd. Mae hefyd yn amlwg y gall y problemau hyn arwain at ymddygiad mwy gwrthgymdeithasol a throsedd. Rwy'n arbennig o awyddus i weld y drosedd tipio anghyfreithlon yn cael ei thrin yn fwy effeithlon ar draws ffiniau awdurdodau lleol, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach. Mae pobl sy'n byw mewn amgylchedd o ansawdd gwael yn fwy tebygol o ddioddef gorbryder ac iselder drwy aros yn niogelwch cymharol eu cartrefi i osgoi strydoedd budr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o beidio â chael digon o ymarfer corff ac o ddioddef problemau iechyd fel diabetes, trawiad ar y galon a strôc.
Mae plant yn dioddef, hefyd, oherwydd ddiffyg lleoedd glân, diogel i chwarae y tu allan. Dyma lle y mae mynediad at fannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol mor bwysig, ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r rheiny hefyd gael eu cadw yn rhydd o sbwriel a thipio anghyfreithlon neu, yn syml, ni fydd pobl yn eu defnyddio. Mae mannau gwyrdd a choed hefyd yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â llifogydd lleol, aer o ansawdd gwael a sŵn. Mae hyn yn enghraifft dda o’r ffaith mai’r atebion gorau a mwyaf cost-effeithiol i faterion amgylchedd lleol yw'r rhai sy'n mynd i'r afael â mwy nag un broblem. Mae grant refeniw unigol fy adran i, i awdurdodau lleol, wedi'i gynllunio'n benodol i annog cyflawni buddion lluosog o'r fath.
Mae effaith amgylchedd o ansawdd gwael ar economi leol yn glir. Mae isadeiledd yn dioddef ac mae cyflwr gwael cyffredinol lle yn atal buddsoddi. Ceir costau hefyd sy'n gysylltiedig â gweithgareddau glanhau cyson gan awdurdodau lleol, sy’n defnyddio cronfeydd arian prin. Felly, mae'n rhaid i'r angen i atal sbarduno’r camau a gymerwn. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg na all llywodraeth genedlaethol na lleol fod yn effeithiol heb gyfranogiad unigolion a chymunedau.
Gallwn, wrth gwrs, geisio cryfhau mesurau deddfwriaethol a rheoleiddio ac rwyf bob amser yn barod i archwilio achosion cryf dros wneud hynny. Fodd bynnag, fel y mae awdurdodau lleol yn aml yn ein hatgoffa, mae deddfwriaeth yn costio arian i’w gweinyddu a’i gorfodi. Mae atal cynnar effeithiol bob amser yn well na cheisio casglu dirwyon gan bobl nad ydyn nhw bob amser yn gallu eu fforddio. Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 newydd yn ddeddfwriaeth o fath gwahanol, er hyn, sy’n ein hannog i ganolbwyntio ar atal, i gynnwys pobl mewn mesurau sydd wedi'u hintegreiddio'n dda a chydweithredu ar draws sefydliadau wrth i ni weithio i gyrraedd atebion cynaliadwy hirdymor.
Bydd cydweithredu ar draws pob sector yn hanfodol i atal effeithiol, gan gynnwys y trydydd sector, tirfeddianwyr a busnesau lleol, sydd â budd personol mewn gwella amodau amgylchedd lleol. Mae problemau yn codi mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol ac, ym mhob lle, mae’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yno yn hanfodol i ddatblygu atebion lleol effeithiol. Rwy’n credu bod pobl yn cael eu dylanwadu’n gryfach, yn ôl pob tebyg, gan farn eu cyd-ddinasyddion nag y cânt gan y Llywodraeth. Mae angen i ni helpu dinasyddion gofalgar i ddod o hyd i lais a llwyfan i ddylanwadu mewn ffyrdd ymarferol ar ymddygiad pobl eraill yn eu hardaloedd.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd gwraig yn y gogledd ataf, sydd wedi bod yn ymgyrchydd gweithredol yn erbyn sbwriel am flynyddoedd lawer, i ofyn i bwyntiau gael eu hychwanegu at drwyddedau gyrru pobl sy'n caniatáu sbwriel i gael ei daflu allan o’u ceir. Yn fy ymateb iddi hi, eglurais nad oes gennym yng Nghymru y pwerau i wneud i hynny ddigwydd, er y byddaf yn codi ei syniad gyda DEFRA ac Adran Drafnidiaeth y DU. Yn ei llythyr ataf i, roedd y wraig hon yn siarad yn angerddol iawn am ei gwaith casglu sbwriel gyda phlant ac am yr angen am fesurau cryfach i atal y broblem. Gwnaeth ei geiriau argraff gref iawn arnaf. Meddai, ‘Onid oes modd i ni weithio gyda'n gilydd a gwneud iddo ddigwydd?’
Rydym i gyd yn adnabod pobl fel y wraig hon ym mhob cymuned—yn barod i wneud rhywbeth ac yn benderfynol. Os gallwn ni eu helpu i gydweithio â'r Llywodraeth, yn genedlaethol ac yn lleol, i fynd i'r afael â'r problemau sy’n amharu ar eu bywydau, gyda’r cymorth a’r anogaeth iawn, gallan nhw fod yn rym cryfach fyth er lles ein cymunedau.
Wrth gwrs, nid yw pob sbwriel o ganlyniad i ymddygiad grŵp gwrthgymdeithasol o bobl. Gall hefyd fod o ganlyniad i drin gwastraff ac ailgylchu yn ddiofal gan drigolion neu gan y rhai hynny sy'n ei gasglu a’i gludo. Felly, mae angen i bawb fod yn ofalus ac yn ystyriol.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n awyddus iawn i glywed syniadau adeiladol pob Aelod yn y Siambr ar unrhyw fesurau a fydd yn helpu i feithrin balchder mewn lle a grymuso pobl a sefydliadau i sicrhau gwelliannau gwirioneddol yn 2017. Diolch.